Protest iaith ym Mangor nôl yn 2011.

Canolfan Pontio ar ei hanner, a’r Prif Weinidog ar y pryd, Carwyn Jones, wedi dod draw i weld y gwaith adeiladu ar y ganolfan posh gwerth £50 miliwn.

A phwy ddaeth i darfu ar y prosesiwn parchus o bwysigion y brifysgol a’r gwleidyddion lleol a chenedlaethol, ond yr hen Gymdeithas yr Iaith… Angharad Tomos yn arwain mintai o tua dwshin o gywion protestgar.

Sôn am roi pin yn swigen y pwysigion!