Mae cyn-arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Ceredigion yn dweud ei fod e wedi cael “stint gweddol”, wrth datgan ei fod yn camu o’i rôl cyn yr etholiadau lleol ym mis Mai – a hynny ar ôl dros dri degawd.

Mae’r Cynghorydd Alun Lloyd Jones wedi bod yn cynrychioli cymuned Llanfarian ar Gyngor Ceredigion ers bron i 31 o flynyddoedd.

Yn ystod ei yrfa wleidyddol, mae wedi ymgeisio mewn dwsin o etholiadau, gan gynnwys etholiadau Senedd Cymru ar ben rhai’r Cyngor.

Dywed ei fod wedi cipio sedd Llanfarian “yn groes i’r disgwyl,” gan fod y gymuned honno wedi cael ei chynrychioli gan y Rhyddfrydwyr yn draddodiadol cyn 1991.

Pan ddechreuodd ar y Cyngor, meddai, dim ond tri o aelodau oedd gan Blaid Cymru, ond mae ganddyn nhw bellach fwyafrif yn y siambr.

Mae’n debyg y bydd nifer o “hen wynebau” Cyngor Ceredigion yn camu o’r neilltu cyn yr etholiad eleni.

‘Amser i fi roi’r teulu yn gyntaf’

Teimla Alun Lloyd Jones bod yr amser yn iawn i sefyll i lawr o’r Cyngor Sir.

“Mae henaint yn dod i bob un ohonon ni,” meddai wrth golwg360.

“Dw i wedi bod yna ers digon o amser i ddweud fy mod i wedi rhoi stint gweddol.

“Roedd hi’n rhwystredig iawn ambell waith! Dw i wedi colli ambell i frwydr ac ennill ambell i frwydr.

“Mae’r hen wynebau i gyd wedi mynd, a dw i’n credu mai fi yw’r unig un ar ôl sydd wedi mynd 31 mlynedd heb golli etholiad.

“Ond mae’n amser i fi roi’r teulu yn gyntaf dw i’n credu.”

‘Fe aeth hi lawr i’r lein ac fe gollon ni o un bleidlais’

Wrth edrych yn ôl dros y cyfnod, dywed Alun Lloyd Jones mai un o’r penderfyniadau sy’n sefyll allan fwyaf yw’r methiant i gadw cartref henoed Bodlondeb ym Mhenparcau ar agor.

“Fi oedd Cadeirydd y pwyllgor craffu ar y pryd, ac fe aeth hi lawr i’r lein ac fe gollon ni o un bleidlais,” meddai.

“Petaem ni wedi cael un bleidlais arall, byddai hi wedi bod yn gyfartal, ond gan mai fi oedd yn y gadair, bydden i wedi cael y bleidlais ychwanegol mae’r cadeirydd yn ei chael.

Cyfnod o newid mawr

“Wrth gwrs, mae cymaint o bethau wedi newid,” meddai, wrth edrych yn ôl dros y cyfnod i gyd.

“Yr hen system oedd y system bwyllgor, ond aethon nhw wedyn i fod yn system gabinet.

“Cadeirydd y Cyngor yn yr hen ddyddiau oedd â’r pŵer, ond erbyn nawr, arweinydd y Cyngor, sef y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, sydd â’r pŵer.”

Dydy e ddim o reidrwydd yn credu ei bod hi’n fwy anodd bod yn gynghorydd erbyn heddiw, ond ei bod hi’n fwy rhwystredig erbyn hyn oherwydd diffyg arian.

“Y trwbl mwyaf sydd efo ni wrth gwrs yw bod byth digon o arian gyda ni,” meddai.

“Mae’r gyllideb yn brin, a dydyn ni ddim yn cael digon ar gyfer ein hanghenion oddi wrth Lundain na Chaerdydd.

“Mae hynny yn rhwystredig dros ben. Rydyn ni’n gwybod beth y’n ni moyn a beth sydd ei angen arnon ni.”

Datganoli plismona

Dros y pedair blynedd diwethaf, mae e hefyd wedi bod yn cadeirio panel Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, sydd wedi bod yn “ddwys o ran gwaith”.

Wrth gwrs, roedd gwaith dwy o’r blynyddoedd hynny yn gorfod digwydd yn rhithiol, gyda chyfarfodydd cyson dros Zoom.

Wrth ystyried penderfyniadau sy’n ymwneud â’r heddlu a throseddu, mae’n credu y dylen nhw gael eu datganoli i Fae Caerdydd.

“Rydyn ni’n cael llai o arian gan Lundain,” meddai.

“Mae’n rhaid i ni droi at Lundain gyda chap yn ein dwylo i gael arian.

“Mewn ardal wledig fel hyn, mae anghenion ein hunain gennym ni, a dydyn nhw ddim yn deall hynny. Maen nhw’n hollol allan o gysylltiad.

“Mae’n nonsens gwirion bod y penderfyniadau heb ddod lawr i Gaerdydd. Mae’n rhaid i ni, yn y dyfodol agos, gael pwerau datganoledig i’r heddlu yng Nghymru.”

Ton newydd

Mae Alun Lloyd Jones wedi datgelu wrth golwg360 y bydd llawer o’r “hen wynebau” yn camu o’r neilltu cyn yr etholiad nesaf.

O ran yr ymgeiswyr fydd yn cymryd eu lle, mae’n rhagweld y bydd “llechen lân” o gynghorwyr ifanc yn cael eu hethol.

“Mae’n rhaid bod yr egni efo nhw,” meddai, wrth ystyried pa gyngor y byddai’n ei roi i’r rheiny sy’n ymgeisio am y tro cyntaf.

“Dylai bod rhyw fath o weledigaeth efo nhw.

“Fel aelod o Blaid Cymru, dw i wrth gwrs yn gobeithio awn nhw yn ôl i mewn i’r Cabinet.

“Dw i’n gobeithio hefyd y bydd mwy o fenywod yn sefyll, ac y bydd mwy o ieuenctid yn mynd â’r cyngor ymlaen.”

Bydd etholiadau lleol yn cael eu cynnal yng Ngheredigion a ledled Cymru eleni ar ddydd Iau, Mai 5.