Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid eu targed ynglŷn â chlefyd Hepatitis C.
Ar hyn o bryd, mae’r llywodraeth yn gobeithio cael gwared â’r clefyd yng Nghymru erbyn 2030, ond mae Mark Isherwood, Aelod Ceidwadol o’r Senedd, yn credu y gallai hynny gael ei symud yn ei flaen.
Clefyd llidiol yw Hepatitis C, sy’n effeithio’n bennaf ar yr afu, ac mae’n gallu achosi perygl gwirioneddol i fywyd heb driniaeth.
Yn 2019, mae’n debyg bod o gwmpas 118,000 o bobol yn y Deyrnas Unedig yn dioddef ohono.
Yn ddiweddar, mae’r llywodraethau yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban wedi cyhoeddi y byddan nhw’n ceisio cyflymu’r broses o ddileu’r clefyd.
Dydy Llywodraeth Cymru heb gyhoeddi cynlluniau i symud eu targed nhw ymlaen, er gwaethaf galwadau’r Ceidwadwyr.
‘Gorau po gyntaf y gallwn ddileu’r clefyd hwn’
Yn ystod Cyfarfod Llawn y Senedd yr wythnos ddiwethaf, holodd Mark Isherwood yr Ysgrifennydd Iechyd Eluned Morgan ynglŷn â’r targed presennol, ac a oedd bwriad i’w newid.
“Yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, 2025 yw’r dyddiad, a 2024 yn yr Alban,” meddai.
“Felly, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu dyddiad ei tharged i ddileu hepatitis C yng Nghymru erbyn 2030 fan bellaf?”
Gofynnodd Mark Isherwood hefyd sut y byddai’r llywodraeth yn mynd ati i reoli ac atal y clefyd yn y dyfodol.
Mewn ymateb i hynny, dywedodd Eluned Morgan y byddai’r Llywodraeth yn ystyried a ydy hi’n bosib symud y targed ymlaen.
“Yn sicr, mae gennyf ddiddordeb mawr ym mater hepatitis C, sydd, wrth gwrs, yn gyflwr hirdymor y mae’n rhaid i lawer o bobol fyw gydag ef,” meddai.
“Rwy’n falch iawn o gytuno i ystyried a oes unrhyw bosibilrwydd o newid y dyddiad targed hwnnw.
“Yn amlwg, gorau po gyntaf y gallwn ddileu’r clefyd hwn, felly rwy’n ymrwymo i gael golwg arall i weld a oes unrhyw ffordd o bennu dyddiad cynharach.”