Mae Cyngor Casnewydd wedi amlinellu eu cynlluniau ar gyfer cynyddu proffil y Gymraeg yn y ddinas.

Roedden nhw eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau er mwyn gwneud y Gymraeg yn “iaith i bawb” o fewn degawd.

Cafodd y strategaeth pum mlynedd ei chefnogi gan aelodau’r cabinet yn ystod cyfarfod dydd Gwener diwethaf (Chwefror 18).

Ar hyn o bryd, dim ond o gwmpas 22.6% o boblogaeth Casnewydd sy’n siarad Cymraeg o’i gymharu â’r gyfradd genedlaethol o 29.5%.

Mewn ymgynghoriad a gafodd ei gynnal rhwng mis Medi a Thachwedd y llynedd, fe wnaeth 55% o’r cyfranogwyr ddweud nad oes ganddyn nhw ddim diddordeb dysgu’r iaith.

Yn y cyfamser, mae disgwyl i bob awdurdod lleol yng Nghymru hyrwyddo’r iaith fel rhan o’r ymgais i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

‘Fe hoffwn allu dysgu’r iaith yn well’

Yn ystod cyfarfod y cabinet, dywedodd y Cynghorydd David Mayer, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau ac Adnoddau, ei fod yn dymuno gallu siarad yr iaith yn well.

“Rwy’n gwybod yr anthem genedlaethol ac rwy’n falch o fod yn Gymro, ond fe hoffwn allu dysgu’r iaith yn well,” meddai.

“Fe wnes i drio yn ystod y cyfnod clo ond es i ddim yn bell iawn.”

Un sy’n gallu siarad Cymraeg, ac a fanteisiodd ar hynny yn ystod y cyfarfod, yw’r Cynghorydd Jason Hughes.

Dywedodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Datblygu Cynaliadwy fod y strategaeth newydd, gan fwyaf, yn ymwneud ag addysg.

Hybu addysg Gymraeg

Erbyn Medi 2032, mae’r Cyngor yn anelu i gael 11.1% o ddisgyblion ym mlwyddyn gyntaf yr ysgol gynradd yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dim ond 5.1% o holl ddisgyblion y sir sy’n gwneud hynny ar hyn o bryd, ac mae lleoedd dros ben mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Er mwyn cynyddu’r diddordeb mewn addysg Gymraeg, mae’r Cyngor wedi penodi swyddog penodol.

Rhaglenni Cymraeg yn Rodney Parade

Agwedd arall ar y strategaeth yw cynyddu gwelededd y Gymraeg mewn lleoliadau y tu hwnt i’r gwaith ac ysgolion.

Fel rhan o hynny, mae’r Cyngor wedi cydweithio gyda rhanbarth rygbi’r Dreigiau er mwyn cyflwyno rhaglenni dwyieithog ar gyfer gemau.

Bydd Strategaeth y Gymraeg ar gyfer 2022-27 yn cael ei chyflwyno i’r Cyngor yn llawn mewn cyfarfod ar Fawrth 1.

Cyngor Casnewydd eisiau i’r Gymraeg fod yn iaith pawb o fewn degawd

Rhiannon James, Gohebydd Democratiaeth Leol

Addysg, gweladwyedd a chyflogaeth fydd wrth wraidd eu strategaeth i dyfu’r iaith

Cyngor Casnewydd eisiau agor pedwaredd ysgol gynradd Gymraeg

Mae disgwyl i’r ysgol newydd agor ym mis Medi 2020