Mewn cyfweliad pwerus gyda golwg360, mae Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru, wedi dweud y gall y ddirprwyaeth aeth o Gymru i’r Wcráin “godi llais dros y rhai na fyddan nhw’n goroesi”, ei fod yn gofidio na fydd e’n gweld aelodau o’i deulu eto a’i fod yn teimlo’n euog wrth adael y wlad.
Daeth tad Aelod Seneddol Llafur Pontypridd i’r Deyrnas Unedig ar ôl ffoi o orllewin yr Wcráin yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gyda gweddill ei deulu’n glanio yn Siberia ar ôl gadael yr Undeb Sofietaidd.
Wedi’i fagu mewn cymuned Wcreinaidd yn Reading ac yn medru’r iaith Wcreineg, mae ganddo fe berthnasau agos yn y wlad o hyd.
Fyddai neb wedi gallu darogan graddfa’r gwrthdaro pan aeth y ddirprwyaeth i’r Wcráin, meddai Mick Antoniw, sydd bellach yn poeni y bydd y sefyllfa’n troi’n “ryfel yn erbyn y bobol gyffredin”.
“Pan oeddwn i yn yr Wcráin, fe wnaethon ni gyfarfod nifer o sefydliadau ac undebau llafur sifil a chymdeithasol,” meddai.
“Roedden nhw’n dweud wrthon ni am yr hyn sy’n digwydd yn yr Wcráin, sut fydd y rhyfel yn cael effaith arnyn nhw, beth yw eu pryderon a’u hofnau ar gyfer y dyfodol.
“Dw i ddim yn meddwl fod neb wedi darogan graddfa’r hyn sy’n digwydd bellach, nid yn unig gorchfygu’r Wcráin yn llwyr ond rhyfel sy’n mynd i droi’n ryfel yn erbyn y bobol gyffredin oherwydd bod arfau wedi’u dosbarthu i filiynau o Wcreiniaid, cyn-filwyr ac yn y blaen, sy’n mynd i ddechrau ymladd.”
‘Fydda i fwy na thebyg ddim yn byw’
“Mae gen i ffrindiau personol a pherthnasau sydd yn y sefyllfa honno nawr, ac maen nhw wedi ymuno ag unedau amddiffyn sifil ac wedi mynd â’u dryllau i baratoi i ymladd,” meddai wedyn, yn amlwg dan deimlad a’i lais yn dechrau torri.
“Dw i’n credu mai’r peth sy’n fy nharo i’n fwy na dim yw na fydd nifer o’r rheiny y gwnaethon ni gyfarfod â nhw yn goroesi, fwy na thebyg.
“Roedd neges gan un person y gwnaethon ni gyfarfod â hi, ymgyrchydd undebau llafur oedd wedi mynd i ymuno â’r ymladd ac i amddiffyn Kyiv gyda lluoedd Rwsiaidd yn ceisio cipio ardal Chernobyl lle’r oedd y ffatri niwclear.
“Roedd hi’n dweud, ‘Dw i mewn ac allan o’r bynceri drwy’r amser’.
“Anfonodd un arall neges yn dweud, “Dw i’n iawn ond fydda i fwy na thebyg ddim yn byw’.
“Mae’n beth llwm iawn gwybod efallai na welwch chi rai o’r rheiny y gwnaethoch chi gyfarfod â nhw eto.
“O siarad ag aelodau’r teulu, dw i ddim yn gwybod faint ohonyn nhw fydd yn goroesi hyn, faint ohonyn nhw y bydda i’n eu gweld eto.”
Maidan (chwyldro) 2014
Nid dyma’r tro cyntaf i Mick Antoniw fod yn yr Wcráin ar adeg o wrthdaro, ac yntau wedi teithio yno ar drothwy’r maidan, neu’r chwyldro, yn 2014.
Fel yr eglura, protest oedd hon yn erbyn Llywodraeth yr Wcráin oedd yn gwrthod llofnodi cytundeb undebau llafur gyda Rwsia ac a arweiniodd at gwymp llywodraeth yr Arlywydd Viktor Yanukovych.
“Roedd yr Arlywydd fwy neu lai wedi closio at Putin erbyn hynny yn yr un modd ag yr oedd Lukashenko yn Belarws, felly roedd pobol wedi’u hypsetio yn sgil methu â llofnodi’r cytundeb masnach hwnnw a fyddai wedi golygu cysylltiadau agosach gydag Ewrop,” meddai Mick Antoniw.
“Fe wnaeth yr heddlu guro’r myfyrwyr gan anafu rhai ohonyn nhw’n ddrwg, ac fe arweiniodd hynny at brotestiadau dros y dyddiau wedyn yn ninas Kyiv.
“Fe wnaeth e droi’n maidan wedyn, ac fe arweiniodd hynny at gyfres o brotestiadau a phryderon – diffyg atebolrwydd yr heddlu, y ffordd yr oedd y system etholiadol wedi’i llygru, y ffordd yr oedd y llys cyfansoddiadol wedi cael ei gymryd drosodd gan Yanukovych, mewn gwirionedd yr holl bethau roedd Putin yn eu gwneud i sefydlu unbennaeth arlywyddol yn Rwsia, ac fe ddigwyddodd union yr un peth yn Belarws.”
Mick Antoniw at the Memory Wall on the Maidan of the thousands killed by Russia's invasions. pix Ukraine Solidarity Campaign. pic.twitter.com/yVdVFTXVuS
— Paul Canning (@pauloCanning) February 21, 2022
Eironi
Bron wyth mlynedd union yn ôl, roedd Mick Antoniw yn wynebu realiti bod yn y wlad ar drothwy gwrthdaro ffyrnig, yn union fel yr oedd e yr wythnos hon.
“Fe wnes i gyrraedd fel rhan o ddirprwyaeth oedd yn bwyllgor o ranbarthau ac, wrth gwrs, erbyn i fi gyrraedd roedd pethau’n gwaethygu ac fe gawson ni rybudd na fydden ni’n cael mynd i lawr at y maidan oherwydd doedden nhw ddim yn gallu sicrhau ein diogelwch ni,” meddai.
“Serch hynny, aeth criw ohonon ni lawr, fe wnaethon ni gyfarfod ac aros gyda nhw drwy gydol y nos.
“Diwrnod cynta’r saethu yn yr Wcráin oedd hyn, pan gafodd y tri pherson cyntaf eu saethu gan heddlu’r berkut, ac roedd hi’n glir fod pethau’n gwaethygu.
“Arhoson ni tan oriau man y bore, -14 gradd selsiws ac roedd pobol yn paratoi, ac roedd gorchymyn i fenywod a phlant adael.
“Roedden nhw’n disgwyl ymosodiad ar y diwrnod hwnnw. Ddigwyddodd e ddim ar y diwrnod hwnnw, ond fe wnaeth e bythefnos wedyn.
“Fe wnes i ymweld â’r Maidan sawl gwaith yn ystod y cyfnod hwnnw, ac roedd y protestiadau’n cynyddu ddydd ar ôl dydd.
“Doedd y bobol wnes i siarad â nhw ddim yn gwybod a fydden nhw’n ennill y frwydr ond pe na baen nhw’n ennill, mae’n debyg y byddai Yanukovych a’i wasanaethau diogelwch yn sicrhau eu bod nhw i gyd yn cael eu carcharu, a byddai rhai ohonyn nhw’n cael eu lladd.
“Yn wir, fe wnaeth rhai ohonyn nhw ddiflannu a dydyn nhw ddim wedi cael eu gweld eto hyd heddiw.
“Wrth gwrs, fe arweiniodd y digwyddiadau ar Chwefror 18 a 19 at y chwyldro yn y maidan wyth mlynedd yn ôl. Mae’n eironig fod hyn bron iawn ar yr un dyddiad â’r digwyddiadau hynny.”
Beth oedd effaith y maidan?
Yn ôl Mick Antoniw, daeth tro ar fyd yn y wlad yn sgil y maidan.
“Fe wnaeth e newid cyfeiriad gwleidyddiaeth yr Wcráin, yn nhermau ei hannibyniaeth, ei hunaniaeth, y cynnydd mewn hyder o safbwynt ei hiaith a’i diwylliant ac yn y blaen,” meddai.
“Felly mae hi’n dristwch mawr gweld y digwyddiadau hyn nawr, ac mae rhai ohonyn nhw’n gysylltiedig â’r hyn sy’n digwydd nawr oherwydd fe welodd Putin gyfle i gipio Crimea, fe welodd e gyfle wedyn i geisio cipio dwyrain yr Wcráin.
“Aeth nifer o’r bobol oedd wedi bod yn protestio yn y maidan i ymladd, doedden nhw ddim wedi cael eu hyfforddi ac roedd rhaid iddyn nhw ddysgu wrth eu gwaith.
“Bu farw nifer ohonyn nhw, a nawr mae gennym ni genhedlaeth newydd sydd yn marw hefyd, neu sydd ar fin marw.”
Ymateb y Deyrnas Unedig
Fe fu sancsiynau eisoes gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn erbyn rhai unigolion a busnesau Rwsiaidd, ond rhan fach iawn o’r darlun cyfan yw hynny.
Ac yntau wedi bod yn rhan o ddirprwyaeth asgell chwith yn yr Wcráin, sut mae e’n teimlo felly am ymateb y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan i’r sefyllfa?
“Mae ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cryfhau, ond dyw e’n dal ddim yn ddigon cryf,” meddai, cyn mynd yn ei flaen i restru’r hyn yr hoffai eu gweld fel sancsiynau.
Thank you, but I would prefer proper economic sanctions
— Mick Antoniw MS/AS ? (@MickAntoniw1) February 24, 2022
“Yn fy marn i, mae angen boicot economaidd llwyr o Rwsia a’u cau nhw allan o bob digwyddiad rhyngwladol, digwyddiadau diwylliannol ac economaidd.
“Rhaid bod yna foicot llwyr. Does gennym ni ddim hynny eto.
“Mae angen iddyn nhw gael eu hatal o [system daliadau rhyngwladol] SWIFT ac o gysylltedd rhyngwladol.
“Nid canlyniadau terfynol ydyn nhw ynddyn nhw eu hunain, ond doeddwn i ddim yn hapus pan ddywedodd y prif weinidog [Boris Johnson] fod [boicot] yn un opsiwn o hyd.
“Beth arall sy’n gorfod digwydd er mwyn cyflwyno’r sancsiynau economaidd mwyaf yn erbyn Rwsia?
“Mae’r rhyfel ar y gweill yn yr Wcráin ers wyth mlynedd. Pryd ydyn ni am ddeffro ac arogli’r coffi?
“Dydy rhyw hanner mesurau ddim yn ddigon da, mae’n rhaid i ni fynd yn bellach o lawer nag yr ydyn ni ar hyn o bryd.
“Dw i’n credu bod modd gwneud pethau eraill i helpu Llywodraeth yr Wcráin yn economaidd nawr – canslo dyledion rhyngwladol y llywodraeth, rhoi’r rhyddid iddi nawr i allu gwneud mwy o ran ailadeiladu.
“Y cwestiwn nawr yw fod rhaid i ni aros i weld beth sy’n digwydd yn yr Wcráin oherwydd, er bod byddin Rwsia yn gryfach o lawer a bod ganddi gefnogaeth o’r awyr, y realiti yw fod yna lawer o bobol sy’n mynd i fod yn ymladd.
“Mae’n bosib iawn y bydd e’n troi’n ryfel y bobol gyffredin, gyda channoedd o filoedd o bobol yn ymladd ar gornel strydoedd ac yn y blaen.
“Mae hyn ymhellach o fod drosodd, y drasiedi yw faint o bobol sy’n debygol o farw yn y cyfamser, a faint o bobol sy’n mynd i ddioddef hefyd.”
— Mick Antoniw MS/AS ? (@MickAntoniw1) February 24, 2022
Pwysigrwydd yr asgell chwith ar lawr gwlad
Yn ôl Mick Antoniw, roedd hi’n bwysig fod y ddirprwyaeth asgell chwith yn mynd i’r Wcráin er mwyn “cyfarfod â’r grwpiau hynny sydd bob amser yn cael eu colli ac nad ydyn ni byth yn ymgysylltu â nhw”.
Ar ben hynny, maen nhw’n gallu gwneud rhywbeth gwahanol i wleidyddion mewn capasiti swyddogol, gyda’r gwleidyddion yn eu plith yn pwysleisio mai fel unigolion ac nid fel gwleidyddion roedden nhw yno.
“Mae gennych chi ddirprwyaethau sy’n mynd a dod, maen nhw’n cael yr holl gyfarfodydd hyn rhwng gweinidogion…
“Ond yn aml iawn, mae yna bobol ar lawr gwlad, pobol sy’n gweithio, undebwyr llafur, undeb y gweithwyr rheilffyrdd, undeb y gweithwyr adeiladu, fe wnaethon ni gyfarfod â phobol o undeb y glowyr, â grŵp sy’n cyfateb i’r Gyngres Undebau Llafur, â’r undeb annibynnol, â’r gymuned lesbiaidd a hoyw, â theuluoedd carcharorion sy’n cael eu dal yn yr Wcráin feddianedig a rhai ohonyn nhw wedi’u harteithio.
“Fe wnaethon ni gyfarfod hefyd â rhai o’r tartars Crimeaidd, pobol sy’n cael eu gormesu’n giaidd ac yn ddifrifol yn Crimea ar hyn o bryd.
“Felly os ydych chi’n rhoi’r holl sefydliadau hynny at ei gilydd, maen nhw’n rhan mor bwysig o gymdeithas yr Wcráin ac roedden nhw mor falch o allu ein gweld ni, ac roedden ninnau mor falch ein bod ni’n gallu bod yno gyda nhw, yn siarad gyda nhw, a dw i mor falch ein bod ni wedi cael y cyfle hwnnw.
“Am wn i, y cyfan sydd gen i yw teimlad o euogrwydd fy mod i wedi gorfod eu gadael nhw ar ôl. Nhw sy’n ymladd, ond rydyn ni’n siarad drostyn nhw.
“Dw i’n meddwl ei bod hi mor bwysig i ni fod yno oherwydd i’r bobol hynny sydd ddim yn mynd i allu goroesi’r ymosodiad hwn, gallwn ni godi llais drostyn nhw.
“Roedden ni yno, fe wnaethon ni wrando ar yr hyn ddywedon nhw, yn gwybod beth oedd eu pryderon a’r hyn roedden nhw eisiau i ni ei wneud.
“Byddwn ni’n atgof byw iddyn nhw o ran yr hyn sy’n digwydd.”