Mae cyfarfod cyhoeddus wedi cael ei gynnal yn Abertawe wrth i ymgyrchwyr alw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’u pryderon ynghylch cladin ar adeiladau.

Mae’r rhai oedd wedi dioddef yn sgil sgandal diogelwch tân yn dal i wynebu biliau o hyd at £60,000 yr un i gwblhau gwaith diogelwch tân ar eu cartrefi, a hynny bedair blynedd a hanner ers tân Tŵr Grenfell.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ariannu’r gwaith o ailgladio tai cymdeithasol, mae nifer o lesddeilwyr preifat yn wynebu costau ailgladio a chamau diogelwch yn y cyfamser, sy’n golygu eu bod nhw o dan straen ariannol a meddyliol.

Y Democratiaid Rhyddfrydol drefnodd y cyfarfod, fis ar ôl i gyfarfod tebyg gael ei gynnal yng Nghaerdydd, ac maen nhw’n galw am gyflwyno Cronfa Diogelwch Adeiladau yng Nghymru i fynd i’r afael â’r holl ddiffygion sydd heb eu datrys o hyd fel nad oes neb ar eu colled.

Mae’r Llywodraeth Lafur dan y lach am fethu â gwneud cyhoeddiad yn dilyn cyhoeddiad Michael Gove yn Lloegr y bydd Llywodraeth San Steffan yn cyflwyno deddfau newydd i warchod lesddeiliaid i sicrhau mai’r diwydiant ac nid unigolion fydd yn talu am waith i ddiogelu adeiladau.

Jane Dodds
Jane Dodds yn annerch cyfarfod cyhoeddus ar gladin

Mae Llywodraeth Cymru hefyd dan y lach am fethu â chyfarfod ag unigolion sydd wedi cael eu heffeithio ond yn dilyn pwysau, maen nhw wedi cytuno i gyfarfod â Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ac ambell ddioddefwr i drafod y sefyllfa.

‘Hollol warthus’

“Mae’n hollol warthus, bron i bum mlynedd ers Grenfell, fod gennym ni bobol o hyd yn sownd mewn adeiladau anniogel ac yn cael eu siomi gan y rhai sydd mewn grym,” meddai Jane Dodds.

“Ddylai pobol ddim gorfod talu’r pris o gwbl am gamgymeriadau difrifol datblygwyr eiddo.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru gamu i mewn ar frys a darparu arian i drwsio’r holl ddiffygion diogelwch tân cyn gynted â phosib.

“Dylai hi wedyn fod yn nwylo’r Llywodraeth i fynd ar ôl datblygwyr eiddo i hawlio’r arian yn ôl.

“Allwn ni ddim cael pobol yn byw wrth aros yn yr unfan ac mewn adeiladau anniogel wrth iddyn nhw geisio mynd ar ôl datblygwyr eiddo am arian.

“Mae’r straeon rydyn ni wedi’u clywed yn y cyfarfod cyhoeddus hwn yn gwbl erchyll ac mae angen i’r Llywodraeth ymgysylltu ar frys â’r sawl sydd wedi’u heffeithio a chamu i fyny yn y sefyllfa hon.

“Mae rhai pensiynwyr sydd wedi’u heffeithio’n talu dros £500 o’u £800 o bensiwn mewn costau gwasanaethu a thrwsio.

“Mae’n warthus fod hyn wedi gallu parhau cyhyd.”