Bydd ail frechlyn atgyfnerthu yn cael ei gynnig i’r rhai mwyaf agored i niwed yng Nghymru.

Yn unol ag argymhelliad y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), bydd oedolion 75 oed a hŷn, preswylwyr cartrefi gofal i bobol hŷn, ac unigolion imiwnoataliedig 12 oed a throsodd yn cael cynnig ail ddos atgyfnerthu.

Mae’r data sydd ar gael yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol yn awgrymu bod imiwnedd pobol hŷn yn fwy tebygol o ostwng o ganlyniad i leihad yng ngallu’r system imiwnedd i ymateb yn effeithiol, a’u bod nhw’n fwy tebygol o gael salwch mwy difrifol.

Gan fod pobol hŷn wedi cael eu blaenoriaethu ar ddechrau’r rhaglen frechu, nhw gafodd eu dos diwethaf hiraf yn ôl hefyd, meddai’r JCVI wrth ystyried y cyngor.

Mae Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wedi derbyn y cyngor ac wedi gofyn i fyrddau iechyd gynllunio ar gyfer brechu’r grwpiau hyn.

Yn y tymor hirach, mae’r JCVI wedi dweud eu bod nhw’n awgrymu cynnal rhaglen o frechiadau yn yr hydref ar gyfer pobol sydd mewn mwy o berygl o gael salwch difrifol os ydyn nhw’n dal Covid-19, fel pobol hŷn a’r rhai sydd yn cwympo i un o’r grwpiau risg clinigol.

Bydd yr union fanylion yn cael eu cyhoeddi’n nes at yr amser, meddai Eluned Morgan.

‘Pob brechiad yn helpu’

Y “cam gorau y gall pobol ei gymryd i ddiogelu eu hunain rhag Covid-19 yw cael y brechiad,” meddai Eluned Morgan.

“Mae’n dda gallu nodi bod 70% o’r rheini sy’n gymwys bellach wedi cael dos atgyfnerthu Covid-19 yng Nghymru,” meddai.

“Mae pob brechiad a roddir yn helpu i ddiogelu Cymru.

“Mae’r byrddau iechyd eisoes yn bwriadu cynnig brechiad i bob plentyn pump i 11 oed o ganol mis Mawrth ymlaen.

“Byddant yn awr hefyd yn ystyried yr angen i flaenoriaethu brechiad atgyfnerthu yn y gwanwyn i’r rhai mwyaf agored i niwed yn ystod y cyfnod hwn.

“Wrth i’r pandemig Covid-19 symud ymhellach tuag at fod yn endemig yn y Deyrnas Unedig, bydd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn parhau i adolygu’r rhaglen frechu ac rwy’n ddiolchgar iddynt am eu cyngor arbenigol.”

Dydy hi ddim yn rhy hwyr i unrhyw un sydd angen dos cyntaf, ail ddos, neu ddos atgyfnerthu gael eu brechu, yn ôl Eluned Morgan.

“Mae byrddau iechyd wrthi’n cysylltu ag unrhyw unigolion nad ydynt wedi gallu manteisio ar eu cynnig o frechiad atgyfnerthu,” meddai.

“Fel arfer, rwy’n hynod ddiolchgar i’r Gwasanaeth Iechyd ac i bawb sy’n ymwneud â’r rhaglen frechu am eu gwaith caled parhaus.”