Peth mentrus ydi hi i newyddiadurwr heb wybodaeth arbenigol roi barn am sefyllfaoedd peryglus mewn gwledydd pell i ffwrdd. Un peth sy’n waeth ydi gwleidyddion yn gwneud yr un peth ac, yn fwy fyth, yn chwarae gêmau efo rhyfel. Mae yna lawer o hynny yn digwydd yn yr Wcrain.
Nid dyn diniwed yn cael cam ydi Vladimir Putin ac nid gwladwriaeth addfwyn, gymdogol ydi Rwsia; petaen ni’n byw yn ei chysgod hi, yn yr Wcrain neu wledydd y Baltig, mi fydden ninnau’n teimlo’n ofnus ac anniddig. Ond go brin mai rhyddid yr Wcrain ydi prif ystyriaeth NATO.
Yr elfen fwya’ troëdig ydi rôl ein llywodraeth ni yn San Steffan, yn brolio a bygwth yn wag ac yn neidio i fyny ac i lawr ar yr ystlys gan annog pawb arall i weithredu. Os oes/bydd yna ryfel, pobol gyffredin go-iawn yr Wcrain fydd yn diodde’.
Chwerthin y mae cyfryngau gwledydd eraill ar ben honiad Boris Johnson ei fod yn “tynnu’r Gorllewin ynghyd”; gwingo’n anesmwyth yr oedden nhw wrth glywed yr Ysgrifennydd Amddiffyn yn sôn am arogl Munich ac aros y maen nhw i weld beth wnaiff y Llywodraeth Geidwadol efo’r oligarchiaid cefnogol sy’n golchi eu harian budr yn Llundain.
Mae rhai o newyddiadurwyr mwy beirniadol yr Unol Daleithiau wedi bod yn amau seiliau’r honiad y byddai Rwsia’n ymosod ddydd Mercher (ddoe). Erbyn hyn mi fyddwch chi’n gwybod a oedd yr amheuwyr yn iawn ac ai rhan o’r gêm oedd creu panig yn Kyiv.
A dyna ydi’r cwestiwn i Boris a Ben – be’n union allan nhw ei wneud os ydi Vladimir Putin yn gweithredu? Gan eu bod eisoes wedi dweud na fyddan nhw’n ymladd yn yr Wcrain, mae’r ateb yn weddol amlwg. Mae’r bygythiadau’n wag.
Dydi hi ddim yn glir be ydi gêm yr Unol Daleithiau chwaith. Yn amlwg, tydi hi ddim eisio gweld Ffrainc a’r Almaen yn mynd eu ffordd eu hunain o ran amddiffyn yn Ewrop ond dydi hi chwaith ddim eisio cael ei thynnu i mewn yn ormodol i wrthdaro yno.
Ar un olwg, mae Vladimir Putin wedi ennill eisoes, trwy orfodi gwledydd y Gorllewin i drafod, trwy gael cefnogaeth gyhoeddus Tsieina a thrwy greu ansicrwydd ynghylch rhannau o’r Wcrain. Ond mi fydd rhaid i wledydd NATO gynnig digon iddo fo allu tynnu’n ôl heb golli wyneb gartre’.
O’r pellter diogel yma, mae’n ymddangos mai’r hyn sydd ei angen ydi dealltwriaeth ynghylch buddiannau’r naill ochr a’r llall, efo sicrwydd i’r Wcrain ynglŷn â’i dyfodol hithau.
Mi fyddai cytundeb i reoli faint o bresenoldeb milwrol sydd ar y ddwy ochr yn gwneud sens, efo addewidion na fydd y naill ochr na’r llall yn arfogi yn yr Wcrain ei hun (yn ôl y sôn, dydi NATO ddim yn awyddus iawn i’w chael hi’n aelod ond mi fyddai angen system drylwyr i atal Rwsia rhag annog gwrthryfelwyr pro-Rwsia yn nwyrain y wlad).
A fyddai hynny’n dderbyniol i’r Wcrain? Siawns na fydden nhw’n croesawu sicrwydd ac addewid o dawelwch cymharol.