Ynghyd ag arweinydd Plaid Cymru Adam Price, Cwnsler Cyffredinol Cymru Mick Antoniw, Mick Whelan o undeb ASLEF a’r cyn-Aelod Llafur o Senedd Ewrop Julie Ward, aeth Paul Mason i’r Wcráin i geisio deall y sefyllfa’n well o safbwynt pobol a mudiadau dosbarth gweithiol ar lawr gwlad. Dyma ran gynta’i sgwrs gyda golwg360 ar ôl dod adref.

Oriau’n unig ar ôl glanio’n ôl yn y Deyrnas Unedig, dywedodd Paul Mason wrth golwg360 ei fod e’n ymfalchïo mewn “gwneud rhywbeth sydd heb gael ei wneud yn ystod yr argyfwng byr hwn sy’n datblygu’n gyflym”.

“Hynny yw, cynnal sgwrs rhwng cymdeithas sifil Prydain a chymdeithas sifil yn yr Wcráin,” meddai.

“Mae popeth wedi bod rhwng gweinidogion. Mae gennym ni [yn San Steffan] lywodraeth Dorïaidd ac mae ganddyn nhw lywodraeth ryfedd, a bod yn onest, gyda dyn oedd unwaith yn actor comedi [Volodymyr Zelenskyy]. Felly dim ond hyn a hyn all llywodraethau o’r fath ei gyflawni ar adeg fel hon.

“Felly roedden ni eisiau mynd a cheisio cyflawni rhywbeth gwahanol.”

Anwybyddu cyngor teithio

Ond fe aethon nhw yn groes i’r cyngor gan y Swyddfa Dramor i beidio â theithio i’r wlad yn sgil y sefyllfa fregus yno.

“Dechreuon ni gynllunio cyn i’r Swyddfa Dramor gynghori pobol i beidio â mynd, ac fe ddywedon ni ein bod ni’n wynebu dewis,” meddai.

“Fel ym mhob cyfnod o densiwn sylweddol, pan na all cymdeithas sifil ddod ynghyd, mae yna argyfwng erbyn hyn yn yr Wcráin sy’n cyfyngu ar y sgwrs ddemocrataidd.”

Yn groes i’r darlun yn y cyfryngau, mae Paul Mason yn dweud ei fod yn falch o gael y cyfle i weld y sefyllfa drosto fe ei hun.

“Dw i mor falch ein bod ni wedi mynd oherwydd fe ddaethon ni i wybod pethau nad ydyn nhw ddim yn rhan o’r stori swyddogol,” meddai.

“Er enghraifft, os edrychwch chi heddiw, mae Prydain newydd ryddhau llu o arfau eto i’r Wcráin – dw i ddim yn gwybod eto beth yw’r rheiny – ond mae’r cyfan yn cael ei benderfynu nawr.

“Roedden ni yn yr ystafell gyda’r Dirprwy Weinidog Amddiffyn a’r Dirprwy Weinidog Tramor yn trafod pethau cadarn fel beth sydd ei angen arnoch chi, beth sydd angen i wleidyddiaeth Prydain ei gyflenwi i ddiwallu eich anghenion, a dw i’n credu ei fod e’n gwbl gadarnhaol yn hynny o beth.”

Rhoi trefn ar ei ewyllys a threfniadau ei angladd

Er bod Paul Mason yn teimlo bod y daith wedi cyflawni’r nod, nid pawb oedd yn ei hystyried yn daith angenrheidiol.

Ar wahân i fod dan y lach o du’r Swyddfa Dramor am anwybyddu eu cyngor, roedd rhai beirniaid yn mynd mor bell â chwestiynu pwy oedd wedi ariannu’r daith – er bod Adam Price a Mick Antoniw wedi cyfiawnhau’r ymweliad gan ddweud eu bod nhw wedi talu o’u pocedi eu hunain.

Yn ôl Paul Mason, rhaid edrych ar y daith yn ei chyfanrwydd er mwyn deall pam ei bod hi’n un angenrheidiol.

“Rhaid i chi ddeall, er mor dawel yw’r sefyllfa, fe gyrhaeddon ni’r diwrnod cyn i Joe Biden ddarogan y byddai rhyfel yn erbyn yr Wcráin,” meddai.

“Dw i wedi gohebu o barthau rhyfel, a galla i ddweud wrthoch chi fy mod i wedi gwneud popeth rydych chi’n ei wneud cyn mynd i ohebu mewn parth rhyfel – sicrhau bod fy ewyllys wedi’i ddiweddaru, sicrhau bod y cyfarwyddiadau ar gyfer fy angladd wedi’u diweddaru, a meddwl yn ofalus am unrhyw negeseuon oedd angen i fi eu gadael. Dyna beth rydych chi’n ei wneud.

“Roedden ni’n cerdded ar hyd strydoedd oedd yn llawn blodau a chofebau i bobol a gafodd eu saethu’n farw yn ystod y gwrthryfel wyth mlynedd yn ôl.

“Roedden ni’n gwybod fod Joe Biden yn credu y byddai taflegrau’n dechrau cwympo dros y brifddinas y noson gyrhaeddon ni, ac fe gawson ni alwadau’n gofyn “pwy sy’n talu i chi fynd?”, fe gawson ni alwadau’n gofyn “pam ydych chi’n mynd yn groes i gyngor y Swyddfa Dramor?

“Sut ydych chi’n credu roedden ni’n teimlo? Roedden ni jyst yn meddwl mai pethau dibwys oedden nhw.”

Sylw’r cyfryngau i’r daith gan wlad ddatganoledig

Ar y llaw arall, mae ymateb y cyfryngau i’w groesawu’n fawr, meddai.

“Yr hyn sydd wedi digwydd o safbwynt sylw’r cyfryngau yng Nghymru i hyn yw fod y bobol sy’n gofyn y cwestiynau, o’r diwedd, yn deall beth yw y cwestiwn, sef: beth mae’r digwyddiadau yn yr Wcráin yn ei olygu i’r drefn fyd-eang sy’n seiliedig ar reolau, trefn y mae’r Deyrnas Unedig, Cymru fel gweinyddiaeth ddatganoledig, a’n holl hawliau dynol oddi mewn iddi? Oherwydd, yn syml, fe ganslodd Putin y cyfan.

“Mae’r cwestiynau hynny – Pam aethoch chi? Pam na wnaethoch chi wrando ar y cyngor? A phwy dalodd i chi fynd? – yn gwbl eilradd. A gyda llaw, yr ateb o ran pwy dalodd, yn sicr o ran y gwleidyddion, yw ‘ni ein hunain’.”

Ceisio gweld yr Wcráin trwy lygaid Adam Price

Tra bod gan Mick Antoniw deulu yn yr Wcráin o hyd ac yn gyfarwydd â’r wlad, mae Paul Mason yn teimlo bod Adam Price wedi cael profiad newydd o fod yn y wlad – ond fod y ddau wedi gallu gweld cysylltiadau amlwg rhwng Cymru a’r Wcráin hefyd.

Wedi’r cyfan, cafodd dinas Hughesovka ei henwi ar ôl John Hughes, un o’r Cymry deithiodd i’r wlad yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan sicrhau bod diwydiant yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad y ddinas.

“Mae’r hyn sy’n weddill o’r gymuned lofaol yn y Donbas yn wynebu’r hyn rydyn ni’n ei alw’n neo-ryddfrydiaeth, ansicrwydd swyddi, toriadau i les cymdeithasol, preifateiddio, gwerthu adeiladau’r undebau glofaol… mae’r cyfan oll yn dod o lywodraeth Zelenskyy yn yr Wcráin.

“Mae’r rhain i gyd yn bethau cyffredin i’w cael, fel y byddai’r gymuned lofaol yng Nghymru’n gwybod.

“Ond ar yr un pryd, mae eu hundeb glofaol annibynnol wedi’i wahardd yn yr ardal hon sydd newydd gael ei chipio gan Vladimir Putin.

“Daeth hi’n ardal annibynnol, yn ardal ar wahân, wyth mlynedd yn ôl.

“Cafodd [yr undeb] ei wahardd ac ers wyth mlynedd, mae’r undeb wedi’i erlid, mae pobol wedi cael eu cipio, eu harteithio a’u lladd, dim ond am eu bod nhw’n rhan o’r undeb.

“Roedden nhw’n anfon negeseuon at eu harweinwyr undebol, oedd yn dweud wrthon ni, ‘Rydyn ni wedi symud unwaith, dydyn ni ddim am symud eto, rydyn ni’n mynd i ymladd’.

“Felly roedd hynny’n teimlo fel eiliad hanesyddol.

“Er enghraifft, byddai glowyr de Cymru, gyda’u hanes o deithio i Sbaen yn 1936, wedi deall yn iawn, roedden ni’n wynebu pob math o broblemau economaidd o gyfeiriad ein cyfalafwyr ein hunain. Ond mae yna achos sy’n dipyn mwy, sef amddiffyn ein gwlad ein hunain.

“Gadewch i ni siarad yn blwmp ac yn blaen, dw i’n credu ei bod hi’n gwbl amlwg i’r ddau Aelod o’r Senedd oedd yno fod yna rywfaint o sefyllfa gyfatebol yma – mae gennych chi rym imperialaidd yn honni bod y genedl, yn hanesyddol, yn israddol i’w hymerodraeth ac nad yw hi wir yn bodoli.

“Does dim angen gradd mewn hanes arnoch chi i ddeall perthnasedd hynny i Gymru, yn enwedig gydag Adam yn dweud droeon wrth y rhai oedd yn gofyn cwestiynau am Gymru, “roedd ein hiaith ninnau unwaith dan ormes y grym imperialaidd”.

…. a Mick Antoniw, ei gefndir yn y wlad – a heddychiaeth

“Yn amlwg, mae [Adam Price a Mick Antoniw] yn dod o ddau le gwahanol o fewn gwleidyddiaeth Cymru,” meddai wedyn wrth droi ei sylw at Aelod Llafur o’r Senedd dros Bontypridd.

“Mae gan Mick Antoniw gefndir yn yr Wcráin hefyd ac roedd e yno yn ystod [gwrthryfel] Euromaidan [yn 2013], ac felly roedd e wedi gallu ein tywys ni drwy’r strydoedd lle, bob hyn a hyn o lathenni, roedd blodau a phlac bach lle bu farw rhywun.

“Mae yna hysbysfwrdd cynhwysfawr iawn – rhy gynhwysfawr, efallai – ynghylch yr hyn ddigwyddodd. Roedd e wedi gallu cerdded o gwmpas gyda ni yn egluro arwyddocâd hanesyddol llefydd.

“O ran Adam Price, dw i’n meddwl ei fod e’n brofiad newydd sbon iddo fe.

“Yr hyn sy’n ddiddorol, dw i’n meddwl o ystyried hanes hir Plaid [Cymru] o fod yn erbyn rhyfeloedd ac yn wrth-imperialaidd ond hefyd yn wrthwynebwyr cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn achos rhai o ymgyrchwyr Plaid, yw fod Adam yn dweud “rhaid i’n mudiad ni wneud safiad cadarn yn erbyn yr hyn sy’n digwydd i’r Wcráin wrth iddi wynebu ymosodiadau, bygythiadau ac imperialaeth gan Rwsia”.

“Dw i’n credu bod y ddau ddyn, fel oeddwn i, wedi eu hysgogi gan rywbeth, sef fod pob un wnaethon ni gyfarfod â nhw – a dydy hyn ddim yn or-ddramatig – yn dweud bod yna heddwch nawr ond pe bai rhyfel yn torri, yna bydd pawb y gwnaethon ni gyfarfod â nhw yn wynebu rhyw lefel o fygythiad i’w bodolaeth.

“Er enghraifft, fe wnaethon ni eistedd mewn ystafell gyda phedwar milwr o’r frigâd amddiffyn tiriogaethau, uned wirfoddol wrth gefn fydd yn amddiffyn yr Wcráin.

“Edrychon ni ar ein gilydd, ac roedd y sgwrs yn gyfeillgar iawn, roedden ni’n chwerthin ac yn dweud jôcs drwy gyfieithydd, a dynes oedd un ohonyn nhw – mae 45% o’r holl filwyr yn fenywod – ac fe edrychon ni ar ein gilydd a dweud, ymhen wythnos fe allen nhw i gyd fod wedi marw oherwydd fe fydd yna ymladd.

“Yr hyn roedd Mick Antoniw ac Adam Price yn ei ddweud, felly hefyd arweinwyr Undeb Cenedlaethol y Glowyr ac Undeb Gweithwyr y Rheilffyrdd aeth gyda ni, oedd “os byddwn ni’n sefyll gyda chi, nid gweinidogion ydyn ni, does gennym ni ddim hetiau ffwr fel Liz Truss ond mi allwn ni geisio barn y cyhoedd o blaid eich cenedl”.

Y mudiad Llafur a’r dosbarth gweithiol

“Mae rhai pobol yn yr Wcráin ar yr asgell dde bellaf, mae nifer o drigolion yr Wcráin yn genedlaetholwyr, mae llawer o weinidogion yr Wcráin yn Dorïaid rhyddfrydol, ond mae yna fudiad Llafur enfawr,” meddai wedyn wrth droi at y gweithwyr a’r bobol gyffredin.

“Mae’n un o’r gwledydd mwyaf dosbarth gweithiol yn y byd, oherwydd mae yna ddosbarth gweithiol ac oligarchiaeth ond fawr ddim yn y canol. Roedd hi mor emosiynol gweld ymateb y bobol pan ddywedwyd hynny wrthyn nhw.

“Mi allwn ni weithredu ar sail hynny. Hoffwn i weld gwleidyddion a sefydliadau gwleidyddol Cymru yn symud i gefnogi sancsiynau gweithredol ac fel rhagofal yn erbyn Rwsia a grymuso cymdeithas sifil Cymru i amddiffyn ei thraddodiadau ei hun, sef goddefgarwch a democratiaeth, ac amddiffyn hawliau dynol, oherwydd maen nhw dan fygythiad ar draws y byd.

“Bydd pob unigolyn yng Nghymru sydd â mynediad i’r rhyngrwyd heno’n derbyn negeseuon – p’un a ydyn nhw’n deall o ble maen nhw’n dod ai peidio – sy’n hwb i’r naratif Rwsiaidd.

“Rhaid i chi ddysgu i ddeall hynny a dysgu sut i ddadlau’n ôl.

“Mae hi wedi bod yn braf gweld bod Mr Price, yn enwedig, heb fod ganddo fe brofiad o sefyllfa o’r fath, yn barod i wrando.”

Darllenwch ail ran y sgwrs:

Adam Price Mick Antoniw

“Rhaid i’ch darllenwyr fod yn barod i weld y brifddinas Kyiv yn ffrwydro fel Baghdad”

Alun Rhys Chivers

Y newyddiadurwr Paul Mason, aeth fel rhan o ddirprwyaeth i’r Wcráin oedd yn cynnwys Adam Price a Mick Antoniw, yn darogan beth fydd yn digwydd nesaf

 

Darllenwch ragor:

“Yr oriau tywyllaf ers diwedd yr Ail Ryfel Byd”: Rwsia yn ymosod ar yr Wcráin

“Mae pŵer niwclear mawr wedi ymosod ar gymydog, ac mae’n bygwth dial ar unrhyw wladwriaeth arall a allai ddod i’w hachub”
Boris Johnson

Cyhoeddi sancsiynau ar Rwsia, ond ydyn nhw’n mynd yn ddigon pell?

Huw Bebb

“Ydy’r Blaid Geidwadol wir yn barod i roi stop ar yr arian sy’n llifo o Rwsia i Lundain?”

Y Swyddfa Dramor yn anhapus â thaith Adam Price a Mick Antoniw i’r Wcráin

Fe deithiodd arweinydd Plaid Cymru a Chwnsler Cyffredinol Cymru er gwaethaf cyngor Llywodraeth y Deyrnas Unedig i beidio â mentro i’r wlad
Yr arlywydd a baner Rwsia y tu cefn iddo

Plaid Cymru’n galw am gyflwyno sancsiynau llymach yn erbyn Rwsia

Fel rhan o’r galwadau, maen nhw am i gwmnïau o’r Deyrnas Unedig gael eu gorfodi i stopio buddsoddi yn Rwsia
Baner yr Wcráin

Sefyllfa’r Wcráin: newyddiadurwr yn ateb y cwestiynau allweddol

Mae Paul Mason wedi teithio gydag Adam Price a Mick Antoniw i’r wlad, ac fe fu’n gweithio yn y gorffennol i Newsnight a nifer o bapurau Prydeinig

Adam Price a Mick Antoniw yn yr Wcráin mewn undod â gweithwyr a lleiafrifoedd

Maen nhw yno i wrthwynebu gweithgarwch Rwsia yn y wlad