Mae Cyngor Gwynedd wedi ymateb i ddryswch yn ymwneud â phrynu eiddo yn y sir.

Fe bostiodd unigolyn neges ar y cyfryngau cymdeithasol ychydig ddyddiau’n ôl yn sôn am berson lleol oedd yn ceisio prynu tŷ am y tro cyntaf ac wedi cael cynnig wedi ei dderbyn gan y gwerthwyr.

Ond dywedodd Wena Thomas ar Facebook fod Cyngor Gwynedd wedi “gasympio’r gwerthiant” drwy gynnig £20,000 yn fwy am yr eiddo.

Yn syth wedi i’r neges gael ei phostio, cafodd y Cyngor ymateb chwyrn, gyda sawl un yn galw arnyn nhw i ddiddymu’r cynnig am y tŷ ar unwaith.

Ymateb

Yn dilyn yr honiad, cyfaddefodd y Cynghorydd Craig ab Iago, yr Aelod Cabinet ar gyfer Tai, eu bod nhw wedi gwneud camgymeriad yn prynu’r eiddo, ac nad oedden nhw’n ymwybodol fod person lleol yn cystadlu yn eu herbyn nhw.

Fe eglurodd eu bod nhw wedi rhoi cynnig am y tŷ yn rhan o’u Cynllun Gweithredu Tai, gan geisio dod â thai yn ôl “i ddwylo trigolion lleol”.

Mae Cyngor Gwynedd bellach wedi tynnu’r cynnig am yr eiddo yn ei ôl.

“Yn amlwg, fyddai’r Blaid yng Ngwynedd BYTH yn fwriadol cystadlu i brynu tŷ yn erbyn unigolyn lleol,” meddai Craig ab Iago mewn neges a gafodd ei rhannu ar Facebook.

“Ein blaenoriaeth ni, fel cynghorwyr Plaid Cymru, ydi ceisio hwyluso tai i bobl leol. Dyna un o fy egwyddorion creiddiol fi, fel gwleidydd ym Mhenygroes.

“Diolch i chi am dynnu fy sylw i’r mater. Ceisio dod â thai i ddwylo trigolion lleol yda ninnau hefyd. Dyna pam ein bod ni’n trio prynu tai ym mhentrefi a threfi Gwynedd i gefnogi’n cymunedau – mae’n rhan o’n Cynllun Gweithredu Tai £77miliwn.

“Fel arfer, mae proses o brynu tŷ yn un cyfrinachol, felly fyddai swyddogion ddim yn gwybod pwy fyddai ein cystadleuwyr. Pan gynigwyd ein pris gorau ar gyfer y tŷ, doedd y swyddogion ddim yn gwybod bod cynnig wedi ei dderbyn nac yn gwybod beth oedd amserlen y gwerthiant.

“Wrth gwrs, tynnwyd ein cynnig ni yn ôl peth cyntaf bore dydd Gwener a dwi’n ymddiheuro am achosi pryder i unrhyw un.

“Plîs plîs cysylltwch â’ch cynghorydd lleol neu efo fi, os bydd unrhyw beth fel hyn yn digwydd eto. Diolch pawb.”