Roedd sylwebydd gwleidyddol wedi condemnio’r ffordd y cafodd Carl Sargeant ei ddiswyddo.

Roedd ei sacio o’r Llywodraeth a’i atal o’r Blaid Lafur wedi bod yn “giaidd” meddai’r lobïydd Daran Hill, pennaeth y cwmni Positif Politics.

Fe ddywedodd mewn colofn – cyn y newyddion am farwolaeth yr AC – y byddai angen i’r cyhuddiadau fod yn “gryf iawn” i gyfiawnhau’r “kneecapping”  yr oedd wedi ei ddiodde’.

Ffordd uniongyrchol

Fe ddywedodd ar y wefan nation.cymru y byddai llawer yn tristau oherwydd ymadawiad Carl Sargeant o’i swydd, gan fod llawer yn edmygu ei “ffordd uniongyrchol a rhwydd”.

Ar y pryd, doedd AC Alyn a Glannau Dyfrdwy ddim wedi cael gwybod beth yn union oedd yr honiadau yn ei erbyn ac roedd wedi galw am ymchwiliad cyflym gan y blaid, “er mwyn iddo allu clirio ei enw”.

Yn ôl Daran Hill, roedd Carl Sargeant yn “fixer” o fri ac wedi llywio mwy o ddeddfau trwy’r Cynulliad nag unrhyw aelod arall o’r Llywodraeth yn y chwe blynedd ddiwetha’.