Mae cogydd o Aberystwyth yn dweud ei bod hi’n “foment falch” iddo ar ôl derbyn ei seren Michelin gyntaf erioed yn ddiweddar.
Cafodd saith bwyty yng Nghymru eu henwi yn y canllaw ar gyfer 2022, gydag un bwyty yn cyflawni’r gamp arbennig o gasglu dwy seren am y tro cyntaf.
Roedd Ynyshir eisoes wedi cael ei enwi’n Fwyty Gorau Cymru yn y Gwobrau Bwytai Cenedlaethol y llynedd, ac mae’r ddwy seren Michelin yn cryfhau eu statws nhw.
Mae’r bwyty ar lannau afon Dyfi yn cael ei redeg gan y cogydd Gareth Ward, ac mae pob ymwelydd yn cael cynnig 30 o gyrsiau gwahanol.
I ychwanegu at eu camp, mae dau o’r cogyddion eraill a dderbyniodd seren, Hywel Griffith a Nathan Davies, wedi gweithio fel is-gogyddion yn y bwyty ger Machynlleth yn gynharach yn eu gyrfaoedd.
‘Moment falch i ni gyd’
Fe wnaeth Hywel Griffith, sy’n brif gogydd ym mwyty’r Beach House ym Mae Oxwich ar Benrhyn Gŵyr, ddal ei afael ar ei unig seren Michelin eto eleni.
Yn wreiddiol o Fethesda, mae o’n adnabyddus am ymddangos ar y gyfres Y Sioe Fwyd ar S4C.
Roedd Nathan Davies, sy’n brif gogydd ym mwyty SY23 yn Aberystwyth, yn derbyn ei seren Michelin gyntaf.
Yn ddiweddar, mae o hefyd wedi dod yn fuddugol yn rhagbrofion Cymru ar raglen The Great British Menu.
“Dw i eisiau diolch i bawb sydd wedi gwneud hyn yn bosibl – o’r cyflenwyr sy’n sicrhau ein bod ni’n gallu agor y drysau, i’n holl westeion dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf,” meddai.
“Mae hon yn foment falch i ni gyd, a dw i’n methu aros i weld beth ddaw yn ystod y blynyddoedd nesaf.”
Ysbrydoliaeth
Y seren honno oedd y gyntaf i gael ei dynodi i fwyty yn nhref Aberystwyth mewn can mlynedd hefyd.
“Rydyn ni mor ffodus i gael byw yma yn Aberystwyth yng nghanol cefn gwlad mor brydferth ac amrywiol,” meddai wedyn.
“Daw ein hysbrydoliaeth ni o hynny – rydyn ni’n chwilota am gynnyrch o’r coed, y cloddiau, y mynyddoedd a glan y môr. Beth bynnag dydyn ni ddim yn ei ddefnyddio’n ffres, rydyn ni’n ei gadw mewn amrywiaeth o ffyrdd, megis piclo.
“Rydyn ni bob amser yn chwilio am gyfuniadau o weadau a blasau i gyd-fynd â’n pysgod, cig a helgig lleol anhygoel ac rydyn ni’n falch o ddweud bod llawer iawn o’n cynnyrch yn dod o’r ardal leol.”
Enw cyfarwydd arall ar y rhestr oedd bwyty’r cogydd James Sommerin, Home.
Mae Sommerin eisoes wedi derbyn seren Michelin pan oedd yn rhedeg ei fwyty blaenorol ym Mhenarth, ond ar ôl i’r lleoliad hwnnw gau, fe wnaeth o agor y bwyty newydd yn y dref chwe mis yn ôl, gan adennill ei statws Michelin bron yn syth.
Dyma restr lawn o’r bwytai a oedd yn ymddangos yn y canllaw eleni:
- Beach House – Bae Oxwich, Abertawe
- Home – Penarth, Bro Morgannwg
- Sosban & The Old Butchers – Porthaethwy, Ynys Môn
- SY23 – Aberystwyth, Ceredigion
- Walnut Tree – Llanddewi Ysgyryd, Sir Fynwy
- The Whitebrook – Gwenffrwd, Sir Fynwy
- Ynyshir – Machynlleth, Powys