Mae dwy ysgol arbennig yng Ngwynedd wedi sicrhau statws arloesol i gefnogi disgyblion sydd ag anghenion cyfathrebu.
Ysgolion Pendalar yng Nghaernarfon a Hafod Lon ym Mhenrhyndeudraeth yw’r cyntaf yng Nghymru i dderbyn statws ‘Lleoliad Cyfathrebu Cyfeillgar Elklan.’
Daeth hynny ar ôl dwy flynedd o baratoi a gwaith caled, sydd wedi gweld staff yn derbyn hyfforddiant er mwyn gallu cefnogi plant sydd ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn well.
Maen nhw nawr yn hollol gymwys i sicrhau bod y disgyblion hynny’n gallu mynd ati i wella eu sgiliau cyfathrebu eu hunain ar ôl bodloni gofynion y statws.
‘Canmoliaeth uchel’
Cafodd darpariaeth Elklan ei sefydlu yn 1999 gan ddau therapydd lleferydd ac iaith, Liz Elks a Henrietta McLachlan, ac maen nhw wedi bod yn hyfforddi staff addysg ers hynny.
Mae ysgolion Gwynedd yn defnyddio’u rhaglen a’u hadnoddau er mwyn cefnogi disgyblion sydd ag anghenion cyfathrebu ychwanegol, ond dyma’r tro cyntaf i’r achrediad arbennig ‘Lleoliad Cyfathrebu Cyfeillgar Elklan’ gael ei ddynodi i ysgolion yng Nghymru.
“Mae gan bob ysgol athrawon arbenigol a elwir yn Ymarferwyr Cyfathrebu Arweiniol sy’n adnodd parhaus i hyfforddi staff newydd a pharhau i feithrin gallu pob ysgol i gefnogi cyfathrebu,” meddai Liz Elks, sy’n Gyfarwyddwr yn Elklan.
“Mae gan Lowri Roberts, a fu’n diwtor ar y rhaglen, ganmoliaeth uchel i bawb a gymerodd ran ac rwy’n arbennig o falch gan mai dyma’r ysgolion cyntaf i ennill statws Ysgol Arbennig Gyfeillgar i Gyfathrebu Elklan yng Nghymru.”
‘Hynod falch o’u llwyddiant’
Fe wnaeth Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol Cyngor Gwynedd ddarparu cymorth i’r ysgol wrth iddyn nhw geisio cyflawni’r statws dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
“Rydym yn falch iawn fod Ysgol Pendalar ac Ysgol Hafod Lon wedi cyflawni’r gamp hon – ac yn wir mai nhw oedd ysgolion arbennig cyntaf yng Nghymru i wneud hynny,” meddai’r Cynghorydd Cemlyn Williams, Aelod Cabinet ar Gyngor Gwynedd sydd â chyfrifoldeb dros Addysg.
“Mae cyfathrebu o bob math yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pob unigolyn o fewn ysgolion yn cael eu clywed.
“Mae’r gwaith a gwblhawyd i gyflawni’r nod ansawdd yma yn dangos ymrwymiad clir gan y ddwy ysgol i roi’r amodau gorau ar waith ar gyfer ymgysylltu â’u holl ddysgwyr a staff.
“Rydym yn hynod falch o’u llwyddiant.”