Mae newyddiadurwr sydd wedi teithio i’r Wcráin gydag Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, a Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru, wedi cyhoeddi erthygl ar y we yn egluro’r sefyllfa ddiweddaraf yn yr Wcráin.
Cyn mynd yn newyddiadurwr ar ei liwt ei hun, roedd y sylwebydd gwleidyddol Paul Mason yn Olygydd Diwylliant a Digidol ac yn Olygydd Economaidd gyda Channel 4 News a rhaglen Newsnight y BBC.
Mae e hefyd wedi gweithio i Radio 4, ac wedi cyfrannu erthyglau i nifer o’r papurau dyddiol Prydeinig.
Wrth deithio i’r Wcráin gyda gwleidyddion ac undebau llafur asgell chwith, mae Paul Mason yn dadlau bod angen diogelu hawliau gweithwyr a lleiafrifoedd yn yr Wcráin, gan gynnwys y gymuned LHDTC+.
Mae e wedi cyhoeddi erthygl ar ei wefan yn ceisio ateb yr holl gwestiynau sydd yn allweddol er mwyn deall yr hyn sy’n digwydd yn yr Wcráin ar hyn o bryd.
Beth sydd wedi digwydd?
Roedd Rwsia wedi cyhoeddi eu bod nhw’n barod i gydnabod dau ranbarth newydd yn yr Wcráin, sef Donetsk a Luhansk, fel gweriniaethau a gwledydd annibynnol, cyn anfon milwyr i mewn.
Pam fod hynny’n broblem?
Ond fel yr eglura Paul Mason, mae’r ddau ranbarth yn perthyn i’r Wcráin, gwlad oedd yn rhan o’r Undeb Sofietaidd a ddaeth i ben yn 1991 ond a gadwodd yr hawl fel rhan o gytundeb yn 1994 i reoli ei thir ei hun yn gyfnewid am ildio arfau niwclear.
Beth mae’n ei olygu?
Mae’r weithred ddiweddaraf gan Rwsia wrth fynd i mewn i’r ddau ranbarth yn mynd yn groes i’r cytundeb hwnnw, meddai’r newyddiadurwr, ac yn gosod cynsail er mwyn i wlad fawr ymosod ar ei chymydog lai o faint.
“A ydych chi’n byw mewn gwlad? Ydych? A oes ganddi ffiniau sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol?” gofynna cyn mynd yn ei flaen i egluro arwyddocâd y cwestiynau hynny.
“O hyn ymlaen, gall unrhyw un â byddin fwy o faint benderfynu ail-lunio’r ffiniau hynny,” meddai.
“Os ydych chi’n byw yn y lle anghywir, byddwch chi’n dod yn ddinesydd yn y wlad sy’n ymosod ac yn cael eich gorfodi i ufuddhau i’w chyfreithiau a siarad ei hiaith.
“Ydych chi’n gweld pam fod hynny’n broblem?”
Onid Rwsiaid yw pobol o’r Wcráin mewn gwirionedd?
Yn 2014, cafwyd chwyldro gan bobol yr Wcráin yn erbyn eu llywodraeth pro-Rwsia eu hunain, gan frwydro dros ryddid o Rwsia.
Mae Paul Mason yn dadlau bod yr Wcráin yn wlad rydd, yn union fel y mae Iwerddon ar wahân i Brydain a Chanada yn wlad wahanol i’r Unol Daleithiau.
Ar y cyfan, mae trigolion yr Wcráin yn dueddol o bleidleisio dros ymgeiswyr sy’n cydnabod y wlad fel un sy’n annibynnol.
Onid yw’r Wcráin yn gormesu’r sawl sy’n siarad Rwsieg?
Yn ôl Paul Mason, “celwydd” yr Arlywydd Vladimir Putin yw dweud bod siaradwyr Rwsieg yn cael eu gormesu yn yr Wcráin.
Mae’n cyfeirio at y ffaith fod y lluoedd arfog yn frith o siaradwyr Rwsieg a lleiafrifoedd Rwsiaidd.
Ydy symud milwyr i mewn i’r Wcráin yn dadsefydlogi’r sefyllfa?
Dywed Paul Mason fod Vladimir Putin wedi gwneud araith yn datgan na ddylai’r Wcráin fyth gael yr hawl i ymuno â NATO.
Mae hyn, meddai, am ei bod fel gwlad yn bwriadu caffael arfau niwclear er mwyn ymosod ar Rwsia – rhywbeth sydd, yn ôl Paul Mason, “yn ffantasi lwyr”.
“Fe ddywedodd e hyn yn fyw ar y teledu, mewn gwirionedd, yn ystod araith ddryslyd lle’r oedd yn mwydro,” meddai.
“Mae hynny’n golygu ei fod e eisiau dinistrio’r Wcráin fel gwlad.”
Onid NATO yw’r drwg?
Yn ôl Paul Mason, mae NATA “wedi gwneud pethau twp ac anghyfiawn”, ond mae’n gwadu mai NATO yw’r drwg yn y sefyllfa rhwng Rwsia a’r Wcráin.
Mae’n dadlau bod NATO “dan yr argraff” eu bod nhw’n gallu “plismona’r byd” gan ymyrryd yn Affganistan a Libya.
Ond mae’n dweud bod NATO wedi atal yr Wcráin rhag bod yn aelod “oherwydd mae hi’n wlad sydd â ffiniau ansefydlog, oligarchiaeth lwgr a democratiaeth wan”.
Yn ôl Paul Mason, “camwybodaeth gan Putin a’i ddilynwyr” yw’r chwedlau am NATO.
Oni ddylai NATO atal aelodaeth arfaethedig yr Wcráin?
Y sefyllfa bresennol, yn ôl y newyddiadurwr, yw na fydd yr Wcráin yn cael ymuno â NATO “am amser hir”.
Ond mae’n dweud nad yw hynny’n ddigon i Vladimir Putin, sydd eisiau cynnal sefyllfa “lle na all yr Wcráin fyth gwneud penderfyniadau ynghylch ei safle ei hun yn y byd”.
Mae’n dadlau ymhellach fod Putin eisiau i holl wledydd Dwyrain Ewrop i dynnu’n ôl o NATO i’r sefyllfa roedden nhw ynddi cyn y cytundeb yn 1994.
“Mae e’n mynnu hyn wrth anelu dryll,” meddai Paul Mason, sy’n dweud nad oes lle i negodi ym marn Putin.
Beth mae hyn yn ei olygu i bobol yn yr Wcráin?
Mae 41m o bobol yn byw yn yr Wcráin – pobol sydd, yn ôl Paul Mason, “yn addysgiedig ac o blaid Ewrop” ac mae eu daliadau gwleidyddol yn amrywio’n fawr ar draws yr holl sbectrwm.
Eu blaenoriaeth, meddai, yw cael swyddi ac ennill bywoliaeth.
Yn 2014, roedden nhw eisiau i’r asgell dde fod o blaid Ewrop ac mae hynny bellach yn cael ei gwestiynu – ac mae hynny’n golygu cwestiynu bodolaeth y genedl gyfan, meddai.
“Dydy Putin ddim yn credu bod ganddyn nhw’r hawl i hunanlywodraeth, ac fe fydd e’n meddiannu’r Donbas yn gyntaf, ac yna’n pwyso’n drwm ar yr Wcráin i ildio ymhellach”.
A fydd rhyfel?
Hyd yn hyn, dydy’r Wcráin ddim wedi ymateb i baratoadau Rwsia i ymosod arnyn nhw, gyda 127,000 o filwyr wedi’u symud i’r ffin rhwng y ddwy wlad.
Mae Paul Mason yn dadlau y gallai Rwsia “bryfocio” yr Wcráin er mwyn dechrau rhyfel.
Serch hynny, mae’n dweud y bu “rhyfel ar raddfa fach” yn y wlad ers wyth mlynedd, gyda 14,000 o bobol wedi’u lladd o ganlyniad i’r gwrthdaro.
Ond dim ond pe bai Rwsia’n croesi’r ffin y byddai rhyfel go iawn yn cychwyn, meddai.
Ai pobol yr Wcráin yw’r ffasgiaid?
“Celwydd arall” yw’r awgrym mai’r Wcráin yw’r ffasgiaid, yn ôl Paul Mason, sy’n dadlau bod y fath safbwynt yn “enllibus”.
3-6% o’r boblogaeth ar y mwyaf sydd o blaid pleidiau asgell dda yn y wlad, meddai, gan ychwanegu ei bod hi’n debygol fod mwy o ffasgwyr yn y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau.
Beth allaf fi ei wneud?
Dywed y newyddiadurwr fod yr hyn sydd ar y gweill rhwng y ddwy wlad “yn frawychus”, a’r “digwyddiad geowleidyddol mwyaf, mae’n debyg, y gwelwch chi yn eich bywyd”.
“Megis dechrau” yw’r bygythiad gan Rwsia i lyncu’r Wcráin, meddai.
Mae’n dadlau bod modd i unrhyw un sefyll ochr yn ochr â’r Wcráin – sef diben ei daith yno.
Mae modd gwneud hyn drwy godi llais ar y cyfryngau cymdeithasol, meddai, yn ogystal â chefnogi’r sancsiynau gan lywodraethau’r Gorllewin yn erbyn Rwsia, a bod yn hyddysg ynghylch gwybodaeth sy’n cael ei lledaenu yn Rwsia.
Oes modd anwybyddu’r cyfan a pharhau i ymladd yn erbyn cyfalafiaeth, yr heddlu, y Torïaid a.y.b.?
Yn ôl Paul Mason, mae Vladimir Putin yn defnyddio dulliau tebyg i ledaenu camwybodaeth â Donald Trump yn yr Unol Daleithiau.
Mae hynny, meddai, yn golygu cynnydd mewn camwybodaeth, llwgrwobrwyo, llygredd, lladd, gwyngalchu arian a llawer mwy er mwyn ceisio cefnogaeth i Vladimir Putin.
A oes perygl o Ryfel Byd?
Mae Paul Mason yn gadarn ei farn y gallai’r sefyllfa arwain at Ryfel Byd arall.
Mae’n dweud bod rhaid galw am leihau’r tensiynau o bob cyfeiriad.
“Ond rhaid hefyd i ni feirniadu a chosbi’r bygythiwr – Rwsia,” meddai, gan ddadlau na fydd gwledydd sy’n perthyn i NATO yn brwydro tros yr Wcráin a bod y bobol “ar eu pennau eu hunain” yn y frwydr.
Oni fyddai sancsiynau’n niweidio Rwsiaid?
Dim ond chwech o Rwsiaid oedd wedi protestio yn erbyn ymosodiad Putin ar yr Wcráin, meddai – ond pam?
“Oherwydd mae’n unbennaeth,” meddai.
“Cafodd y chwech eu harestio. Ond mae miloedd o Rwsiaid, yn enwedig ymhlith pobol ifanc, sy’n casáu Putin.”
Wrth gyfeirio at hanes De Affrica, mae’n dadlau bod modd “rhoi unbennaeth ar ei gliniau” drwy gyflwyno sancsiynau yn erbyn “cyfoethogion Rwsia sy’n cefnogi Putin”.
Ond mae’n dadlau y dylid gosod “nod yn y pen draw o danio gwrthryfel torfol, poblyddol, democrataidd sy’n cael gwared ar Putin”.
Oni allen ni fod wedi atal hyn?
Gallai’r sefyllfa bresennol fod wedi cael ei hatal, meddai Paul Mason.
Ond mae’n dweud bod gwleidyddion fel Boris Johnson, prif weinidog y Deyrnas Unedig, wedi parhau am yn rhy hir i dderbyn arian gan Rwsiaid cyfoethog “gan adael iddyn nhw ddefnyddio Llundain fel canolfan i wyngalchu arian sydd wedi’i ddwyn”.
Beth nesaf?
Mae Vladimir Putin wedi adnabod Donetsk a Luhansk fel rhanbarthau gwerthfawr ac wedi eu meddiannu nhw.
Ond rhan o’r darlun yn unig yw hynny, yn ôl Paul Mason.
Mae’n dadlau bod Putin a’i lywodraeth eisiau meddiannu rhagor o ardaloedd, ac ymosod ar yr Wcráin yw’r ffordd o wneud hynny.
Ond beth fyddai effaith hynny ar y byd?
“Pe bai Rwsia’n ymosod ar yr Wcráin, bydd gennym y rhyfel mwyaf yn Ewrop ers 1945,” meddai.
“Mae Rwsia eisiau sarhau Prydain, Ffrainc a’r Unol Daleithiau, gan ddangos i weddill y byd mai grym sy’n iawn a bod cenedlaetholdeb ethnig yn gryfach na democratiaeth a’r gyfraith.
“Dyna’r byd rydych chi bellach yn byw ynddo,” rhybuddia wedyn.
“Os nad ydych chi’n ei hoffi, dysgwch eich hun am yr opsiynau amgen.”
Welsh lawmakers in Kyiv call for international solidarity with Ukraine – please RT #StandWithUkraine @MickAntoniw1 @Adamprice pic.twitter.com/0tcVfgO7Zs
— Paul Mason (@paulmasonnews) February 22, 2022