Mae Boris Johnson, prif weinidog y Deyrnas Unedig, yn dweud bod Vladimir Putin, Arlywydd Rwsia, “yn benderfynol” o orchfygu’r Wcráin.
Daw ei rybudd ar ôl i Rwsia gyhoeddi annibyniaeth i ddau ranbarth yn y Donbas, sef Donetsk a Luhansk.
Mae’n rhybuddio bod Rwsia’n wynebu’r “don gyntaf” o sancsiynau yn sgil y weithred, ar ôl iddo “rwygo cyfraith ryngwladol yn ddarnau”, a bod Putin yn benderfynol o gipio’r brifddinas Kyiv.
Yn ôl Putin, y nod wrth orchymyn milwyr i fynd i mewn i Donetsk a Luhansk oedd cwblhau dyletswyddau “heddwch”.
Ar ôl cadeirio pwyllgor diogelwch Cobra, dywedodd Boris Johnson y byddai’n datgelu rhagor o sancsiynau maes o law.
“Dylwn i bwysleisio mai’r don gyntaf yn unig o sancsiynau’r Deyrnas Unedig yn erbyn Rwsia yw’r rhain, oherwydd rwy’n ofni ein bod ni’n disgwyl rhagor o ymddygiad afresymol eto gan Rwsia,” meddai wrth ddarlledwyr.
“Rwy’n ofni mai’r dystiolaeth i gyd yw fod yr Arlywydd Putin, yn wir, yn benderfynol o orchfygu’r Wcráin yn llwyr, a goresgyn a gorchfygu gwlad Ewropeaidd sofran annibynnol a, gadewch i ni fod yn gwbl glir, dw i’n credu y bydd hynny’n gatastroffig.”
Cefnogi’r Wcráin
Mae’r Kremlin yn mynnu y bydd Rwsia’n cynnal yr heddwch yn nwyrain yr Wcráin.
Mae disgwyl i Boris Johnson gynnal trafodaethau gydag arweinwyr gwledydd eraill, a rhoi diweddariad i aelodau seneddol wedyn am oddeutu 12.30yp heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 22).
Dywedodd wrth yr Arlywydd Volodymyr Zelensky ei fod yn barod i “archwilio’r posibilrwydd o anfon rhagor o gymorth amddiffyn i’r Wcráin, yn ôl Downing Street.
Dywedodd yr Arlywydd Zelensky ar ôl i Rwsia gydnabod Donetsk a Luhansk fel rhanbarthau annibynnol nad yw ei genedl “yn ofni neb”.
Mae disgwyl i’r Undeb Ewropeaidd a’r Unol Daleithiau gyflwyno’u sancsiynau eu hunain yn sgil y sefyllfa.