Ynghyd ag arweinydd Plaid Cymru Adam Price, Cwnsler Cyffredinol Cymru Mick Antoniw, Mick Whelan o undeb ASLEF a’r cyn-Aelod Llafur o Senedd Ewrop Julie Ward, aeth Paul Mason i’r Wcráin i geisio deall y sefyllfa’n well o safbwynt pobol a mudiadau dosbarth gweithiol ar lawr gwlad. Dyma ail ran ei sgwrs gyda golwg360 ar ôl dod adref, ond ar y noson cyn i Rwsia fynd i mewn i’r Wcráin. Darllenwch ran gynta’r sgwrs yma.

Oriau’n unig cyn i Rwsia gyhoeddi rhyfel yn yr Wcráin, roedd Paul Mason yn darogan y “camau cynyddol” nesaf yn y gwrthdaro rhwng y ddwy wlad, gan ddweud na fyddai’n “synnu” gweld y cyhoeddiad yn dod gan Vladimir Putin.

“Doedd dim amheuaeth gennym o siarad â’r swyddogion y gwnaethon ni gwrdd â nhw yn yr Wcráin o’r hyn roedden nhw’n meddwl fyddai’r camau cynyddol,” meddai wrth golwg360.

“Fe wnaethon nhw ddarogan yn iawn yr hyn fyddai’n digwydd, hynny yw, fe wnaeth Putin hawlio a chydnabod annibyniaeth dwy weriniaeth oedd wedi torri’n glir. Dyna’r cam cyntaf.

“Mae’r ail gam wedi digwydd eisoes, mae e wedi creu galw am ragor o dir, ac yna mae e’n creu cyfres o ymosodiadau camarweiniol, gan geisio creu’r naratif fod yr Wcráin yn ceisio ymosod, ac yn ymosod. Dyma’r adeg mae e’n cyhoeddi rhyfel ac mae’r milwyr yn mynd i mewn.

“Dyna’r drefn, dw i’n meddwl.

“Yr unig gwestiwn yw, a all y gymuned ryngwladol wneud pethau sy’n atal neu’n arafu’r drefn?

“Beth yw ei nod? Ei nod yw, does dim ots beth sy’n digwydd i’r Wcráin yn y pen draw.

“Mae e jyst yn cipio’r ddwy weriniaeth sydd wedi torri’n glir – mae e’n cadw’r Crimea, yn cau môr Azov y bydd eich darllenwyr, o edrych ar fap, yn gweld ei bwysigrwydd i ddyfodol yr Wcráin, a dyna lle mae e’n stopio ac yn dweud wrth y Gorllewin, “Beth yw’r ots am NATO nawr? Faint gyflawnodd NATO pan wnes i rywbeth? Faint gyflawnodd yr Undeb Ewropeaidd? Beth wnaeth corff monitro OSSEC? Beth ddigwyddodd i’r Cenhedloedd Unedig?

“Yr ateb, bob tro, yw ‘dim byd’ oherwydd does dim trefn yn seiliedig ar reolau, dim ond “fy nhrefn i sy’n gywir”.

 

Y Ffindir

“Gadewch i ni feddwl beth fydd yn digwydd i’r Ffindir. Dyna lle mae’r cyfan yn mynd,” meddai Paul Mason wedyn am y wlad oedd o dan reolaeth yr hen Rwsia tan 1917.

“Bydd e’n dweud wrth y Ffindir, “Rydych chi’n wlad arall yr oedden ni’n arfer berchen arni, ac rydych chi’n wlad arall y mae ei phoblogaeth yn ofni bod y gefnogaeth i NATO ar gynnydd,” meddai Paul Mason wedyn am wlad oedd yn arfer bod o dan reolaeth Rwsia.

Ond pam fod y wlad yn dal yn arwyddocaol yn y gwrthdaro?

Mae Gweinyddiaeth Amddiffyn y Ffindir wedi cyhoeddi bod yr Wcráin wedi gofyn am gymorth ychwanegol o ran amddiffyn a nwyddau brys, ac maen nhw hefyd wedi derbyn cais gan yr Iseldiroedd ac Estonia i gymeradwyo anfon arfau i’r Wcráin sydd â’u gwreiddiau yn y Ffindir.

Fis Rhagfyr, roedd adroddiadau bod Estonia yn awyddus i ddanfon canonau i’r Wcráin roedd y Ffindir wedi’u caffael gan Ddwyrain yr Almaen ond er mwyn gwneud hynny, roedd angen i Estonia geisio caniatâd y Ffindir a’r Almaen.

Mae’r Ffindir bellach wedi cael cais arall gan yr Iseldiroedd, ond dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd beth yn union oedd y cais hwnnw.

Beth sydd i ddod yn Kyiv?

Gyda Rwsia bellach wedi mynd i mewn i’r Wcráin, sut mae Paul Mason yn gweld y sefyllfa’n datblygu?

“Gadewch i ni fod yn glir, rhaid i’ch darllenwyr fod yn barod i weld y brifddinas Kyiv, y brifddinas hanesyddol, yn ffrwydro fel Baghdad yn 1992, oherwydd mae’n rhaid i hynny ddigwydd er mwyn creu panig ac ymdeimlad o golli ymhlith y boblogaeth.

“Mae’r ffrwydro yma bob amser yn ofnadwy, mae e’n llygru’r rhanbarth am byth oherwydd maen nhw’n defnyddio wraniwm, ond dydyn nhw ddim yn lladd degau o filoedd o bobol.

“Ond maen nhw’n achosi ofn ar raddfa fawr ymhlith y boblogaeth ac ar yr un pryd, rhaid i’ch darllenwyr baratoi i weld lluoedd arbennig Rwsia yn dod i’r golwg o lefydd maen nhw wedi bod yn cuddio ac yn dechrau lladd gwleidyddion yr Wcráin.

“Dyna sut fydd y rhyfel yn edrych.”

Sancsiynau yn bosib o hyd?

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynnu bod sancsiynau llym yn erbyn Vladimir Putin yn bosib o hyd fel ffordd o geisio datrys y sefyllfa.

Hyd yn oed ar ôl i Rwsia fynd i mewn i’r Wcráin, roedd yr Undeb Ewropeaidd yn dal yn barod i gyflwyno’r sancsiynau llymaf posib gyda’r bwriad o ddinistrio economi Rwsia.

Mae’n debygol y byddwn ni’n cael gwybod heno (nos Iau, Chwefror 24) beth yw hyd a lled y sancsiynau hynny ac mae Paul Mason yn gobeithio y byddan nhw’n “rhoi Putin ar y droed ôl”.

“Mae sancsiynau’n bwysig. Dyna pam fod ymweliad Mick ac Adam, a’r undebau llafur gyda ni, hefyd yn bwysig,” meddai wedyn, wrth symud y sgwrs yn ôl at arwyddocâd y sefyllfa i Gymru.

“Mae gan Brydain boblogaeth heddychlon, gorffennol rhyfelgar ie, ond dydy ei phoblogaeth ddim yn hoffi rhyfeloedd.

“Os edrychwch chi ar wleidyddiaeth Cymru, ac eithrio traddodiad balch o filitariaeth a’r catrawd Cymreig, byddwn i’n dweud bod heddychiaeth yn gadarn ac mae’n gwbl ddealladwy.

“Ond pan ydych chi’n byw mewn byd peryglus lle gall cenedl hyrddio cenedl arall am fod ganddi fwy o danciau, yna dw i’n credu bod rhaid i chi fod yn barod i ddweud, “os mai sancsiynau yw’r unig beth sydd gennym, yna mae’n rhaid i’r boblogaeth gefnogi’r syniad”.

“Dydy e ddim yn golygu cefnogi Boris Johnson. Mae e’n gyndyn iawn o gyflwyno sancsiynau.

“Mae’n gwbl iawn fod y Gorllewin wedi wfftio gwrthdaro â Putin. Mae NATO wedi wfftio gwrthdaro milwrol. Maen nhw yn llygad eu lle. Pwy yn ei iawn bwyll fyddai eisiau Trydydd Rhyfel Byd? Neb.

“Ond mi allwn ni ddefnyddio sancsiynau, a dw i’n credu mai dyna pam ei bod hi mor bwysig fod Llywodraeth Prydain a’r holl bleidiau’n derbyn cyfres o sancsiynau fel rhagofal, system o sancsiynau sy’n rhoi Putin ar y droed ôl, sy’n atal ei gyfrif banc rhag bod yn hygyrch er enghraifft.”

 

Beth am ymateb yr asgell dde Brydeinig, felly?

Mae rhai sancsiynau wedi’u cyflwyno yn erbyn unigolion a chwmnïau Rwsiaidd ar raddfa fach eisoes, gan gynnwys rhewi asedau pum banc a thri biliwnydd sydd hefyd wedi’u gwahardd rhag teithio i’r Deyrnas Unedig.

Yn ôl Paul Mason, mae ymateb yr asgell dde Brydeinig wedi bod yn hwb i Vladimir Putin, wrth i Rwsiaid cyfoethog barhau i gyfrannu at economi’r Deyrnas Unedig gan barhau i gael dylanwad.

“Mae agwedd y Torïaid tuag at Putin a’i wladwriaeth mafia wedi helpu i siapio’r argyfwng oherwydd fe wnaethon nhw ei alluogi fe i droi Llundain yn brifddinas golchi arian ar gyfer oligarchiaid Rwsiaidd,” meddai.

“Nid dim ond y banciau wnaeth hynny, ond cyfreithwyr masnachol ac ymgynghorwyr materion cyhoeddus hefyd sy’n gwneud miliynau o bunnoedd drwy gynrychioli Putin a chreu cwmnïau oddi ar y lan fel bod arian ei ymgynghorwyr pennaf i ffwrdd o lygaid y cyhoedd.

“Ac yna, fe gymerodd y Torïaid filiynau o bunnoedd mewn rhoddion gan yr oligarchiaid hynny a’u ffrindiau. Mae’n wir fod rhai o’r rhoddion hynny gan oligarchiaid oedd wedi rhedeg i ffwrdd oddi wrtho fe gan nad yw Putin yn eu hoffi nhw, ond nid pob un ohonyn nhw sydd yn y sefyllfa honno.

“Yn systemaidd, mae Llundain yn offeryn ariannol geo-wleidyddol byd-eang i Putin. Os yw hynny’n wir, a’ch bod chi’n torri’ch byddin o 102,000 o bobol i 72,000 o bobol, yna mae’r neges yn glir iawn.

“A gadewch i ni fod yn fanwl. Ym mis Chwefror y llynedd, fe wnaeth Boris Johnson gyhoeddi adolygiad integredig cynhwysfawr o bolisi tramor a diogelwch Prydain nad oedd yn sôn o gwbl am y posibilrwydd y gallai Rwsia ymosod ar yr Wcráin.

“Ond eto, deufis ar ôl yr adolygiad, dyna’r symudiad cyntaf wedyn. Roedd yna ryw rith-symudiad ym mis Mawrth / Ebrill 2021 o unedau oedd yn ymarfer yr hyn maen nhw’n ei wneud nawr.”

Nid atal aelodaeth yr Wcráin o NATO sy’n gyrru Putin

Mae Paul Mason yn gwrthod yr awgrym mai aelodaeth yr Wcráin o NATO sydd wrth wraidd yr anghydfod – “does dim gobaith iddyn nhw ymuno â NATO hyd nes y bydd Vladimir Putin wedi mynd”, meddai.

Felly beth sy’n gyrru’r sefyllfa?

“Mae’n fater o a all yr Wcráin a’i phobol gael yr hawl i ystyried eu hunain yn Ewropeaidd yn yr ystyr wleidyddol,” meddai.

“Hynny yw, byw o dan system o reolau rhyngwladol a chytundebau a heddwch.

“Mae’r Llywodraeth [yn San Steffan] yn sefyll dros economi marchnad rydd, felly mae’n siŵr eu bod nhw’n hoffi hynny hefyd. Dw i ddim, ond dyna yw e.”

Casineb a Chymru…

“Roedden ni yno, ac roedd pawb yn yr Wcráin wedi troi i wrando ar araith Vladimir Putin,” meddai Paul Mason wedyn.

“Roedden ni’n gwylio ymateb y bobol, ac fe ddywedodd Putin, ‘Does gan eich cenedl ddim hawl i fodoli, cafodd ei chreu gan Lenin, mae hi’n rhan o’n cenedl ni mewn gwirionedd’.

“O’r olwg ar ei wyneb, y casineb heb emosiwn yn Putin wrth ddweud hynny, roeddech chi’n gwybod ei fod e’n golygu’r peth.

“Ar yr un pryd, mae pawb yn yr Wcráin wedi gweld dylanwadwyr sy’n enwog yn mynd ar y teledu ac yn dweud bod ‘Wcrainiaid yn ganser, allen nhw ddim bodoli hebddon ni, y Rwsiaid’.

“Bydd pobol o Gymru a phobol sy’n cofio cyfnod hir o ormes yn erbyn yr iaith yn deall pa mor ofnadwy yw’r emosiwn yna.

“Yr hyn sydd wedi digwydd yw canslo’n llwyr y drefn fyd-eang yn seiliedig ar reolau ac mae e wedi disodli honno gan ‘fi sy’n iawn’.

“All yr un genedl, dim hyd yn oed cenedl â 41 miliwn o bobol sydd wedi dioddef gormes yn ystod ei hanes, sydd wedi ildio’i harfau niwclear ac wedi gweld datganiad o’i bodolaeth, Memorandwm Budapest 1994 [yn cynnig sicrwydd o ran diogelwch pe bai bygythiad i wladwriaeth neu annibyniaeth wleidyddol yr Wcráin], yn cael ei rwygo o flaen ei llygaid, deimlo unrhyw beth ond ofn ynghylch y ffordd ymlaen.”

Darllenwch ragor

“Yr oriau tywyllaf ers diwedd yr Ail Ryfel Byd”: Rwsia yn ymosod ar yr Wcráin

“Mae pŵer niwclear mawr wedi ymosod ar gymydog, ac mae’n bygwth dial ar unrhyw wladwriaeth arall a allai ddod i’w hachub”
Boris Johnson

Cyhoeddi sancsiynau ar Rwsia, ond ydyn nhw’n mynd yn ddigon pell?

Huw Bebb

“Ydy’r Blaid Geidwadol wir yn barod i roi stop ar yr arian sy’n llifo o Rwsia i Lundain?”

Y Swyddfa Dramor yn anhapus â thaith Adam Price a Mick Antoniw i’r Wcráin

Fe deithiodd arweinydd Plaid Cymru a Chwnsler Cyffredinol Cymru er gwaethaf cyngor Llywodraeth y Deyrnas Unedig i beidio â mentro i’r wlad