Mae’r Aelod Cynulliad Carl Sargeant, 49, wedi cael ei ddarganfod yn farw, ddyddiau’n unig ar ol iddo gael ei wahardd o’r Blaid Lafur yn sgil honiadau o aflonyddu rhywiol.
Roedd hefyd wedi colli ei swydd yn Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant Llywodraeth Cymru tra bod ymchwiliad i “honiadau” yn ei erbyn yn cael ei gynnal.
Mewn datganiad dywedodd y teulu eu bod “wedi tristau y tu hwnt i eiriau” a’i fod yn “wr, tad a chyfaill oedd yn cael ei garu’n fawr.”
Mae arweinydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn wedi dweud bod ei farwolaeth yn “ofnadwy ac yn newyddion syfrdanol.”
Y gred yw fod Carl Sargeant wedi lladd ei hun. Dywed Heddlu’r Gogledd eu bod wedi eu galw i eiddo yng Nghei Conna tua 11.30yb ddydd Mawrth yn dilyn adroddiadau bod corff wedi cael ei ddarganfod.
Nid ydyn nhw’n trin y farwolaeth fel un amheus ac mae’r crwner wedi cael ei hysbysu.
“Sioc” – Carwyn Jones
Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones: “Roedd Carl yn ffrind yn ogystal â chydweithiwr a dwi mewn sioc ac yn drist iawn am ei farwolaeth. Fe wnaeth Carl gyfraniad mawr i fywyd cyhoeddus Cymru a gweithiodd yn ddiflino dros y bobl roedd e’n eu cynrychioli fel Gweinidog ac Aelod Cynulliad.
“Fe fydd e’n golled fawr i ein plaid ac i’r Senedd. Mae fy nghydymdeimladau gyda’i deulu ar yr amser anodd hwn.”
Cyfarfod
Roedd disgwyl i arweinwyr pleidiau gwleidyddol Cymru drafod heddiw sut mae atgyfnerthu’r broses o ymateb i honiadau am aflonyddu rhywiol o fewn y Cynulliad.
Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, oedd wedi galw’r cyfarfod yn dilyn gohebiaeth rhyngddi hi â Carwyn Jones yr wythnos diwethaf.
Ond mae Elin Jones wedi cadarnhau fod y Cynulliad wedi’i ohirio heddiw.
Dywedodd bod y newyddion am farwolaeth Carl Sargeant wedi bod yn “sioc enfawr”.
“Fel arwydd o barch i Carl, ni fydd y Cynulliad yn cwrdd heddiw. Byddwn oll am fyfyrio cyn rhoi teyrnged glodwiw iddo dros y dyddiau nesaf,” meddai.
Cefndir
Mi fu Carl Sargeant yn Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant Llywodraeth Cymru tan yr wythnos ddiwethaf pan gafodd ei wahardd o’r blaid Lafur wrth i ymchwiliad i honiadau o aflonyddu rhywiol yn ei erbyn fynd rhagddynt.
Roedd yn byw yng Nghei Conna, Sir y Fflint gyda’i wraig ac mae ganddyn nhw ddau o blant, ac fe ddaeth yn Aelod Cynulliad i Alun a Glannau Dyfrdwy yn 2003.
Cyn hynny roedd wedi hyfforddi’n ddiffoddwr tân diwydiannol ac wedi gweithio mewn ffatri gweithgynhyrchu cemegol a bu’n archwilydd ansawdd ac amgylcheddol.
Roedd wedi gwasanaethu ar Gyngor Tref Cei Conna ac yn llywodraethwr i Goleg Glannau Dyfrdwy ac Ysgol Bryn Deva.