Mae Cymdeithas Geidwadol leol Aelod Seneddol Dover, Natalie Elphicke, yn dweud eu bod yn ei “chefnogi’n llwyr.”

Daw hyn ar ôl i’w gŵr, a chyn-Aelod Seneddol Dover, Charlie Elphicke gael ei farnu yn euog o dri chyhuddiad o ymosod yn rhywiol.

Roedd Charlie Elphicke yn Aelod Seneddol tros Dover rhwng 2010 a 2019, a chafodd ei olynu gan ei wraig Natalie – doedd hi ddim yn y llys adeg y dedfrydu, er ei bod wedi bod yno yn ystod yr achos.

Mae Charlie Elphicke wedi ei ryddhau ar fechnïaeth, ond dywed y Barnwr ei fod yn wynebu “posibilrwydd go-iawn” o fynd i’r carchar ar ôl ymosod yn rhywiol ar ddwy ferch.

“Mae pob opsiwn [dedfrydu] yn agored,” meddai’r Barnwr, yr Ustus Whipple. “Ac mae yna bosibilrwydd go-iawn ei fod yn wynebu carchar.”

Datganiad Natalie Elphicke

Mae Natalie Elphicke wedi cyhoeddi datganiad, gan ddweud bod y dyfarniad yn “dod â phriodas 25 blynedd i ben.”

“Mae dyfarniad heddiw yn un sy’n dod â thristwch mawr,” meddai’r datganiad.

“Mae’n dod â phriodas 25 blynedd gyda’r unig ddyn rwyf erioed wedi ei garu i ben.”

Cadeirydd Gymdeithas Geidwadol Dover & Deal yn mynegi ei gefnogaeth

Mae Cadeirydd Gymdeithas Geidwadol Dover & Deal yn mynegi ei gefnogaeth i Natalie Elphicke.

“Yr unig beth dw i eisiau ei ddweud yw ein bod yn cefnogi Natalie yn llwyr,” meddai.

“Mae ganddi hi gefndir hynod broffesiynol ac mae hi wedi gwneud gwaith gwych er dod yn Aelod Seneddol.

“Dw i’n credu y dylai pawb roi ychydig o lonydd i Natalie er mwyn iddi allu adlewyrchu ar beth sy’n gyfnod anodd iddi hi a’i theulu.”