Mae adroddiadau bod Aelodau Cynulliad wedi’u gweld yn crïo ar ôl clywed y newyddion bod Carl Sargeant, AC Alun a Glannau Dyfrdwy wedi marw.
Ac ychydig ddyddiau ar ôl rhoi’r sac i’r cyn-Weinidog o’i Gabinet, mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi mynegi ei gydymdeimlad.
“Roedd Carl yn ffrind yn ogystal â chydweithiwr a dwi mewn sioc ac yn drist iawn am ei farwolaeth,” meddai.
“Fe wnaeth Carl gyfraniad mawr i fywyd cyhoeddus Cymru a gweithiodd yn ddiflino dros y bobl roedd e’n eu cynrychioli fel Gweinidog ac Aelod Cynulliad.
“Fe fydd e’n golled fawr i ein plaid ac i’r Senedd. Mae fy nghydymdeimladau gyda’i deulu ar yr amser anodd hwn.”
‘Sioc enfawr’
Dywedodd Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, Elin Jones AC: “Daeth y newyddion trist am farwolaeth Carl Sargeant AC fel sioc enfawr i mi. Gwasanaethodd bobl Alun a Glannau Dyfrdwy gyda balchder a dycnwch a bu ei gyfraniad at ddatblygiad y sefydliad democrataidd hwn yn un enfawr.
“Fel arwydd o barch i Carl, ni fydd y Cynulliad yn cwrdd heddiw. Byddwn oll am fyfyrio cyn rhoi teyrnged glodwiw iddo dros y dyddiau nesaf.
“Ar ran yr holl Aelodau a phawb sydd yn gweithio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, dymunaf ddatgan fy nghydymdeimlad dwysaf â’i deulu a’i gyd-weithwyr.”
‘Trist iawn’
Y gred yw bod Carl Sargeant, 49 oed, wedi lladd ei hun – mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i ddigwyddiad mewn adeilad yng Nghei Conna.
Mae ei deulu hefyd bellach wedi cadarnhau bod y gwleidydd wedi marw ac fe ddywedodd arweinydd Plaid Lafur Prydain, Jeremy Corbyn, ei fod yn drist iawn o glywed y newyddion.
Yn ôl gohebydd Golwg a Golwg360 yn y Cynulliad, Mared Ifan, mae yna sioc anferth ym Mae Caerdydd ar ôl i’r newyddion gyrraedd.
Roedd wedi cael ei sacio yn swydd Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant ar ôl honiadau yn ymwneud â’i ymddygiad rhywiol.
Mae rhai yn y Bae yn codi cwestiynau am y ffordd y cafodd Carl Sargeant ei ddiswyddo, gan awgrymu y gallai’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, fod wedi delio â’r sefyllfa yn well.
Ddydd Gwener, pan ddaeth y newyddion fod Carl Sargeant yn cael y sac oherwydd honiadau yn ei erbyn, roedd ef ei hun yn dweud nad oedd yn gwybod beth yn union oedd y cyhuddiadau.
‘Ymroddiad’
Mae Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynghyd â Guto Bebb wedi mynegi eu sioc a’u tristwch o glywed am ei farwolaeth.
“Mae fy nghalon i gyda’i deulu, ffrindiau a’i gydweithwyr,” meddai Alun Cairns.
Ac yn ôl Guto Bebb, mi wnaeth wasanaethu ei etholwyr yng ngogledd Cymru gyda’r “ymroddiad mwyaf. Anfonaf fy nghydymdeimladau dwysaf at ei deulu.”
‘Dyn cadarn’
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, wedi cydymdeimlo â theulu a ffrindiau Carl Sargeant a’i holl gydweithwyr yn y Blaid Lafur Gymreig.
“Mae hwn yn newyddion annisgrifiadwy o drist. Mae ein senedd wedi colli dyn cadarn, a nifer ohonom wedi colli ffrind.”
Ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, dywedodd Kirsty Williams AC: “Mae hyn yn newyddion hynod o drist ac yn sioc i bawb yma yn y Senedd a thu hwnt.
“Nid yn unig oedd Carl yn Aelod Cynulliad ymroddedig ond roedd hefyd yn weinidog y llywodraeth effeithiol iawn a oedd wedi cael effaith sylweddol ar wleidyddiaeth ar lefel genedlaethol a chymunedol.
“Roedd Carl yn ffrind da am nifer o flynyddoedd a bydd colled ar ei ôl. Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad gyda’i deulu yn ystod y cyfnod hynod o anodd yma.”
Canslo holl fusnes y Cynulliad
Cyhoeddwyd bod holl fusnes y Cynulliad yr wythnos hon wedi’i ganslo gyda busnes y Cynulliad ei aildrefnu. Bydd yn parhau yr wythnos nesaf.
Ni fydd darlith Hedd Wyn yn cael ei chynnal heno (nos Fawrth, 7 Tachwedd) ac ni fydd digwyddiad lansio a chyhoeddi adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Trefniadau Etholiadol y Cynulliad yn cael ei gynnal yfory (dydd Mercher).
Yn ogystal, ni fydd digwyddiadau cyhoeddus a oedd i’w cynnal fel rhan o ymweliad y Cynulliad i Sir Fflint yr wythnos nesaf.
Yn dilyn y newyddion am farwolaeth Carl Sargeant, mae rhaglen Y Byd ar Bedwar heno ar hunanladdiadau dynion wedi ei gohirio tan ddyddiad hwyrach, meddai S4C.