Mae Llys y Goron Caerdydd wedi clywed bod y bachgen bach pump oed, Logan Mwangi, wedi cael ei ladd gan ei fam, ei phartner hi a llanc 14 oed wrth iddo hunanynysu yn sgil Covid-19.

Cafwyd hyd i’r bachgen pump oed yn afon Ogwr ger ei gartref ym mhentref Sarn ger Pen-y-bont ar Ogwr ar Orffennaf 31 y llynedd, a bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Roedd e’n gwisgo pyjamas ac wedi cael 56 o anafiadau “catastroffig” i bob rhan o’i gorff, a hynny o ganlyniad i “ergyd” oedd yn debyg i’r hyn y byddai wedi’i chael pe bai e wedi’i daro gan gerbyd ar gyflymdra uchel neu wedi cwympo o gryn uchder.

Mae Angharad Williamson (30), John Cole (40) a’r llanc 14 oed nad oes modd ei enwi, wedi’u cyhuddo o lofruddio rhwng Gorffennaf 28 ac Awst 1, ac o wyrdroi cwrs cyfiawnder ar ôl symud ei gorff i’r afon, tynnu ei ddillad, golchi dillad gwely ac adrodd ar gam wrth yr heddlu fod y bachgen bach ar goll.

Plediodd Williamson a’r llanc yn ddieuog i’r ddau gyhuddiad, tra bod Cole yn gwadu llofruddio ond yn cyfaddef iddo wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae Williamson a Cole hefyd wedi’u cyhuddo o alluogi neu achosi marwolaeth plentyn, ac maen nhw’n gwadu’r cyhuddiad hwnnw.

Dadleuon erlynwyr

Yn ôl erlynwyr, dioddefodd Logan Mwangi ymsododiad “ciaidd” gan John Cole oedd wedi para cryn gyfnod, ac yna gan y llanc oedd yn 13 oed ar y pryd, yn eu cartref.

Dywed erlynwyr fod gan y tri ran yn ei farwolaeth.

Clywodd y llys nad oedd Williamson wedi gwneud unrhyw beth i atal nac adrodd am yr ymosodiad ar ei mab, ac nad oedd hi wedi sôn wrth weithiwr cymdeithasol oedd wedi ymweld â’r cartref ar ddiwrnod yr ymosodiad fod rhywbeth wedi digwydd.

Roedd y llanc wedi bygwth lladd y bachgen bach droeon, ac fe gafodd ei ddisgrifio fel bachgen “cymhleth, treisgar” oedd “wedi’i drwblu” ac wedi’i hyfforddi mewn campau ymladd i safon uchel.

Gwelodd y rheithgor luniau camerâu cylch-cyfyng yn dangos Cole a’r llanc yn gadael eu cartref yn oriau man y bore ar Orffennaf 31.

Roedd Cole yn cario rhywbeth yn ei freichiau, ac fe gyfaddefodd yn ddiweddarach iddo symud corff Logan.

Cerddodd y ddau i’r fan lle daeth yr heddlu o hyd iddo’n ddiweddarach, a dychwelyd i’r tŷ cyn mynd allan eto i waredu ei ddillad oedd wedi cael eu rhwygo.

Yn ystod y cyfnod hwn, roedd golau’n cael ei ddiffodd yn eu cartref, ac mae erlynwyr yn dweud bod hynny, ynghyd â thystiolaeth o’i ffôn symudol, yn profi bod Angharad Williamson ar ddihun ac yn ymwybodol o’r hyn oedd wedi digwydd i’w mab.

Clywodd y llys bod Angharad Williamson wedi’i chael hi’n anodd edrych ar ôl ei mab wrth iddo fe hunanynysu, a bod hynny wedi effeithio ar ei pherthynas gyda fe mewn cyfnod byr.

Adroddodd Williamson wrth yr heddlu am ddiflaniad ei mab am 5.45yb ar Orffennaf 31, gan gyhuddo dynes o’i gipio gan ei bod hi’n dal dig yn ei herbyn, yn ôl erlynwyr.

Cafodd Cole a’r llanc eu gweld ar gamerâu eto wedyn, y tro hwn wrth iddyn nhw “chwilio” am Logan, ac mae Williamson wedi’i chyhuddo o ymgais “oeraidd” i gelu’r gwirionedd ac roedd hi’n emosiynol yn y llys wrth glywed y dystiolaeth yn ei herbyn ac yn ei dagrau wrth adael y llys.

Roedd Cole hefyd yn y llys, tra bod y llanc gerbron y llys drwy gyswllt fideo o ystafell arall yn yr adeilad.

Mae Cole a Williamson wedi’u cadw yn y ddalfa ers iddyn nhw gael eu cyhuddo, tra bod y llanc yng ngofal y Cyngor lleol.

Mae disgwyl i’r achos bara wyth wythnos.