Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod gwaith ar y gweill i integreiddio rhaglen frechu Covid-19 gyda rhaglenni brechu eraill eleni.

Mae’r Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol wedi cael ei diweddaru heddiw (dydd Iau, Chwefror 24), ac uchelgais Llywodraeth Cymru yw “sicrhau canlyniadau sydd ymhlith y gorau yn y byd o ran clefydau y gellir eu hatal drwy frechu”.

Bydd holl raglenni brechu Cymru’n rhan o’r fframwaith, gan gynnwys Covid-19 a’r ffliw.

Mae’r amcanion yn cynnwys annog cyfraddau brechu isel, lleihau cyfraddau marwolaethau, a sicrhau mynediad cyfartal at frechlynnau.

Hyd yn hyn, mae mwy na 6.8m o ddosau o frechiadau Covid-19 wedi cael eu rhoi yng Nghymru a thros 91% o boblogaeth Cymru sydd dros 12 oed wedi derbyn o leiaf un dos.

Mae 86% wedi derbyn dau ddos, a 70% wedi derbyn trydydd dos a/neu frechlyn atgyfnerthu.

Bydd y bobol fwyaf agored i niwed yng Nghymru’n derbyn ail ddos o’r brechlyn atgyfnerthu yn y gwanwyn.

‘Achub bywydau di-rif’

Dywed Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, fod brechu wedi “cael effaith fawr ar hyd y pandemig”, ac wedi helpu i wanhau’r cysylltiad rhwng y feirws, salwch difrifol, derbyniadau i ysbyty a marwolaeth.

“Maen nhw wedi achub bywydau di-rif ac wedi rhoi’r rhyddid a’r hyder inni ailddechrau ein bywydau yng nghanol argyfwng iechyd byd-eang parhaus,” meddai.

“Mae’r strategaeth hon yn nodi ein cynlluniau ar gyfer 2022 a’r tu hwnt, gan gynnwys ymrwymiad i gyflwyno rhaglen frechu Covid-19 reolaidd.

“Byddwn hefyd yn cynllunio ar gyfer yr angen posibl i frechu ar raddfa fwy eto, er mwyn ymateb i don newydd o’r pandemig neu amrywiolyn newydd o’r coronafeirws.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi dod ymlaen i gael eu brechu ac wedi gwneud y penderfyniad i ddiogelu eu hunain ac eraill.

“Hoffwn ddiolch hefyd i’r miloedd o bobl sy’n gweithio ar ein rhaglen frechu, gan gynnwys yr holl aelodau o staff a gwirfoddolwyr.”

Mae’r strategaeth yn cadarnhau bwriad Llywodraeth Cymru i barhau i roi blaenoriaeth i frechu’r henoed, y rhai mwyaf agored i niwed, a’r rhai sy’n wynebu’r risg uchaf.

Yn ogystal, mae’r strategaeth yn nodi sut mae byrddau iechyd wedi bod yn ateb anghenion y bobol fwyaf agored i niwed yn eu cymunedau a sut maen nhw wedi sicrhau bod grwpiau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol, megis y rhai o gefndiroedd ethnig leiafrifol, pobol ag anableddau, a phobol sy’n byw mewn cartrefi dan anfantais economaidd, wedi cael gwybodaeth ddibynadwy am frechu.

Fe fydd ymgyrch brechiadau atgyfnerthu yn cael ei rhoi ar waith yn yr hydref hefyd, meddai Eluned Morgan, a bydd mwy o fanylion yn cael eu cadarnhau maes o law.

Cynnig ail frechlyn argyfnerthu i’r unigolion mwyaf agored i niwed

Pobol 75 oed a hŷn, preswylwyr cartrefi gofal pobol hŷn, ac unigolion imiwnoataliedig 12 oed a throsodd fydd yn cael cynnig ail ddos yn y gwanwyn