Mae cynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion wedi pleidleisio dros gau un o gartrefi’r henoed yn nhref Aberystwyth gan olygu fod yn rhaid i oddeutu 11 o breswylwyr ddod o hyd i gartref arall.
Mi fydd Cartref Gofal Preswyl Bodlondeb yn cau ei drysau am y tro olaf ar 31 Mawrth 2018.
Mae cryn wrthwynebiad wedi bod i’r penderfyniad sy’n golygu fod tua 33 o swyddi yn y fantol gyda gorymdaith yn y dref ddydd Sadwrn i geisio’i achub.
‘Penderfyniad anodd’
Ond mae’r Cyngor Sir yn pwysleisio mai dyma’r opsiwn olaf i’r cartref sy’n gwneud colledion difrifol bob blwyddyn.
Maen nhw’n nodi iddyn nhw gynnal ymgynghoriad cyhoeddus, gan geisio dod o hyd i ddarparwr preifat a chyfleuster iechyd meddwl integredig yno, ond bod hynny’n “anymarferol.”
“Roedd y penderfyniad i gau Bodlondeb yn un anodd ei wneud; dw i’n ymwybodol iawn bod y cartref wedi gwasanaethu trigolion hŷn y sir a’u teuluoedd yn dda am ddegawdau,” meddai’r cynghorydd Catherine Hughes.
“Mae gofynion ac angen pobol hŷn yn newid gyda phobol hŷn yn dewis derbyn gofal yn eu cartrefi,” ychwanegodd.
“Mae’r penderfyniad yn galluogi’r Cyngor i ddefnyddio adnoddau yn effeithiol; i sicrhau’r gofal gorau posib i’n trigolion hŷn.”
“Ffafrio llymder”
Wrth ymateb i benderfyniad Cabinet Cyngor Ceredigion heddiw dywedodd cynrychiolydd o Gynulliad Gwerin Ceredigion bod modd mynd â’r penderfyniad at gyfarfod cyngor llawn.
“Er gwaetha ymgyrchu diwyd y gymuned mae cyngor Ceredigion wedi ffafrio llymder heddiw eto.
Mae’n bryder ehangach na chartref Bodlondeb – dim ond un enghraifft o dorri a gwaredu gwasanaethau yw hyn.
“Mae’r cyngor yn mynnu mai llymder yw’r ateb, heb edrych ar ffyrdd amgen i gadw deupen llinyn ynghyd; ac wedi gwneud dewis hawdd yma, drwy dorri gwasanaethau’r rhai mwyaf bregus.
“Rydyn ni’n edrych ar y posibilrwydd o fynd â’r penderfyniad at gyfarfod cyngor llawn, gan obeithio na fydd gweddill cynghorwyr Ceredigion am amddifadu trigolion Ceredigion.”