Mae lluoedd Rwsia wedi lansio ymosodiad ar yr Wcráin, gyda’r Arlywydd Vladimir Putin yn rhybuddio y byddai unrhyw ymgais i ymyrryd yn arwain at “ganlyniadau nad ydych erioed wedi’u gweld”.

Fore heddiw, (dydd Iau, Chwefror 24) cafodd ffrwydradau eu clywed yn ninasoedd Kyiv, Kharkiv, Dnipro ac Odesa.

Dywedodd Volodymyr Zelenskyy, Arlywydd yr Wcráin, bod Rwsia yn targedu seilwaith milwrol y wlad.

Mynnodd Gweinidog Tramor y wlad, Dmytro Kuleba, y bydd yr Wcráin yn “amddiffyn ei hun ac yn ennill”.

Yn y brifddinas, cynghorodd Maer Kiyv, Vitaly Klitschko, breswylwyr i aros adref oni bai eu bod yn cymryd rhan mewn gwaith hanfodol, ac fe wnaeth eu hannog i bacio pethau angenrheidiol a dogfennau rhag ofn y byddai angen iddyn nhw ffoi.

Mewn darllediad byw, dywedodd Vladimir Putin ei fod yn gweithredu mewn ymateb i fygythiadau sy’n dod o’r Wcráin.

Rhybuddiodd na ddylai unrhyw un fod ag unrhyw amheuaeth y byddai “ymosodiad uniongyrchol ar ein gwlad yn arwain at ganlyniadau erchyll”.

Er i’r Unol Daleithiau gyhoeddi bod eu lluoedd yn cael eu hadleoli o amgylch y Baltig, mae Joe Biden wedi dweud na fydd yn anfon milwyr i ymladd yn erbyn Rwsia.

Yn hytrach, mae arweinwyr gwledydd y Gorllewin wedi condemnio’r ymosodiad ac addo canlyniadau pellgyrhaeddol, wrth i farchnadoedd ariannol byd-eang blymio a phrisiau olew godi.

Mae’r Unol Daleithiau, yr Undeb Ewropeaidd, a’r Deyrnas Unedig wedi addo cyflwyno sancsiynau newydd er mwyn cosbi Rwsia.

Yr ymateb yng Nghymru

“Mae’r newyddion sy’n dod allan o’r Wcráin dros nos yn arswydus ac yn warthus,” meddai Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru.

“Rhaid i’r gymuned ryngwladol nawr sefyll gyda phobl yr Wcráin yn erbyn yr ymddygiad ymosodol diachos hwn.”

Dywedodd Andrew RT Davies, arweinwyr y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, bod yn “rhaid i’r byd fod yn benderfynol o sefyll y tu ôl i Lywodraeth yr Wcráin, a chadw ei lle fel gwlad rydd a democrataidd.

“Rhaid i’r gynghrair ddemocrataidd ddarparu’r holl gymorth sydd ei angen i gyflawni’r nod hwnnw nawr, a chynorthwyo’r ffoaduriaid y mae pob rhyfel, yn anochel, yn eu creu.”

“Dylai gweld tanciau sy’n goresgyn gwladwriaeth Ewropeaidd ddemocrataidd sofran, ei chyfalaf – gwlad nad yw’n berffaith o bell ffordd ond un fel ein un ni gydag etholiadau cystadleuol, papurau newydd annibynnol, undebau llafur, ymgyrchwyr hawliau dynol – ein dychryn i weithredu,” meddai Adam Price, arweinydd Plaid Cymru.

Mae Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, wedi galw ar Gymru i gydsefyll â’r Wcráin, gan ddweud bod “heddiw’n ddiwrnod eithriadol o dywyll i Ewrop a’r byd”.

“Mae rhaglen Rwsia o ymosod ar yr Wcráin yn drychineb dynol ofnadwy sy’n digwydd o flaen ein llygaid,” meddai Jane Dodds.

“Rhaid i ni sefyll gyda phobol yr Wcráin. Mae’r drefn ryngwladol sy’n seiliedig ar reolau dan fygythiad uniongyrchol mewn ffordd na welwyd erioed o’r blaen.”

‘Yr oriau tywyllaf er diwedd yr Ail Ryfel Byd’

Fe wnaeth Boris Johnson gadeirio cyfarfod Cobra am 7:30yb i drafod sut y bydd y Deyrnas Unedig yn ymateb i’r “ymosodiadau erchyll” ar yr Wcráin, medd llefarydd ar ran Stryd Downing.

Dywedodd prif weithredwr polisi materion tramor yr Undeb Ewropeaidd, Josep Borrell, fod y digwyddiadau yn yr Wcráin “ymhlith yr oriau tywyllaf yn Ewrop ers diwedd yr Ail Ryfel Byd”.

“Mae’r rhain ymhlith yr [oriau] tywyllaf yn Ewrop ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Mae pŵer niwclear mawr wedi ymosod ar gymydog, ac mae’n bygwth dial ar unrhyw wladwriaeth arall a allai ddod i’w hachub,” meddai wrth gynhadledd i’r wasg ym Mrwsel.

“Mae hyn yn torri egwyddorion sylfaenol cydfodolaeth ddynol, yn ogystal â thorri cyfraith ryngwladol.”

“Dyfodol Ewrop a’r Byd yn y fantol”

Mae Gweinidog Tramor yr Wcráin, Dmytro Kuleba, wedi rhybuddio bod “dyfodol Ewrop a’r Byd yn y fantol” wrth iddo alw ar weddill y byd i ymateb “ar unwaith”.

Mewn neges glir am y gefnogaeth sydd ei angen ar yr Wcráin, mae’n galw am “sancsiynau dinistriol” ar Rwsia yn ogystal ag ynysu’r wlad yn llwyr.

Mae hefyd yn dweud bod angen “arfau, offer, cymorth ariannol a chymorth dyngarol” ar y wlad yn sgil ymosodiad Rwsia.