Mae “carreg filltir bwysig” wedi cael ei chyrraedd yn y broses o greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru, yn ôl llefarydd iechyd Plaid Cymru.
Daw sylwadau Rhun ap Iorwerth ar ôl i Grŵp Arbenigol gael ei sefydlu i ddatblygu’r gwaith o greu gwasanaeth, fel rhan o gytundeb cydweithredu’r Blaid a Llywodraeth Lafur Cymru.
Yn rhan o’r grŵp hwnnw, fe fydd yna unigolion sydd â phrofiad o redeg gwasanaethau gofal cymdeithasol neu brofiad o lywodraeth leol, academyddion, ac unigolion sy’n arbenigo ar y berthynas rhwng y Gwasanaeth Iechyd a gofal cymdeithasol.
Y bwriad yw darparu argymhellion erbyn diwedd mis Ebrill eleni ynglŷn â sefydlu gwasanaeth, fel bod modd llunio cynllun gweithredu llawn erbyn diwedd 2023.
‘Rhoi sylfeini cadarn’
Dywed Rhun ap Iorwerth fod creu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru yn “hanfodol” er mwyn mynd i’r afael â’r bylchau yn y ddarpariaeth bresennol.
Mae’r Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn hefyd yn gobeithio y bydd y grŵp arbenigol newydd yn “rhoi sylfeini cadarn” wrth gyflawni hynny.
“Wrth wneud cynnydd ar y mater hwn fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio â Llywodraeth Cymru, mae Plaid Cymru wedi sicrhau carreg filltir bwysig wrth fynd â Chymru gam yn nes at gael Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol gwirioneddol,” meddai.
“Bydd y rhai sy’n rhan o’r Grŵp Arbenigol yn dod â mewnwelediad a phrofiad gwerthfawr, gan sicrhau bod y Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion rhai o’n dinasyddion mwyaf bregus o’r cychwyn cyntaf.
“Mae hefyd yn hanfodol bwysig bod y Grŵp Arbenigol yn ymgysylltu’n llawn â’r rhai sydd yn y rheng flaen yn darparu gofal ac yn sicrhau bod yr argymhellion yn adlewyrchu eu barn nhw.
“Rwy’n benderfynol ein bod yn darparu iechyd a gofal mewn ffordd gydgysylltiedig sy’n rhoi angen y claf neu’r defnyddiwr gwasanaeth wrth ei wraidd, ond hefyd ein bod yn darparu gwasanaeth sy’n denu, yn cefnogi ac yn gwobrwyo staff yn briodol.
“Gobeithiaf y bydd yr argymhellion a fydd yn cael eu darparu erbyn diwedd mis Ebrill eleni yn rhoi sylfeini cadarn i ni adeiladu sefydliad newydd y mae mawr ei angen ac un mae arweinwyr iechyd a gofal yn dadlau o’i blaid ers blynyddoedd lawer.”