Yn ystod cynhadledd i drafod dyfodol Ewrop, mae Gweinidog Tramor Catalwnia wedi galw am gydnabod yr iaith Gatalaneg yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’n un o dri o argymhellion mae Victòria Alsina eisiau i’r Undeb Ewropeaidd eu hystyried fel cyfres o “ofynion democrataidd”.

Mae oddeutu deg miliwn o bobol yn siarad yr iaith ar hyn o bryd.

Yn ôl gwleidydd Junts per Catalunya, plaid sydd yn cefnogi annibyniaeth, dylid mabwysiadu “mecanweithiau clir” i sicrhau bod modd i unrhyw wlad annibynnol newydd barhau i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, ac ni ddylid bod angen barn unfrydol aelodau’r cyngor cyn gwneud penderfyniadau o’r fath.

Hefyd yn cymryd rhan yn y drafodaeth roedd y cyn-arlywyddion Jordi Pujol, Artur Mas, Quim Torra a Carles Puigdemont, sy’n dal yn alltud yng Ngwlad Belg, ac roedd José Montilla wedi recordio neges ymlaen llaw.

Gadawodd Puigdemont a gwleidydd arall, Antoni Comín y wlad yn 2017 er mwyn osgoi cael eu herlyn am eu rhan yn refferendwm annibyniaeth Catalwnia oedd yn cael ei ystyried yn anghyfansoddiadol gan Sbaen.

Yn ystod y drafodaeth, cyfeiriodd Artur Mas, y cyn-arlywydd, at “difaterwch” aelodau o’r Undeb Ewropeaidd ynghylch ymgyrch Catalwnia i ddod yn wlad annibynnol.

Tynnodd Carles Puigdemont sylw at rym y mudiad pro-Ewropeaidd yng Nghatalwnia, gan ddweud mai “un ffordd ymlaen sydd i ni fel cenedl fach”, sef “mynd i galon Ewrop”.

Ac fe ddywedodd Quim Torra, oedd wedi’i wahardd rhag bod mewn swydd gyhoeddus yn sgil ei ddaliadau, y byddai wrth ei fodd pe bai Catalwnia’n ymuno â’r Undeb Ewropeaidd.

Prif flaenoriaethau

Mae’r gynhadledd, sydd yn ei hail flwyddyn eleni, wedi bod yn clywed mai hunanlywodraeth yw un o brif flaenoriaethau Catalwnia.

Nod y gynhadledd yw rhoi’r cyfle i drigolion Catalwnia benderfynu pa faterion sydd o bwys iddyn nhw y bydden nhw’n hoffi eu gweld yn cael sylw yn Senedd Ewrop.

Un arall o’r prif flaenoriaethau yw sicrhau Ewrop sy’n fwy ffederal ei naws, ychydig ar y blaen i’r alwad i gydnabod yr iaith yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.

Y Gatalaneg yw’r bedwaredd iaith ar ddeg fwyaf cyffredin yn Ewrop ac mae nifer y siaradwyr yn debyg i’r hyn sydd gan Swedeg a Phortiwgëeg, ac mae’r sawl sy’n galw am statws swyddogol yn poeni bod siaradwyr yn parhau’n “ddinasyddion eilradd”.

Does dim sicrwydd y bydd y materion hyn yn cael sylw yn Senedd Ewrop yn y pen draw, ond mae penderfyniadau’r gynhadledd yn cael eu hystyried yn fuddugoliaeth fach i drigolion Catalwnia a’u hiaith.

Ar ôl cyfnod digon tawel i’r ymgyrch dros annibyniaeth, mae’r gynhadledd hefyd yn cael ei hystyried yn ffordd o roi sylw o’r newydd i’r materion sy’n gysylltiedig â’r ymgyrch.