Mae cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod y dorf o 1,200 oedd yn bresennol yn y rali Nid Yw Cymru Ar Werth yn Aberystwyth heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 19) “yn dangos pa mor benderfynol yw pobol i sefyll a brwydro dros ein cymunedau”.

Wrth annerch y dorf yn y rali, rhoddodd Mabli Siriol Jones ddiolch i bawb ddaeth i Aberystwyth, er gwaetha’r rhwystrau a gafodd eu hachosi gan dywydd gwael ddoe.

“Yn dilyn pwysau gan bobl o bob rhan o Gymru, lansiodd y Llywodraeth ddau ymgynghoriad, un ar greu dosbarth defnydd newydd a’r llall ar Gynllun Tai Cymunedau Cymraeg y Llywodraeth,” meddai.

“Mae’n hollbwysig bod pobol yn ymateb i’r ymgynghoriadau, ac mae templedi gyda ni ar wefan y Gymdeithas gall pobol eu defnyddio.

“Felly mae pwysau’n gweithio, a bwriad heddiw yw i ddal i bwyso. Mae angen Deddf Eiddo gyflawn fydd yn cymryd y system tai a chynllunio mas o ddwylo’r farchnad rydd a’i roi o dan reolaeth ddemocrataidd ein cymunedau.

“Rydyn ni’n ymgynnull heddiw 60 mlynedd ers darlledu darlith Tynged yr Iaith, a ysbrydolodd sefydlu Cymdeithas yr Iaith yn hwyrach y flwyddyn honno. Rydyn ni’n gwybod popeth rydyn ni wedi ennill ers hynny, diolch i waith pobl gyffredin, ac rydyn ni’n hyderus y gwnawn ni ennill y frwydr hon hefyd.”

Hefyd yn siarad roedd Bryn Fon, Heledd Gwyndaf, cyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith a Mared Edwards, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA).

Daeth y rali ddyddiau’n unig cyn cau dau ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar Chwefror 22 ar reoleiddio a threthi llety gwyliau ac ail dai, a chyllun tai cymunedau Cymraeg.

Mae’r Cytundeb Cydweithio rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru hefyd yn cynnwys ymrwymiadau i osod cap ar nifer yr ail dai a llety gwyliau mewn cymunedau, cyflwyno treth ar dwristiaeth ac ystyried rheoli rhent.

Galw am Ddeddf Eiddo

Mae’r Gymdeithas yn cydnabod bod y cynlluniau’n mynd i’r afael â rhai o’u pryderon, ond mae’r mudiad yn pwysleisio’r angen am Ddeddf Eiddo fyddai’n sicrhau cartref i bawb a chryfhau cymunedau a’r Gymraeg ymhob rhan o’r wlad.

Ymysg galwadau’r Gymdeithas am Ddeddf Eiddo mae:

  • Sicrhau bod tai gweigion a thai presennol yn cael eu defnyddio cyn bod unrhyw ddatblygu o’r newydd
  • Rhoi blaenoriaeth i bobl leol wrth brynu neu rentu tai
  • Newid y diffiniad o dai fforddiadwy a rheoli prisiau rhent fel eu bod yn fforddiadwy i
  • bobl ar gyflogau lleol
  • Cyfarwyddiadau mwy cadarn ac eglur ar gynnal asesiadau effaith iaith
  • Datganoli grymoedd cynllunio, gan gynnwys gosod targedau tai, i’r lefel fwyaf lleol sy’n briodol, a gwneud cynllunio ieithyddol yn orfodol er mwyn sicrhau bod datblygiadau yn cael effaith gadarnhaol yn hytrach na negyddol
  • Rhoi cymorth penodol i bobl ifanc aros yn eu cymunedau.

‘Mae’r tai yn ddrutach byth’

Mae problemau tai mewn cymunedau ar draws y wlad.

Un a oedd yn siarad yn y rali oedd Gwenno Teifi o Landysul, sy’n chwilio cartref yn yr ardal honno.

“Rydw i a ngŵr yn chwilio tŷ yn Llandysul, yr ardal lle ces i fy magu,” meddai.

“Er i ni arbed arian am sawl blwyddyn dydy e ddim yn ddigon i ni fforddio prynu yn y dre.

“Gallen ni gyfaddawdu a symud i ardal gerllaw, ond mae’r ysgolion i gyd wedi’u cau, does dim siopau yno, ac mae’r tai yn ddrutach byth.”