Yn Llys y Goron Caerdydd fe wnaeth mam Logan Mwangi grio wrth i’r heddlu ddisgrifio’r ffordd y daethon nhw o hyd i’w gorff mewn afon ger Pen-y-bont ar Ogwr llynedd.

Mae Angharad Williamson, 30, ei phartner John Cole, 40, a llanc 14 oed na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol wedi’u cyhuddo o lofruddio Logan Mwangi, 5 oed, rhwng 28 Gorffennaf a 1 Awst 2021.

Daethpwyd o hyd i Logan yn Afon Ogwr, yn Sarn, Pen-y-bont ar Ogwr, gyda 56 o anafiadau i’w ben, ei ganol, ei freichiau, a’i goesau.

Mae’r tri hefyd yn wynebu cyhuddiadau o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder drwy gelu’r farwolaeth.

Tystiolaeth yr heddlu

Clywodd y llys heddiw (22 Chwefror) bod dau swyddog o heddlu De Cymru wedi canfod corff y bachgen yn yr afon wrth chwilio ym Mharc Pandy am 5:55yb ar 31 Gorffennaf.

Ar ôl gweld ei gorff drwy fwlch yn y gwrych, rhedodd Lauren Keen lawr llwybr mwdlyd at feini ar lan yr afon.

Dywedodd yr erlynydd, Caroline Rees: “Gwelodd gorff plentyn ifanc yn gorwedd ar ei ochr dde gyda’i goesau wedi plygu. Logan oedd y plentyn.

“Dringodd mewn i’r afon a cherdded lawr ato, a chodi Logan yn ei breichiau. Sylwodd bod ganddo anaf i’w ben.

“Roedd ei gorff yn oer a stiff, ei wefusau yn las a’i lygaid ar agor. Doedd yna ddim arwydd o fywyd.”

Clywodd y llys bod yr heddlu wedi gwneud CPR arno, cyn iddo gael ei ddatgan yn farw yn Ysbyty Tywysog Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr am 7:15yb.

Wrth glywed disgrifiad o’r olygfa yn y llys, dechreuodd Angharad Williamson grio’n uchel, a bu’n rhaid distewi ei meicroffon er mwyn parhau â’r gwrandawiad.

Dadleuon erlynwyr

Pan aeth Angarad Williamson i’r ysbyty i weld corff ei mab, honnir iddi ddweud wrth un nyrs ei bod hi’n “difaru na ddysgodd i nofio”, meddai Caroline Rees.

Gofynnodd i nyrs arall wedyn pam fod Logan yn wlyb, a dywedodd bod ei gorff wedi cael ei ddarganfod yn yr afon.

Honnodd Angharad Williamson mai dyma’r tro cyntaf iddi gael gwybod hynny, clywodd y llys.

Dywedodd yr erlynydd bod hynny’n sylw rhyfedd, o ystyried ei datganiad blaenorol am beidio dysgu Logan i nofio.

Mae’n debyg bod Logan wedi goroesi am sawl awr ar ôl iddo gael yr anafiadau, meddai Caroline Rees wrth y rheithgor, gan olygu bod yna gyfle i’w achub.

Dywedodd bod y dystiolaeth yn “gallu profi bod Logan wedi dioddef ymosodiad difrifol a pharhaus yn y cartref dros gyfnod o amser ac ar fwy nag un achlysur, o bosib”.

“Mae’r erlyniad yn dweud ei bod hi’n anodd ystyried y gallai unrhyw berson yn y tŷ hwnnw – felly’r holl ddiffynwyr yn yr achos hwn – beidio bod yn ymwybodol bod yr ymosodiad yn digwydd neu fod Logan wedi’i anafu’n ddifrifol ac mewn perygl mawr o farw.”

Clywodd y llys bod y tri diffynnydd wedi gwneud sylwadau am yr achos ar ôl cael eu harestio ar 1 Awst, yn ôl yr erlyniad.

Yn ôl yr erlyniad, dywedodd John Cole wrth un o weithwyr y carchar fod ganddo “ddilema foesol”, ac ysgrifennodd Angharad Williamson lythyr yn honni bod John Cole wedi lladd Logan.

Clywyd y llanc 14 oed yn canu ei fod yn “caru taro plant ar eu pennau”, a dywedodd ei fod wedi gwneud “rhai pethau drwg ond nad yw’n cael siarad am hynny”, yn ôl yr erlyniad.

“Didrugaredd”

Fe wnaeth Caroline Rees gloi ei sylwadau agoriadol drwy honni fod y tri diffynnydd yn euog o’r cyhuddiadau yn eu herbyn.

“Rydyn ni’n dweud bod pob diffynnydd wedi chwarae eu rhan ym marwolaeth plentyn bach pump oed, Logan, ac mae hi’n amlwg o’r anafiadau erchyll gafodd e eu bod nhw’n bwriadu ei ladd neu achosi anafiadau difrifol iawn, ar y lleiaf.

“Er nad yw hi’n bosib i’r erlyniad ddweud yn union beth ddigwyddodd tu ôl i ddrysau caeedig, mae ymddygiad oeraidd a didrugaredd pob diffynnydd ar ôl marwolaeth Logan yn gyson gyda nhw’n trio popeth i gelu eu rhan yn ei farwolaeth.”

Mae disgwyl i’r achos bara tua wyth wythnos.

Logan Mwangi, pump oed, wedi’i ladd “wrth hunanynysu”

Mae tri o bobol wedi’u cyhuddo o lofruddio’r bachgen bach ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar Orffennaf 31 y llynedd