Mae Cyngor Casnewydd yn dweud eu bod nhw eisiau i’r Gymraeg fod yn iaith pawb o fewn degawd.
Daw hyn wrth i’r Cyngor gyhoeddi cynllun drafft i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghasnewydd drwy addysg, gweladwyedd a chyflogaeth.
Dechreuodd y Cyngor ymgynghori ar eu Cynllun Strategol ar gyfer y Gymraeg mewn Addysg ddoe (dydd Llun, Medi 27), sy’n galluogi trigolion lleol i leisio barn.
“Rydyn ni eisiau i drigolion fod yn rhan o’r broses hon gan y bydd hon yn strategaeth hirdymor i ddod â’r Gymraeg i mewn i fywydau pawb,” meddai’r Cynghorydd Jason Hughes, sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg ar Gyngor Casnewydd.
“Mae’r Gymraeg yn fyw, yn hyfyw ac yn hanfodol ac rydyn ni eisiau i’r holl drigolion, waeth bynnag pa oed ydyn nhw, i gael y cyfle i ddysgu a siarad eu mamiaith.
“Ein neges ni yw i weld, clywed, dysgu, defnyddio a charu’r iaith.
“Gadewch i ni wybod os ydych chi’n credu y bydd ein cynllun drafft yn ein helpu ni i wireddu’r uchelgais hwnnw.”
Sefyllfa’r iaith yng Nghasnewydd
Mae oddeutu 20.5% o bobol yng Nghasnewydd yn rhugl yn y Gymraeg, ac mae’r awdurdod lleol yn bymthegfed allan o 22 o ran nifer ei siaradwyr, islaw Abertawe.
Yn ôl Jane Mudd, arweinydd Cyngor Casnewydd, eu nod yw cynyddu nifer y llefydd sydd ar gael mewn ysgolion Cymraeg dros y degawd nesaf.
Agorodd Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli fis yma, sy’n golygu bod gan Gasnewydd bedair ysgol gynradd Gymraeg erbyn hyn.
Agorodd Ysgol Gyfun Gwent Is Coed, ail ysgol uwchradd Casnewydd, yn 2017.
“Rydym yn cydnabod fod yna ragor o hyd y gallem ei wneud i helpu i gyrraedd y nod yn genedlaethol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a chynyddu canran y rheiny sy’n defnyddio’r iaith bob dydd,” meddai’r Cynghorydd Jane Mudd.
“Rydyn ni eisiau i’n hiaith genedlaethol fod yn rhan o wead y ddinas, wedi’i gweu i bob agwedd ar fywydau pobol.
“Y cynllun drafft yw’r cam nesaf er mwyn gwireddu’r uchelgais hwnnw ac rydyn ni eisiau gwybod beth rydych chi’n ei feddwl ohono.”
Cymraeg 2050
Yn 2017, fe wnaeth Llywodraeth Cymru greu strategaeth Cymraeg 2050, gyda’r bwriad o gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Yn ôl Deborah Davies, yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb am Addysg, fod pobol ifanc yn allweddol i ddyfodol y Gymraeg.
“Mae’n rhodd fydd ganddyn nhw am weddil eu hoes,” meddai.
“Nid rhywbeth i’w chadw a’i thrysori fel rhan arwyddocaol o’n treftadaeth yn unig yw’r Gymraeg, ond yn rhywbeth y dylid ei meithrin fel y gall barhau i ffynnu a chyfoethogi bywydau yn yr unfed ganrif ar hugain.”
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar agor tan 22 Tachwedd.