Fydd Cymru ddim yn gwneud unrhyw newid i’w rhaglen brofi am Covid-19, gan ddweud y byddai hi’n “fyrbwyll” ac yn “gynamserol” i wneud hynny am y tro.

Daw hyn ar ôl i adroddiadau awgrymu y bydd gwasanaethau profi PCR yn dod i ben yn Lloegr yn yr wythnosau nesaf, wrth iddyn nhw baratoi i ddileu pob cyfyngiad Covid sy’n parhau i fod mewn grym.

Heddiw (dydd Llun, Chwefror 21), bydd Boris Johnson, prif weinidog y Deyrnas Unedig, yn cyfarfod â’i Gabinet ac yn cyhoeddi’r cynllun i “fyw gyda Covid” yn nes ymlaen.

Fe allai hynny olygu diwedd ar yr orfodaeth i hunanynysu ar ôl prawf Covid-19 positif, sydd wedi derbyn ymateb chwyrn gan rai arbenigwyr iechyd.

Dywed Boris Johnson mai’r bwriad yw “dychwelyd rhyddid yn ôl i bobol o’r diwedd”, a hynny ar ôl “un o’r cyfnodau anoddaf yn hanes ein gwlad”.

‘Hanfodol bod hyn yn parhau’

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru yn bendant na fyddan nhw’n gwneud unrhyw newid i’r rhaglen brofi bresennol, gan y byddai hi’n “gynamserol” ac yn “fyrbwyll” pe bai hynny’n dod i ben.

“Mae profion wedi chwarae rhan ganolog yn y gwaith o dorri cadwyni trosglwyddo Covid,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae wedi gweithredu fel arf gwyliadwriaeth bwerus sy’n ein helpu i ganfod ac ymateb yn gyflym i amrywiolion sy’n dod i’r amlwg. Mae’n amlwg yn hanfodol bod hyn yn parhau.

“Byddai unrhyw benderfyniad i ddiffodd y tap ar ein Rhaglen Brofion Cenedlaethol yn effeithiol heb unrhyw gynlluniau ar waith yn y dyfodol i ymateb iddo yn rhoi pobl mewn perygl. Nid yw hyn yn dderbyniol.

“Yng Nghymru, byddwn yn parhau i wneud penderfyniadau i ddiogelu iechyd pobl yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol sydd ar gael i ni.”

Yn ogystal, bydd cyfnodau hunanynysu, sydd “wedi chwarae rôl bwysig yn torri cadwyni lledaeniad y firws,” yn parhau i fod yn orfodol yng Nghymru ar ôl prawf positif.

Ar ben hynny, fe fydd yn rhaid i fasgiau gael eu gwisgo mewn siopau, lleoliadau iechyd a gofal, ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi eu cynlluniau pellach ar gyfer y cyfyngiadau yn ystod eu diweddariad nesaf ar Fawrth 4.