Mae’r stormydd sydd wedi taro Cymru dros y penwythnos wedi effeithio ar wasanaethau’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Dywed y Llyfrgell fod “problem dechnegol” yn yr adeilad wedi ei hachosi gan y tywydd garw, ac y byddan nhw’n parhau i fod ar gau heddiw (dydd Llun, Chwefror 21).

Maen nhw’n ymddiheuro am yr anghyfleustra, ond yn awyddus i atgoffa pobol bod eu gwasanaeth digidol ar gael ar eu gwefan.

Bu’n rhaid iddyn nhw gau i’r cyhoedd ddydd Gwener (Chwefror 18) fel rhagofal oherwydd y rhybuddion tywydd oren oedd yn weithredol yn y canolbarth o achos Storm Eunice.

Dydyn nhw ddim ar agor beth bynnag ar benwythnosau, ond daeth Storm Franklin â mwy o wyntoedd cryfion a glaw trwm y penwythnos hwn, sy’n golygu nad ydyn nhw’n gallu agor ar ddechrau’r wythnos.

Roedd Canolfan y Celfyddydau sydd gerllaw yn adrodd bod y “cyflenwad dŵr i rai ardaloedd o gampws Penglais wedi’i dorri’r bore ’ma”.

Yn y cyfamser, bydd yr adeilad hwnnw yn cau i’r cyhoedd, ac fe fydd holl ddosbarthiadau, digwyddiadau a ffilmiau Canolfan y Celfyddydau yn cael eu canslo prynhawn heddiw (dydd Llun, Chwefror 21).

Does dim cadarnhad ai’r problemau gyda dŵr sydd wedi gorfodi’r llyfrgell i atal y mwyafrif o’u gwasanaethau neu beidio.