Mae disgwyl i Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ddatgan yn nes ymlaen heddiw (dydd Gwener 31 Gorffennaf) newidiadau i reoliadau’r coronafeirws yng Nghymru a fydd yn ei gwneud yn haws i deuluoedd a ffrindiau gyfarfod yn yr awyr agored.

O ddydd Llun 3 Awst ymlaen, bydd hyd at 30 o bobl yn cael cyfarfod yn yr awyr agored ac ni fydd plant dan 11 oed yn gorfod cadw 2m o bellter oddi wrth ei gilydd nac oddi wrth oedolion – mae hyn yn unol â’r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf am gyfraddau trosglwyddo is ymhlith y grŵp oedran hwn.

Hefyd o ddydd Llun 3 Awst, bydd tafarndai, bariau, bwytai a chaffis yn cael ailagor y tu mewn o ddydd Llun ymlaen, a hefyd lawntiau bowlio dan do, tai ocsiwn a neuaddau bingo.

Yn ei gynhadledd am 12:30pm heddiw, mae disgwyl i Brif Weinidog Cymru ddiolch i fusnesau am weithio gyda Llywodraeth Cymru a chyflwyno mesurau newydd i leihau lledaeniad y coronafeirws.

Fodd bynnag, mae’n debyg y bydd hefyd yn rhybuddio y bydd camau’n cael eu cymryd yn erbyn y rhai sy’n anwybyddu’r mesurau sydd wedi’u sefydlu er mwyn cadw Cymru’n ddiogel.

Wrth siarad ar Radio Wales Breakfast, dywedodd Mr Drakeford:

“Credwn bod gennym ni hyblygrwydd yng Nghymru i barhau i godi’r cyfyngiadau. Rydyn ni am ddefnyddio peth o’r hyblygrwydd i ailagor [y sector] lletygarwch a hamdden. Felly bydd caffis, bariau a bwytai’n gallu ailagor o ddydd Llun yr wythnos nesaf.

“Yna, ar 10 Awst bydd pyllau nofio, campfeydd a chanolfannau hamdden yn cael ailagor, ynghyd a mannau chwarae dan do i blant.

“Fodd bynnag, ry’n ni’n defnyddio’r rhan fwyaf o’r hyblygrwydd sydd gennym ar gyfer teuluoedd a ffrindiau. O ddydd Llun ymlaen, bydd rheolau pellhau cymdeithasol ddim bellach yn berthnasol i blant dan 11 – oherwydd yr hyn ry’n ni bellach yn ei wybod am ledaeniad y feirws a phlant. Mae’n ddiogel gwneud hynny.

“Ry’n ni hefyd yn mynd i adael i fwy o bobl gwrdd y tu allan o ddydd Llun ymlaen. Mae gymaint mwy diogel cwrdd y tu allan yn yr heulwen.”

O ran cynlluniau pellach at y dyfodol, dywedodd Mr Drakeford:

“Wedyn, ymhen pythefnos, os gallwn ni, fe hoffen ni gynnig mwy o gyfleoedd i bobl gwrdd y tu mewn. Ond mae mwy o risg i hynny ac rydyn ni am gael gwerth pythefnos arall o ddata i sicrhau bod hynny’n ddiogel.

“Bydd gwrandawyr wedi clywed am ryddid yn cael ei gyfyngu eto yng ngogledd Lloegr o ran pobl yn cwrdd y tu mewn oherwydd y dystiolaeth bod y feirws yn cael ei ledaenu gan aelwydydd yn cwrdd dan do. Ein gobaith ni yng Nghymru yw peidio gorfod mynd yn ôl ar ein penderfyniadau, felly rydyn ni am  aros pythefnos arall i wirio bod y data’n symud i’r cyfeiriad cywir – ac os ydyw, fe gymerwn ni’r cam yna.”

O ran y sefyllfa yn Wrecsam, ble mae nifer o achosion o’r coronafeirws wedi’u cofnodi, dywedodd Mr Drakeford wrth BBC Wales Breakfast:

“Fe gwrddes i a Vaughan Gething [Y Gweinidog Iechyd] gyda staff uwch o Wrecsam ddoe. Y sefyllfa adroddwyd inni oedd fod pethau’n sefydlog.

“Oes, mae mwy o heintiadau bob dydd, ond nid yw nifer yr heintiadau ychwanegol hynny’n codi.

“Wrth bwyso a mesur a chan wybod bod y brigau hyn a welir yn Wrecsam yn gyfyngedig i safleoedd penodol, credwn ei bod yn iawn i bobl Wrecsam gael manteisio ar y rhyddid newydd gyda gweddill pobl Cymru.

Os bydd angen, byddwn yn cymryd gweithredu lleol – mae hynny’n cael ei adolygu’n barhaus bob dydd.”