Mae angen i Lywodraeth Cymru ddiweddaru eu cynllun ar gyfer ardaloedd morol Cymru, yn ôl adroddiad newydd.

Yn ôl Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith y Senedd, mae’r cynllun presennol, sy’n ymdrin ag ynni adnewyddadwy a chadwraeth, yn “brin o dystiolaeth” ac “wedi dyddio”.

Er mwyn osgoi sefyllfa lle mae datblygiadau ynni morol yn effeithio’n negyddol ar ecosystemau, mae hi’n “hollbwysig” cael y cydbwysedd cywir rhwng y ddwy elfen, meddai.

Mae’r Pwyllgor yn cwestiynu a all y Cynllun Morol Cenedlaethol presennol gyflawni hynny, ac maen nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu dadansoddiad allanol o’r cynllun, yn enwedig o ystyried y twf disgwyliedig mewn ynni adnewyddadwy morol dros y blynyddoedd nesaf i gefnogi’r broses o ddatblygu Cymru’n wlad sero net.

Dim ond yn 2019 y cafodd y cynllun ei fabwysiadu, gan nodi dull hirdymor Llywodraeth Cymru o ddatblygu’r amgylchedd morol, ond mae sefydliadau amgylcheddol wedi ei feirniadu am beidio â gwneud digon i warchod ecosystemau morol.

Edrychodd yr ymchwiliad ar reolaeth Llywodraeth Cymru o safleoedd cadwraeth morol hefyd, a doedd dim tystiolaeth i awgrymu bod amgylchiadau wedi gwella dros y pedair blynedd diwethaf.

‘Cydbwysedd bregus’

Dywed Llyr Gruffydd, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, y gallai Cymru fod mewn “perygl gwirioneddol” o gael y cydbwysedd rhwng ynni a chadwraeth yn anghywir.

“Mae gan Gymru dros 2,000km o arfordir ac mae ein hamgylchedd morol yn gartref i rai o’r cynefinoedd a rhywogaethau mwyaf amrywiol yn fiolegol yn Ewrop,” meddai.

“Mae’r arfordir hwn hefyd yn darparu cyfleoedd ynni morol enfawr, gyda chapasiti cynhyrchu sy’n ddigon sylweddol i helpu Cymru i gyrraedd ei thargedau sero net.

“Mae polisi morol presennol Llywodraeth Cymru wedi dyddio ac yn brin o’r dystiolaeth sydd ei hangen i greu polisi effeithiol yn yr unfed ganrif ar hugain.

“Mae cydbwysedd bregus rhwng manteisio ar adnoddau morol Cymru – tonnau, gwyntoedd a llanw – tra’n gwarchod a gwella ein hecosystemau ar yr un pryd.

“Yn anffodus, os na fydd Llywodraeth Cymru yn dilyn ein hargymhellion, gallem fod mewn perygl gwirioneddol o gael y cydbwysedd hwnnw’n anghywir.”