Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu cynlluniau i dyfu sector gofod Cymru ac i Gymru fod y wlad gynaliadwy gyntaf i fynd i’r gofod.

Mae strategaeth newydd, Wales: A Sustainable Space Nation, yn amlinellu nifer o feysydd twf, gan gynnwys datblygu tanwydd mwy gwyrdd a thechnoleg ailddefnyddiadwy.

Mae sector gofod y Deyrnas Unedig wedi treblu i £14.8bn y flwyddyn ers 2010, gan osod nod o gyflawni cyfran o 10% o’r farchnad fyd-eang erbyn 2030.

Yn ôl Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru, mae Cymru’n gobeithio cael gafael ar 5% o farchnad y Deyrnas Unedig erbyn 2040, gan roi hwb o £2bn y flwyddyn i’r economi.

Ymhlith y cynlluniau mae canolfan newydd yn Llanbedr, a llwyfan morol ger Port Talbot.

Mae cynlluniau ar y gweill hefyd i ddatblygu prosiectau tanwydd gwyrddach a thechnolegau yn Llanbedr, Ceredigion, Powys a Sir Gaerfyrddin.

Mae technolegau lloeren sy’n cael eu defnyddio i ganfod dŵr ar blanedau eraill yn cael eu defnyddio hefyd i fonitro tomenni glo Cymru.

Cynaliadwyedd wrth wraidd y strategaeth

Wrth siarad â Press Association, mae Vaughan Gething wedi dweud bod cynaliadwyedd wrth wraidd y strategaeth newydd.

“Mae’n fater o yriant, y tanwyddau newydd y gallech chi fod yn eu defnyddio, yn ogystal â chael y pethau y gallech chi fod eisiau eu rhoi yn y gofod yn barod mewn ffordd sy’n fwy cyfeillgar i’r amgylchedd,” meddai.

“Mae Space Forge, sy’n fusnes newydd arwyddocaol yng Nghymru, yn ehangu’n gyflym iawn ac maen nhw’n edrych ar dechnoleg ailddefnyddiadwy.

“Maen nhw’n edrych ar allu anfon cyfarpar i’r gofod ac iddo gael ei ddychwelyd a’i ailddefnyddio, ond hefyd ar y potensial i weithgynhyrchu eitemau yn y gofod hefyd.

“Felly rydych chi’n edrych ar ailddefnyddio a datgarboneiddio’r ffordd rydym yn rhoi eitemau yn y gofod, a bydd hynny ynddo’i hun yn bwysig ar gyfer teithio yn yr awyr.”

Busnesau yng Nghymru

Yn ôl Vaughan Gething, mae gan nifer o gwmnïau technoleg y gofod ganolfannau yng Nghymru eisoes, gan gynnwys Qioptiq sy’n cynhyrchu 98% o’r cynnyrch gwydr sy’n cael ei ddefnyddio wrth archwilio’r gofod.

“Mae Spaceport yn Eryri eisoes yn cwblhau profion ar gyfer potensial y genhedlaeth nesaf o deithio a thechnoleg y gofod,” meddai.

“Mae Space Forge a B2Space sydd wedi’u lleoli ger Casnewydd yn edrych ar sut allwch chi arnofio eitemau’n rhannol a chael gyriant wedyn sydd eisoes oddi ar y ddaear.

“Mae potensial yn hynny i arbed cyfran arwyddocaol o’r tanwydd fyddai ei angen arnoch chi i godi oddi ar y ddaear.

“Yn hanfodol bwysig yw’r partneriaethau academaidd sy’n pweru llawer o’r ecsbloetio hwn ar y gofod, mae gan ein sector prifysgolion yma record dda iawn yn hynny o beth.”

Ceisio cadw gweithwyr yng Nghymru

Un o elfennau pwysica’r strategaeth yw sut i gadw gweithwyr yng Nghymru, a chreu swyddi â chyflogau da sy’n galw am sgiliau arbenigol er mwyn atal gweithwyr ifainc sydd newydd raddio rhag mynd i wledydd eraill y Deyrnas Unedig.

“Os ydyn ni am weld dyfodol economaidd llwyddiannus, mae angen i fwy o bobol sylweddoli nad oes angen i chi fentro allan i ddod ymlaen, a chreu cyfleoedd gwirioneddol i wneud hynny,” meddai Vaughan Gething wedyn.

“Dw i’n hapus i bobol symud o amgylch a theithio a gweithio yng ngweddill y Deyrnas Unedig a gweddill y byd, ond dw i eisiau i’r bobol hynny deimlo bod modd iddyn nhw sefydlu a gwarchod busnes yma yng Nghymru, neu ymuno â busnes sy’n gallu rhoi dyfodol economaidd go iawn iddyn nhw.”

Mae’r gofodwr Tim Peake wedi canmol y gwaith sydd ar y gweill yng Nghymru.

“Mae gan y gofod y gallu i ysbrydoli ac addysgu cenedlaethau’r dyfodol, yn ogystal â bod wrth galon y gwaith o ddatrys rhai o’r heriau mwyaf heddiw,” meddai.

“Mae technoleg ac arloesi yn allweddol i dyfu ein heconomi gyda gweithlu sydd â sgiliau, a dw i wrth fy modd o weld Cymru’n cofleidio’r cyfleoedd cyffrous sydd gan sector y gofod i’w cynnig.”