Mae angen gwneud mwy i atal llifogydd yn y canolbarth, yn ôl un cynghorydd o Bowys.
Bu’n rhaid achub pobol yn Llandinam mewn cychod neithiwr (nos Sul, Chwefror 20), wedi i Afon Hafren orlifo a dinistrio pedwar o dai.
Gorlifodd yr afon dros yr A470 neithiwr yn sgil Storm Franklin, ac mae’r teuluoedd gafodd eu heffeithio bellach yn aros mewn gwestai neu gyda pherthnasau, meddai cynghorydd y pentref.
Mae’r A470 bellach ar agor yno, ond mae’r tywydd garw yn parhau i greu trafferthion dros Gymru.
Dyma’r llifogydd gwaethaf i’r Cynghorydd Karl Lewis, sy’n cynrychioli Llandinam ar Gyngor Sir Powys, eu gweld, ac mae e wedi dweud wrth golwg360 ei fod wedi rhybuddio Cyfoeth Naturiol Cymru fod angen glanhau gwely’r afon a gwneud gwelliannau sawl blwyddyn yn ôl.
“Dw i wedi byw yn Llandinam drwy fy oes, dw i’n 41 oed, a dw i erioed wedi gweld dŵr yn dod dros yr A470,” meddai’r aelod Ceidwadol ar y Cyngor Sir.
“Dw i wedi’i weld yn cyffwrdd yr A470, a dw i wedi rhybuddio Cyfoeth Naturiol Cymru sawl blwyddyn yn ôl bod angen iddyn nhw lanhau (dredge) yr afon a gwneud gwelliannau yno.
“Fe wnaethon nhw rai gwelliannau yn yr 80au, ond dim digon.”
Glanhau’r afon
Yn yr 1980au, doedd pobol Llandinam byth yn gweld yr afon mor uchel ag y mae hi nawr, meddai’r Cynghorydd Karl Lewis wedyn.
“Roedd ffermwyr, fel fy nhad, yn gofalu amdani. Roedd e’n arfer mynd â graean o’r afon a’i ddefnyddio ar dir amaethyddol a thraciau, roedd nifer o ffermwyr o’r ardaloedd cyfagos yn gwneud yr un fath a byddai hynny’n cadw dyfnder da yng ngwely’r afon,” meddai.
“Yn anffodus, mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru syniadau eraill ynghylch beth ddylen nhw fod yn ei wneud.
“Mae ganddyn nhw bolisi o beidio glanhau gwelyau afonydd, ac maen nhw’n defnyddio hynny fel opsiwn olaf.
“Yn fy marn i, dylai fod yn opsiwn cyntaf pan mae’r afon yn culhau a’r dŵr yn cael ei wthio tuag at dai.
“Dylid rhoi meini, rock armour maen nhw’n eu galw nhw, yn yr afon yn, ac o amgylch, Llandinam, a’r holl ffordd lawr i’r Drenewydd, a thu hwnt fyswn i’n ei ddweud.”
Llandinam A470 last night pic.twitter.com/gYr22FZ99G
— Karl Lewis (@CllrKarlLewis) February 21, 2022
‘Ar ei hôl hi’
Er bod gan Gyfoeth Naturiol Cymru “gynigion da” i wella’r sefyllfa, maen nhw’n cael eu tanariannu gan Lywodraeth Cymru, yn ôl y Cynghorydd Karl Lewis.
“Mae Llywodraeth Cymru’n cael digon o arian i ariannu’r hyn sydd angen ei wneud,” meddai.
Mae Llywodraeth Cymru ar ei hôl hi wrth fynd i’r afael â llifogydd, o gymharu â’r sefyllfa yn Lloegr, ychwanegodd.
“Dw i ddim yn gwybod os mai diffyg arweinyddiaeth sydd yno, ond yn sicr dyw e ddim yn gweithio i bobol canolbarth Cymru.”
‘Arf i amddiffyn Lloegr’
Mae’n bosib y bydd storm arall, Gladys, yn cyrraedd gyda gwyntoedd cryfion ddydd Iau (Chwefror 24), ac mae Karl Lewis yn pryderu am effeithiau posib hynny ar yr ardal.
Mae’n dweud y bydd effeithiau stormydd y dyfodol yn ddibynnol ar faint o ddŵr sy’n gallu cael ei rhyddhau o Lyn Clywedog er mwyn gwneud lle i ragor o ddŵr.
Cafodd Llyn Clywedog ei adeiladu yn yr 1960au er mwyn mynd i’r afael â lefelau dŵr Afon Hafren.
“Fe wnaeth fy nhaid, a nifer o fy hen ewythrod, weithio ar argae Clywedog,” meddai’r Cynghorydd Karl Lewis.
“Roedd e’n rywbeth i amddiffyn pobol canolbarth Cymru, ac yn anffodus, mae e wedi cael ei ddefnyddio fel arf i amddiffyn Lloegr.
“Mae popeth yn iawn efo hynny, ond ar yr un pryd rydyn ni’n dioddef yma o gymharu â phobol yn Lloegr a dw i ddim yn meddwl ei fod yn deg ar neb, boed nhw’n byw yn Lloegr neu Gymru.
“Cafodd yr argae ei adeiladu i bawb, ond dyw hynny ddim yn dangos nawr.”
“Gweithio rownd y cloc”
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod nhw’n gwerthfawrogi fod gweithrediad cronfeydd dŵr Clywedog ac Efyrnwy’n parhau i godi pryderon yn lleol.
“Mae tair storm wedi taro Cymru yr wythnos hon gan ddod â gwyntoedd cryf a glaw i effeithio ar lawer o gymunedau. Syrthiodd tua 144mm o law ar dir a oedd eisoes yn wlyb rhwng 16 a 21 Chwefror gan arwain at y lefelau uchaf erioed ar hyd llawer o rannau o’r afonydd Hafren ac Efyrnwy,” meddai Keith Ivens, Rheolwr Gweithrediadau Llifogydd a Rheolaeth Dŵr Cyfoeth Naturiol Cymru.
“Mae’r Clywedog yn un o lednentydd yr Afon Hafren ac rydym wedi gweld y lefelau uchaf erioed i fyny’r afon lle mae yn cwrdd â’r Hafren yn Llanidloes.
“Drwy gydol y cyfnod hwn rydym wedi bod yn cydweithio gyda Hafren Dyfdwy, sy’n berchen ar y gronfa ddŵr, a’r Asiantaeth yr Amgylchedd, sy’n rheoli’r gollyngiadau, a hoffem roi sicrwydd i bobl bod cronfa ddŵr Clywedog wedi parhau i gael ei rheoli o fewn y rheolau gweithredu er mwyn ceisio lleihau’r effaith.
“Mae effaith y llifogydd wedi bod yn ddinistriol i lawer o unigolion, tirfeddianwyr a chymunedau ac rydym yn cydymdeimlo â’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio.
“Mae staff Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gweithio rownd y cloc i sicrhau bod rhybuddion llifogydd wedi’u cyhoeddi, bod ein hamddiffynfeydd rhag llifogydd mor barod â phosib, ac i gydweithio gyda’n partneriaid.”
Er mwyn gweld y newyddion diweddaraf am rybuddion llifogydd, a chael gwybodaeth am yr hyn y mae’n bosib ei wneud cyn, yn ystod, ac ar ôl llifogydd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyfeirio pobol at eu gwefan.
Glanhau “ddim bob tro’n ateb”
O ran glanhau, neu garthu, afonydd, dydy hynny ddim bob tro’n ateb i leihau llifogydd, meddai Cyfoeth Naturiol Cymru.
“Mae carthu a chlirio sianeli dŵr yn rhan bwysig o’n gwaith cynnal a chadw perygl llifogydd a threulir rhan fawr o’n hamser yn cael gwared ar silt, llystyfiant a rhwystrau eraill o afonydd a nentydd,” meddai Keith Ivens.
“Mae’r gwaith hwn yn fwy effeithiol mewn rhai lleoliadau nag eraill, felly penderfynir a ddylid carthu fesul achos, gan nad dyma’r ateb gorau yn aml o’i gymharu â mesurau rheoli perygl llifogydd eraill.
“Mewn llawer o achosion ni fyddai’n datrys y broblem, a gall hyd yn oed wneud pethau’n waeth.
“Efallai fod dyfnhau afon yn ymddangos yn beth rhesymegol i’w wneud i leihau perygl llifogydd, ond mewn gwirionedd nid yw hyn yn golygu y gall ymdopi â swm cyfatebol o lifddwr.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb hefyd.