Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol De Cymru am “gynyddu cydweithio ac ymgysylltu strategol” rhwng y ddau sefydliad.
Mewn llythyr at staff, mae Is-Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod, yr Athro Medwin Hughes, yn galw’r closio yma rhwng y ddwy brifysgol yn “gam beiddgar”.
Mewn llythyr arall gan benaethiaid y ddau sefydliad, mae sôn am helpu Cymru yn y cyfnod ar ôl y pandemig:
“Daw’r cydweithio hwn â galluoedd, capasiti ac arbenigedd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol De Cymru at ei gilydd er mwyn cryfhau capasiti arloesi Cymru, cefnogi adfywio economaidd ac adnewyddu ei chymunedau ar ôl Covid…
“Bydd y ffocws ar effaith i alluogi ac annog meddwl newydd ynghylch rhai o heriau mwyaf cymdeithas; cydweithio i gyflawni mwy dros ein cymunedau, busnesau ac unigolion a pharhau ar yr un pryd gyda’n hymrwymiad craidd i gynhwysiad a meithrin talentau.”
Mae Bwrdd Datblygu wedi ei sefydlu i drefnu’r cydweithio, gyda dau gadeirydd wrth y llyw – Medwin Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant; a Julie Lydon, Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru.