Mae Plaid Cymru wedi annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno sancsiynau llymach yn erbyn Rwsia.

Fel rhan o’u galwadau, maen nhw am i gwmnïau o’r Deyrnas Unedig gael eu gorfodi i stopio buddsoddi yn Rwsia.

Dywedodd Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, bod penderfyniad Arlywydd Rwsia i anfon milwyr i ranbarthau yn ne ddwyrain yr Wcráin sy’n cael eu rheoli gan Rwsia, yn cadarnhau bod Vladimir Putin yn “imperialydd didostur sy’n barod i ddinistrio sofraniaeth a hunanlywodraeth yr Wcráin”.

Mae Boris Johnson wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyflwyno sancsiynau yn erbyn pump o fanciau Rwsia, ac unigolion cyfoethog iawn.

Mae Rwsia yn honni eu bod nhw wedi anfon milwyr i ardal Donbas er mwyn “cadw’r heddwch”, ond yn ôl Boris Johnson mae’n dangos eu bod nhw’n “sefydlu’r cynsail ar gyfer ymosodiad ar raddfa fawr”.

“Taro Putin lle mae’n brifo”

Yn Nhŷ’r Cyffredin, cyfeiriodd Liz Saville Roberts at y ffaith bod gwefan cwmni olew BP yn honni mai nhw yw un o’r buddsoddwyr tramor mwyaf yn Rwsia, a’u bod nhw’n berchen bron i 20% o gwmni olew Rosneft.

“Mae’n rhaid i ni daro Putin lle mae’n brifo,” meddai Liz Saville Roberts.

“Hyd at fore heddiw, roedd gwefan BP yn dweud yn falch eu bod nhw’n un o’r buddsoddwyr tramor mwyaf yn Rwsia ac yn berchen ar bron i 20% o gwmni olew mawr Rwsia, Rosneft. Mae gan Rosneft ail swyddfa yn Llundain.

“A fydd y Prif Weinidog yn ymrwymo i orfodi cwmnïau o’r Deyrnas Unedig i stopio buddsoddi yn Rwsia – os nad nawr, pryd?”

“Ar groesffordd”

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ein bod yn sefyll ar groesffordd rhwng dau wahanol ddyfodol – “dyfodol ar sail democratiaeth, hawliau dynol a chyfraith ryngwladol, neu ddyfodol sy’n cael ei benderfynu â gynnau”.

Mae Adam Price a Chwnsler Cyffredinol Cymru, Mick Antoniw, wedi teithio i’r Wcráin i wrthwynebu gweithgarwch Rwsia yn y wlad.

“Mae’r sancsiynau sydd wedi cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig heddiw’n rhai i’w croesawu,” meddai Adam Price.

“Ond gyda chwmnïau o’r Deyrnas Unedig, megis BP, â buddsoddiadau enfawr yn hydrocarbonau Rwsia, mae hi’n amser ystyried gorfodi cwmnïau’r Deyrnas Unedig i stopio buddsoddi yn Rwsia

“O ystyried y dinistr economaidd sy’n wynebu’r wlad, rydyn ni angen cynnig mesurau ymarferol, cadarnhaol i helpu pobol yr Wcráin.

“Mae’n rhaid ystyried y mesur brys o gael gwared ar ddyled ryngwladol er mwyn lleihau’r argyfwng economaidd sy’n wynebu pobol yr Wcráin.”

Y sancsiynau

Mae’r sancsiynau heddiw’n cynnwys rhai yn erbyn “unigolion cyfoethog iawn” – Gennady Timchenko, Boris Rotenberg, ac Igor Rotenberg –  sy’n “gyfeillion” i Vladimir Putin, ac yn erbyn banciau Rossiya, IS Bank, General Bank, Promsvyazbank, a’r Black Sea Bank.

“Dyma’r rhan gyntaf o’r hyn rydyn ni’n barod i’w wneud, ac mae gennym ni sancsiynau pellach yn barod i’w cyflwyno,” meddai Boris Johnson wrth Aelodau Seneddol, cyn rhybuddio y bydd yn dod yn ôl â “phecyn llawer mwy” o sancsiynau.

Cynghrair y Pencampwyr

Mae’r Prif Weinidog wedi rhoi pwysau ar gorff Uefa i beidio cynnal gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn St Petersburg ym mis Mehefin, gan ddweud “ddylai na fod ddim siawns o gynnal pencampwriaeth bêl-droed mewn Rwsia sy’n goresgyn gwledydd sofran”.

Er hynny, mae rhai Aelod Seneddol Torïaidd, yn ogystal â’r Blaid Lafur, wedi annog Boris Johnson i wneud mwy nawr.

Fe wnaeth y cyn-ysgrifennydd tramor Ceidwadol Jeremy Hunt annog y Prif Weinidog i gynyddu gwariant amddiffyn a chyflwyno rhagor o sancsiynau.

Dywedodd ei fod yn cefnogi’r camau sydd wedi’u cymryd heddiw, “ond bydd Putin wedi rhagweld a diystyru sancsiynau’r gorllewin ers amser maith, felly a yw’n cytuno, os nad ydyn ni am fod ar ei hôl hi yn y gêm wyddbwyll ddiplomyddol, mae angen i ni wneud rhai pethau nad yw’n eu disgwyl?

“I ddechrau, cynnydd parhaus yng ngwariant a gallu amddiffyn y gorllewin, ac yn ail, gostwng gallu Rwsia i ariannu eu lluoedd arfog gyda sancsiynau economaidd ac ariannol sy’n para tra bod y dyn peryglus hwn yn parhau’n arlywydd Rwsia?”

Dywedodd Boris Johnson mai’r “drychineb” yw bod lluoedd arfog Rwsia wedi cael eu hariannu gan yr elw o werthu olew a nwy Rwsia i genhedloedd Ewrop, a bod “rhaid stopio hynny”.

Baner yr Wcráin

Sefyllfa’r Wcráin: newyddiadurwr yn ateb y cwestiynau allweddol

Mae Paul Mason wedi teithio gydag Adam Price a Mick Antoniw i’r wlad, ac fe fu’n gweithio yn y gorffennol i Newsnight a nifer o bapurau Prydeinig

A oes heddwch?

Dylan Iorwerth

“Nid dyn diniwed yn cael cam ydi Vladimir Putin ac nid gwladwriaeth addfwyn, gymdogol ydi Rwsia’