Mae’r Prif Weinidog wedi dweud ei fod yn gyndyn i roi dau set o reolau Covid-19 ar waith yng Nghymru – un yn y gogledd ac un gwahanol yn y de.

Yn ystod cynhadledd i’r wasg brynhawn heddiw mi gyhoeddodd y byddai rhagor o gyfyngiadau yn llacio, a bu’n ateb cwestiynau gan y wasg.

Cododd sawl cwestiwn am reolau newydd a gyflwynwyd yng ngogledd Lloegr, a holwyd Mark Drakeford a fyddai’n ystyried cyflwyno un set o reolau yn y gogledd, a set arall yn y de.

“Dw i ddim yn rhagweld sefyllfa lle byddai yna drefn wahanol yng ngogledd Cymru gyfan, a threfn gwbl wahanol yn ne Cymru,” meddai.

“Os bydd achosion yn cynyddu mewn ardaloedd – yn y de neu yn y gogledd – wnawn ni gyfeirio ein hymdrech iechyd cyhoeddus … er mwyn mynd i’r afael â’r achosion lleol.

“Rydym wedi dangos ein bod yn medru gwneud hynny yn llwyddiannus yn Ynys Môn ac ym Merthyr Tudful dros yr wythnosau diwetha’.”

Mae achosion coronafeirws wedi cynyddu yn Wrecsam yn ddiweddar, ond mae clystyrau mewn ffatrïoedd yn Ynys Môn a Merthyr Tudful bellach dan reolaeth.

Rhwystro teithio o Loegr?

Dros nos daeth cyhoeddiad na fyddai aelwydydd yn Manceinon, Swydd Efrog a Sir Gaerhirfryn yn cael cwrdd â’i gilydd mwyach. Roedd hyn yn ymateb i glystyrau newydd o’r haint.

Mewn ymateb i hyn, mae Liz Saville Roberts wedi galw am rwystro teithio diangen o’r ardaloedd yma.

Mae “gogledd orllewin Cymru yn un o brif gyrchfannau gwyliau i bobl o’r ardaloedd hyn”, meddai AS Dwyfor Meirionydd, wrth rannu ei gofidion.

Rhannodd Mark Drakeford safbwynt wahanol brynhawn heddiw.

Dywedodd ei fod yn deall y “pryderon” – ond aeth ati i ddweud bod “pobol yn teithio i’r ddau gyfeiriad” dros y ffin, ac nad oedd am ganolbwyntio ar gau ffiniau.

“Gwneud [teithio i Gymru yn] ddiogel – dyna yw fy nod,” meddai’r Prif Weinidog.

“Rydym yn dweud wrth unigolion sy’n dod i Gymru: ‘helpwch ni i gadw Cymru yn ddiogel’ ac rydym wedi rhoi gwybodaeth glir ynghylch sut allan nhw wneud hynna.

“Hyd yma, dw i’n credu bod pobol wedi parchu hynny yn fawr. Dyna mae’r dystiolaeth yn ei ddangos. A gan gymryd bod pobol yn [parchu] wnawn ni ddal ati i groesawu pobol i Gymru.”