Mae pecyn cymorth ar gyfer mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle wedi cael ei lansio heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 22).

Gyda’r nod o gael gwared ar aflonyddu rhywiol mewn gweithleoedd, mae Chwarae Teg wedi cyhoeddi canllawiau a chyngor i gyflogwyr Cymru fel rhan o bartneriaeth gydag elusennau cydraddoldeb yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys astudiaethau achos, sesiynau hyfforddi i gyflogwyr eu cyflwyno’n fewnol, polisïau templed, deunydd ymgyrchu, a thempled arolwg ac adroddiad ar hinsawdd a diwylliant y gweithle.

‘Cwbl annerbyniol’

Nid ymddygiad annerbyniol ychydig o unigolion yn unig yw aflonyddu rhywiol yn y gweithlu, yn ôl yr elusen Chwarae Teg.

Mae 40% o fenywod wedi profi aflonyddu yn y gweithlu, ac mae’r elusen yn dweud ei fod yn ymwneud â diwylliannau lle mae “ymddygiad bob dydd sy’n mynd yn groes i urddas menywod, yn bennaf” yn cael ei drin fel tynnu coes.

Yn aml, menywod sy’n cael eu rhoi ar yr ymylon am resymau eraill – megis hil, anabledd neu rywioldeb – sy’n wynebu’r risg fwyaf, yn ôl Chwarae Teg.

“Mae aflonyddu rhywiol yn y gweithle yn gwbl annerbyniol ond yn anffodus nid yw’n anghyffredin,” meddai Emma Tamplin, Rheolwr Cydweithredu Chwarae Teg.

“Gall ei effaith fod yn ddinistriol – yn emosiynol, yn gorfforol ac yn broffesiynol.”

Bydd gweminar arbennig yn cael ei chynnal wythnos nesaf, gydag arweinwyr Chwarae Teg yn arwain cyflogwyr drwy’r pecyn a sut mae modd ei ddefnyddio’n effeithiol.

“Yn syml, mae’n rhaid iddo ddod i ben, a dyna pam mae’r pecyn cymorth hwn yn hanfodol a bydd y gweminar yn darparu cyngor a chymorth ymarferol, gan helpu cyflogwyr i’w fabwysiadu a’i wreiddio yn eu sefydliadau eu hunain.”

‘Gwahaniaeth cadarnhaol’

Siaradwr gwadd y weminar fydd Sarah-Jayne Bray, a fydd yn rhannu profiadau Heddlu’r De o redeg ymgyrch gwrth-aflonyddu rhywiol a sut mae’r rhaglen wedi datblygu i fod yn un genedlaethol i fynd i’r afael â chamymddwyn rhywiol mewn plismona.

“Ar ôl datblygu’r ymgyrch Atal Aflonyddu Rhywiol yn y gwaith rwy’n gwybod yn uniongyrchol pa mor fuddiol y gall fod i bawb dan sylw,” meddai Sarah-Jayne Bray, Rheolwr Ymgysylltu Mewnol Heddlu’r De.

“Mae pawb yn haeddu cael eu trin ag urddas a pharch yn y gweithle.

“Ar y cyd â Chwarae Teg rydym yn annog sefydliadau a busnesau eraill ledled Cymru i achub ar y cyfle, a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau gwaith cymaint.”

Mae’n bosib cofrestru ar gyfer gweminar rhad am ddim HIVE: ‘Mynd i’r Afael ag Aflonyddu Rhywiol yn y Gweithle’, a fydd yn cael ei gynnal ar-lein fore ddydd Llun, Chwefror 28.