Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cyhoeddi bydd parthau diogel mewn pedair tref yng Ngheredigion yn cael eu hymestyn am dair wythnos arall.
Ers Gorffennaf 13 mae strydoedd yn Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi a Cheinewydd wedi eu cau i gerbydau rhwng 10 y bore a 6 yr hwyr bob dydd er mwyn creu gofod lle gall pobol gerdded o gwmpas yn ddiogel.
“Diolchwn i drigolion Ceredigion am gadw at y rheoliadau ac am gadw nifer yr achosion o’r coronafeirws yn gymharol isel”, meddai llefarydd ar ran y Cyngor Sir.
‘Diwylliant caffi Ewropeaidd go-iawn’
Mae’r Cynghorydd Alun Williams sy’n cynrychioli ward Aberystwyth Bronglais ar Gyngor Sir Ceredigion wedi croesawu’r “diwylliant caffi Ewropeaidd go-iawn” sydd wedi ei danio yn Aberystwyth.
“Yn gyffredinol, tra bod llawer yn dioddef – mae masnachwyr lleol wedi ymateb yn gadarn i’r argyfwng.
“Mae masnachwyr bwyd … wedi ymateb yn dda, ac maen nhw wedi bod yn darparu gwasanaeth da iawn i bobol leol.”
Addasiadau
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn adolygu’r trefniadau newydd yn barhaus ac eisoes wedi gwneud newidadau.
Mae’r palmentydd wedi eu lledu yn Aberaeron ac mae llefydd parcio ychwanegol, gan gynnwys rhai i’r anabl, wedi eu hychwanegu yn Aberystwyth.
Ychwanegodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion fod parthau diogel mewn trefi eraill o fewn y sir yn cael eu hystyried ar raddfa lai.