Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud eu bod nhw’n ymchwilio i ddigwyddiad mewn adeilad yng Nghei Conna.
Mae ‘na bosibilrwydd bod corff wedi cael ei ddarganfod yno ac mae Golwg360 yn deall bod cysylltiad rhwng hyn ac adroddiadau am farwolaeth AC Alyn a Glannau Dyfrdwy, Carl Sargeant.
Dywed yr heddlu nad oes rhagor o fanylion ar hyn o bryd ond mae sesiwn heddiw o’r Cynulliad wedi ei ohirio.