Mae Mick Antoniw ac Adam Price ymhlith cynrychiolwyr gwleidyddol sydd wedi teithio i’r Wcráin mewn undod â gweithwyr, pobol o’r gymuned LHDT+, lleiafrifoedd ethnig ac ymgyrchwyr tros hawliau dynol.

Ar y cyd ag undebau llafur, academyddion a newyddiadurwyr, eu nod yw gwneud yr hyn nad yw’r un gwleidydd sydd wedi ymweld â’r wlad wedi llwyddo i’w wneud hyd yn hyn, sef mynegi undod uniongyrchol a thrawsffiniol ar ran dosbarth gweithiol y Deyrnas Unedig.

Ar drothwy rhyfel yn y wlad, mae ymgyrch ar droed gan y Kremlin yn Rwsia i ledu camwybodaeth, gan dargedu mudiadau sydd wedi gwrthwynebu gweithgarwch milwrol.

Er mwyn canfod beth sy’n wir a beth sydd ddim yn wir, bydd y criw sydd wedi teithio i’r wlad yn clywed gan weithwyr o’r Donbas yn nwyrain yr Wcráin, undebau llafur annibynnol a grwpiau cymdeithas sifil yn Kyiv, yn ogystal ag aelodau seneddol, academyddion ac unedau amddiffyn tiriogaethol sy’n hyfforddi i wrthsefyll bygythiadau.

Hefyd yn rhan o’r criw mae Mick Whelan, Ysgrifennydd Cyffredinol ASLEF; Chris Kitchen, Ysgrifennydd Cyffredinol NUM; y cyn-Aelod Seneddol Ewropeaidd Julie Ward; y newyddiadurwr Paul Mason; a’r economegydd Yuliya Yurchenko o Brifysgol Greenwich.

Maen nhw i gyd yno fel unigolion, gan adeiladu ar y cysylltiadau rhwng Cymru a’r Wcráin, gan gynnwys sefydlu Donetsk gan Gymry.

‘Dangos undod’

“Mewn gormod o’r trafodaethau am y sefyllfa yn yr Wcráin, y bobol eu hunain sydd yn cael eu hosgoi,” meddai Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru y mae ei deulu’n hanu o’r Wcráin ac yn dal i fyw yno.

“Rydyn ni eisiau gwrando ar yr hyn mae pobol yr Wcráin yn ei ddweud, a dangos ein hundod gyda nhw.

“Rydyn ni’n sefyll gyda nhw a’u hawl i benderfynu eu dyfodol eu hunain ac i amddiffyn eu gwlad rhag bygythiadau ac imperialaeth Rwsia.”

Mae Adam Price hefyd wedi tynnu sylw at ddifrifoldeb y sefyllfa.

“Po fwyaf y caiff pobol yr Wcráin eu bygwth gan rym ac imperialaeth Rwsia, mwyaf o frys sydd i sosialwyr, democratiaid a rhyngwladolwyr i sefyll ysgwydd yn ysgwydd mewn undod â nhw – i amddiffyn eu hawl i hunanlywodraethu ac i wrthwynebu rhyfelgarwch Putin.

“Wnawn nhw ddim pasio! вони не пройдуть!”

A oes heddwch?

Dylan Iorwerth

“Nid dyn diniwed yn cael cam ydi Vladimir Putin ac nid gwladwriaeth addfwyn, gymdogol ydi Rwsia’