Mae YesCymru newydd gyhoeddi y bydd eu ralïau’n dod yn ôl eleni, yn Wrecsam ac yng Nghaerdydd. Wedi dwy flynedd yn ffraeo a checru am bethau sy’n gwbl amherthnasol i annibyniaeth, a honiadau o garfannau’n ymryson am ddylanwad (y dde bell a’r chwith bell; sy’n casáu ei gilydd bron cymaint ag y maen nhw’n casáu pawb yn y canol eang rhyngddynt) mae’r mudiad wedi gwegian, a thrwy gamweinyddu syml o ran adnewyddu aelodaeth wedi colli hanner ei aelodau ers ei anterth ar ddeunaw mil.