Mae dau achos arall o ffliw adar wedi cael eu canfod ar ddau safle masnachol ym Mhowys.

Dywed yr Athro Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, fod ffesantod ar y ddau safle ger y Drenewydd a’r Trallwng lle mae’r haint wedi’i ganfod.

Mae parthau gwarchod, goruchwylio a chyfyngu wedi’u datgan o amgylch y ddwy safle, er mwyn cyfyngu’r risg o ledaenu’r clefyd.

Ers yr hydref, mae pump o achosion o ffliw adar wedi’u canfod mewn dofednod ac adar caeth eraill yng Nghymru.

Mae’r risg i iechyd y cyhoedd yn sgil ffliw adar yn “isel iawn”, meddai Llywodraeth Cymru, ac mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn dweud ei fod yn peri risg diogelwch bwyd isel iawn i ddefnyddwyr.

‘Testun pryder’

Dywed yr Athro Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, fod yr achosion hyn yn “destun pryder”, ac yn dystiolaeth nad yw’r risg i adar Cymru wedi lleihau.

“Rhaid i geidwaid adar fod yn wyliadwrus a sicrhau bod ganddyn nhw’r lefelau bioddiogelwch uchaf yn eu lle,” meddai.

“Mae mwy y gellir ei wneud bob amser i ddiogelu eich adar.

“Rwy’n annog pawb i wneud popeth o fewn eu gallu. Unwaith eto, adolygwch yr holl fesurau sydd yn eu lle a nodi unrhyw feysydd i’w gwella.

“Meddyliwch am risgiau o ddod i gysylltiad uniongyrchol ag adar gwyllt, yn enwedig adar dŵr a hefyd unrhyw beth a allai fod wedi’i heintio gan faw adar – dillad ac esgidiau, offer, cerbydau, bwyd anifeiliaid a’u gwely.

“Gwnewch welliannau lle gallwch chi i atal y clefyd dinistriol yma rhag lledaenu ymhellach o fewn ein poblogaeth o adar dof.

“Mae mesurau cartrefu mewn grym i warchod dofednod ac adar cadw, ond dim ond pan gânt eu cyfuno â gweithredu’r mesurau bioddiogelwch llymaf mae mesurau cartrefu’n effeithiol.

“Rhaid hysbysu’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar unwaith am unrhyw amheuaeth o ffliw adar neu unrhyw glefyd arall y dylid rhoi gwybod amdano.”

Mae’r cyhoedd yn cael eu hannog i roi gwybod i Defra am unrhyw adar marw maen nhw’n dod ar eu traws, fel eu bod nhw’n gallu eu casglu i’w harchwilio.

Mae’n bwysig peidio â chodi na chyffwrdd unrhyw aderyn sâl neu farw, meddai Llywodraeth Cymru.