Mae angen i bobol Cymru “gefnogi pleidiau’r chwith a’r chwith cymhedrol” er mwyn osgoi dinistr cyfalafiaeth, yn ol awdur a Marcsydd.
Ac wrth drafod canrif ers Chwyldro Comiwnyddol Rwsia yn 1917, mae Gareth Miles yn dweud bod y Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn ddwy blaid y dylai uno a’i gilydd.
“Hoffwn weld Plaid Cymru a’r Blaid Lafur yn uno i ddweud y gwir,” meddai Gareth Miles wrth golwg360.
“Mi fasa hynny’n fanteisiol – cael gwared ar y gwrth-Gymreictod yn y Blaid Lafur a gwrth-sosialaeth ymhlith rhai pobol ym Mhlaid Cymru – a chael plaid social-democratic go effeithiol mewn cydweithrediad efo’r undebau.”
Y Blaid Gomiwnyddol
Mae Gareth Miles yn aelod o’r Blaid Gomiwnyddol, ac yn cydnabod bod eu dylanwad wedi pylu ers anterth Undeb Cenedlaethol y Glowyr (NUM) yn yr 1970au.
Bellach, mae’r blaid yn “llawer llai” o ran ei haelodaeth, meddai, ac un o’i “phrif swyddogaethau” yw cynnal y papur dyddiol sosialaidd The Morning Star“..
“Pan oedd yr NUM mewn grym, mi oedd y Blaid Gomiwnyddol yn rymus iawn. Ond na, dydy o ddim mor rymus yn awr,” meddai Gareth Miles.
“Pan oedd yr undebau llafur yn filwriaethus, roedden nhw’n derbyn arweinyddiaeth, awgrymiadau a chanllawiau’r Blaid Gomiwnyddol. Ar hyn o bryd mae’r blaid yn llawer llai.”