Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i bennu dyddiad ar gyfer cael gwared ar weddill rheoliadau Covid-19 Cymru.
Daw’r galwadau ar ôl i Boris Johnson gyhoeddi newidiadau yn Lloegr ddoe (dydd Llun, Chwefror 21), fydd yn golygu bod hunanynysu gorfodol yn dod i ben ar Chwefror 24, profi mewn ysgolion yn dod i ben ar unwaith, a phrofion am ddim yn dod i ben ar Fawrth 31.
Er bod Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, yn deall y pryderon ynghylch gostwng capasiti’r rhaglen brofi, dywed nad oes yna fawr ddim pwrpas ystadegol iddi pan fo nifer achosion Covid yn isel.
“Dw i wrth fy modd bod rhan arall o’r Deyrnas Unedig yn gwybod y byddan nhw’n cael eu holl ryddid yn ôl yn fuan, gyda’r cyfrifoldeb ar unigolion yn hytrach na gweinidogion er mwyn gallu byw gyda Covid,” meddai.
“Gyda Lloegr yn ymuno â Gogledd Iwerddon yn fuan wrth gael gwared ar holl gyfreithiau Covid, mae Llywodraeth Lafur Mr Drakeford ym Mae Caerdydd ar ei hôl hi eto wrth adfer rhyddid a ffyniant, gan ddewis gweld pa ffordd mae’r gwynt yn chwythu, a hynny er anfantais Cymru.
“Er fy mod i’n deall y pryderon ynghylch gostwng y capasiti i brofi, nid oes yna lawer o bwrpas ystadegol iddo pan mae achosion yn cyrraedd lefelau isel, a byddan nhw dal yn rhad ac am ddim i’r rhai sydd eu hangen nhw fwyaf, tra y byddai hi’n bosib gwario’r £12bn fyddai’n cael ei arbed ar ddatrys problemau hirdymor yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.”
Hyd at 17 Chwefror, dim ond 11 o bobol oedd mewn gwelyau â chymorth anadlu mecanyddol yng Nghymru, y nifer isaf ers canol mis Gorffennaf y llynedd.
“Mae brechiadau wedi bod yn allweddol i guro Covid, felly dw i’n falch o weld awgrym am ddechrau rhaglen frechu reolaidd gydag ail ddos atgyfnerthu’n cael ei gynnig i’r bobol fwyaf agored i niwed yn y gwanwyn,” meddai Russell George wedyn.
“Fodd bynnag, allwn ni ddim aros am byth am gynllun iawn i fyw gyda’r feirws gan Mr Drakeford oherwydd mae’n rhaid i Gymru ffeindio ei ffordd eto ac adfer wedi’r pandemig, hyd yn oed os yw record Llafur yn awgrymu na fyddan nhw’n gallu ei helpu i wneud hynny.”
‘Peryglu pawb’
Bydd profion am ddim yn dal ar gael i’r bobol fwyaf agored i niwed yn Lloegr, ond mae’r newid yn golygu na fydd arian i Gymru ar gyfer profi chwaith.
Dywed Delyth Jewell, Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru, y bydd y penderfyniad yn gorfodi llywodraethau Cymru a’r Alban i wneud yr un peth neu wario llai mewn maes arall er mwyn gallu ariannu profion.
“Mae’r ffordd wyrdroëdig mae’r undeb yn gweithio’n golygu bod byrbwylltra yn y canol yn peryglu pawb,” meddai Delyth Jewell.