Mae stormydd y penwythnos yn parhau i greu trafferthion ar hyd a lled Cymru.

Bydd rhybudd melyn am wynt mewn grym tan 1yp heddiw (dydd Llun, Chwefror 21), a’r disgwyl yw y bydd gwyntoedd o hyd at 75m.y.a. wrth i Storm Franklin barhau i daro Cymru.

Mae nifer o ffyrdd yn dal ar gau dros Gymru yn sgil llifoydd neu wyntoedd cryfion.

Mae’r A470 ar gau i’r ddau gyfeiriad rhwng Llangurig a Rhaeadr Gwy, ac ar gau yng Nghaersws.

Ym Machynlleth, mae Pont ar Ddyfi ar gau yn sgil llifogydd, ac mae Pont Hafren yr M48 ar gau.

Mae rhybuddion am lifogydd yn parhau i fod mewn grym dros rannau o Gymru, yn enwedig ger afonydd, ac mae disgwyl i’r nifer godi, meddai Cyfoeth Naturiol Cymru.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae hyrddiadau o 79m.y.a. wedi cael eu cofnodi yng Nghapel Curig fore heddiw, a 75m.y.a. yn Aberdaron.

Trafnidiaeth

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn annog pobol i beidio â theithio fore heddiw gan fod y tywydd wedi amharu ar wasanaethau.

Ar hyn o bryd, mae’r rheilffyrdd rhwng Aberystwyth a Machynlleth, Pwllheli a Machynlleth, Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog, Heol Claberston a Harbwr Abergwaun, Dinbych y Pysgod a Doc Penfro, a Rheilffordd Calon Cymru ynghau.

Mae Trafnidiaeth Cymru’n dweud wrth bobol y dylen nhw wirio eu siwrnai cyn teithio.