Mae nifer y bobol ddigartref yng Nghonwy sy’n aros mewn llety dros dro wedi dyblu yn y flwyddyn ddiwethaf.

Bellach, mae galwadau am newid y ffordd mae digartrefedd yn cael ei reoli ar lefel genedlaethol ac ar lefel awdurdodau lleol.

Sir Conwy yw’r pedwerydd uchaf yng Nghymru o ran nifer y bobol sy’n byw mewn llety dros dro, ac ar ben hynny, mae 1,643 yn aros ar y gofrestr tai.

Ar hyn o bryd, mae 547 o bobol, neu 285 aelwyd, mewn rhyw fath o lety dros dro, gan gynnwys 144 o aelwydydd sydd mewn llety brys.

Mae’n debyg bod Conwy wedi gwario £2.5m y llynedd yn unig yn darparu llety dros dro i bobol ddigartref, sydd dwbl y ffigwr a gafodd ei gofnodi yn y flwyddyn flaenorol – £1.2m.

Cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw darganfod llety hirdymor ar gyfer unrhyw un sy’n aros mewn annedd dros dro.

‘Sgandal’

Dywed Janet Finch-Saunders, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Aberconwy, fod y sefyllfa allan o reolaeth, a bod llawer o deuluoedd yn byw mewn llety tebyg i wely a brecwast am gyfnodau hir.

“Mae llety dros dro i fod am wyth wythnos,” meddai.

“Ydych chi’n gwybod bod gen i bobol yn dod i fy ngweld i gyda phlant, gyda theuluoedd, sydd wedi bod mewn ystafelloedd gwesty ers misoedd heb unrhyw arwydd eu bod yn mynd i dŷ?

“Yng Nghonwy, mae’r gwariant dros dro ar lety wedi mynd o £1.2m flwyddyn yn ôl i £2.5m. Y broblem fawr yma yw bod plant sy’n byw mewn llety dros dro ddim yn gwneud yn dda yn yr ysgol.

“Maen nhw’n dioddef o bryder meddyliol. Mae gen i bobol yn dod i mewn sy’n methu â chael morgais.

“Mae llawer o letyau dros dro yn swnio fel petai chi mewn tŷ braf yn rhywle. Gall llety dros dro fod yn fflat un ystafell gyda theulu ynddo.

“Mae’n sgandal ym mhob ystyr o’r gair.”

Ymateb Cyngor Conwy

Er gwaethaf y niferoedd, mae Cyngor Sir Conwy yn dweud bod mwyafrif y bobol sy’n byw mewn llety dros dro yn bobol sengl ac o dan 35 oed.

“Rydym yn deall mai Conwy yw’r pedwerydd uchaf o ran aelwydydd mewn llety dros dro yng Nghymru gyfan ar hyn o bryd,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor.

“Mae hyn yn bennaf oherwydd diffyg cyfatebiaeth rhwng y galw a’r cyflenwad, hynny yw, mae gennym 72% o aelwydydd sengl sydd â diffyg llety fforddiadwy o faint priodol yn y sector rhentu.

“Mae llawer o’r aelwydydd yn sengl o dan 35 oed, sy’n golygu, os ydyn nhw ar incwm isel, dydy eu Lwfans Tai Lleol ddim yn ddigon i dalu cost lawn eu rhent, sy’n eu gadael gydag ad-daliadau wythnosol sylweddol.

“Gyda’r gost gynyddol o fyw, ynghyd â’r diffygion, bydd yn golygu y bydd y sector rhentu preifat yn mynd yn fwy anfforddiadwy i’r grŵp hwn o bobol.”

‘Angen cynllun newydd’

Mae Conwy, fel nifer o awdurdodau lleol eraill, yn ei chael hi’n anodd adeiladu digon o dai fforddiadwy.

Oherwydd bod cyflogau rhai swyddi yn yr ardal yn isel, a bod yr ardal yn lleoliad poblogaidd i bobol sy’n ymddeol neu’n mynd ar wyliau, dydy pobol ifanc ddim yn gallu cystadlu yn y farchnad dai.

Mae ail dai ac eiddo gwag hefyd yn achosi problemau yn y sir.

Ym mis Rhagfyr, fe wnaeth y cyngor gefnu ar eu penderfyniad i godi’r dreth ar ail gartrefi i 50%.

Wrth siarad ar ran Plaid Cymru, dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne o Lanrwst fod angen dull newydd o weithredu.

“Mae yna 1,000 o eiddo gwag tymor hir yn sir Conwy, sy’n hurt o uchel,” meddai.

“Mae gan Gonwy 891 o aelwydydd sydd angen tai ac wedi’u cofrestru ar gyfer tai cymdeithasol, gydag un o bob deg yn aros tair blynedd neu fwy.

“Mae’n amlwg bod angen cynllun newydd, beiddgar ac uchelgeisiol arnon ni i sicrhau bod cartrefi’n hygyrch i bobol leol.

“Rwyf am weld y Cyngor, Llywodraeth Cymru a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn gweithio gyda pherchnogion eiddo gwag hirdymor i ddod â’r cartrefi hyn yn ôl i ddefnydd, a’u hychwanegu at y stoc rhent cymdeithasol.

“Byddai hyn yn ymrwymiad enfawr, ond gan fod cyfradd adeiladu tai rhent cymdeithasol wedi llonyddu dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae angen i ni ailddyfeisio’r ffordd rydyn ni’n ychwanegu cartrefi at y stoc rhent cymdeithasol, wrth i’r galw barhau i gynyddu.

“Byddai dychwelyd yr eiddo gwag hirdymor hyn yn ôl i ddefnydd yn helpu i lacio’r argyfwng tai yng Nghonwy, heb fod angen adeiladu cannoedd o gartrefi drud, y tu allan i’r cyrraedd ar ein tir gwyrdd gwerthfawr.”