Bydd cynghorwyr sir Powys sy’n ffermio’n cael cymryd rhan mewn trafodaeth am blannu coed.

Er gwaethaf yr eithriad, fyddan nhw ddim yn cael pleidleisio ar y mater.

Ym mis Rhagfyr 2021, fe wnaeth y Cynghorydd Elwyn Vaughan, arweinydd grŵp Plaid Cymru, gyflwyno cynnig ar “goedwigaeth gyfrifol mewn ffordd gynaliadwy, heb ecsbloetiaeth”.

Doedd hi ddim yn bosib trafod y cynnig, gan fod cynifer o gynghorwyr ynghlwm ag amaethyddiaeth a byddai’n rhaid iddyn nhw adael y cyfarfod.

Cafodd cais Elwyn Vaughan am eithriad ei drafod gan Bwyllgor Safonau Cyngor Sir Powys ddydd Iau, Chwefror 17.

“Mae plannu coed yn fater mewn gwahanol rannau o Gymru, a sut mae grantiau cyhoeddus yn cael eu defnyddio i wneud hynny,” meddai.

“Rydyn ni wedi darganfod y byddai 75% o’r cyngor yn cael eu heffeithio ac angen gwneud datganiad buddiant, ac na fydden nhw’n cael cymryd rhan yn y broses fel y bydden nhw’n dymuno ei wneud,

“Mae hynny, yn eironig, yn debyg iawn i gau ceg democratiaeth ond mewn gwirionedd gallai nifer o’r profiadau a’r wybodaeth sydd ganddyn nhw fod yn ddefnyddiol i’r drafodaeth.”

‘Cefnogi’r eithriad’

“Dw i’n cefnogi’r eithriad cyffredinol i ganiatáu i aelodau siarad am faterion yn ymwneud ag amaeth,” meddai’r aelod annibynnol, y Cynghorydd Claire Moore.

“Mae e er lles y cyngor i glywed gan y rhai sydd â phrofiad yn ffermio neu gyda materion amaethyddol cyn gwneud penderfyniad, a hoffwn ei gefnogi.”

“Fel rhywun sydd heb unrhyw wybodaeth am amaethyddiaeth bydden nhw’n ei chael hi’n anodd pleidleisio ar rywbeth heb glywed gan bobol yn y diwydiant,” meddai’r Cynghorydd Amanda Jenner wedyn.

“Mae’n sector benodol, dyw e ddim fel gwasanaethau cyhoeddus lle y gallwn fynd a gwneud ein hymchwil ein hunain.”

Cafodd yr eithriad ei dderbyn yn unfrydol.

Dywedodd pennaeth gwasanaethau cyfreithiol a democrataidd y cyngor Clive Pinney y bydd yr eithriad yn ei le am weddill tymor y cyngor.

Ond dywedodd y bydd yna “fwlch” pan na fydd mewn grym oherwydd yr etholiadau lleol ym mis Mai.

“Fel yr holl eithriadau gan y Pwyllgor Safonau, bydd yn dod i ben ar ddiwedd y tymor a bydd rhaid ei adnewyddu yn ystod cyfarfod safonau cyntaf tymor nesaf y cyngor,” meddai.

Y cynnig gwreiddiol

Roedd cynnig gwreiddiol y Cynghorydd Elwyn Vaughan am i’r Cyngor ofyn i Lywodraeth Cymru:

  • Sicrhau ei bod hi ond yn bosib i ffermwyr sy’n weithredol yng Nghymru hawlio arian dan raglen Glastir – Creu Coetir Llywodraeth Cymru.
  • Cyflwyno deddfwriaeth datblygu cynllunio i ganiatáu i awdurdodau cynllunio lleol reoli prosiectau coedwigo, a gosod terfyn ar y gyfran o’r tir ar unrhyw ffarm sy’n gallu cael ei ddefnyddio heb fod angen caniatâd cynllunio.
  • Gweithredu eu cynlluniau coedwigo drwy ddatblygu cwmni cyhoeddus lled-braich i reoli coedwigaeth Cymru a helpu i gyrraedd targedau gostwng allyriadau carbon Llywodraeth Cymru.