Fe gafodd chwyldro Rwsia yn 1917 effaith fawr ar gymoedd de Cymru, yn ôl undebwr blaenllaw sy’n honni bod y glowyr wedi “troi’n Gomiwnyddion” am gyfnod.

Yn ôl Tyrone O’Sulivan, cyn-Ysgrifennydd Undeb Cenedlaethol y Glowyr (yr NUM) a’r glowr a drodd yn arweinydd yr ymdrech i brynu pwll Y Twr, roedd yr undeb wedi’i “ddominyddu gan Gomiwnyddion”.

Mae’n dweud ei fod yn “bendant” bod cysylltiadau wedi bod rhwng undebau Cymreig a rhai Sofietaidd, ac yn awgrymu bod canghennau’r undeb arfer cael eu gwahodd i Mosgow.

“Doedd dim gwadu’r peth yn ne Cymru,” meddai Tyrone O’Sullivan wrth golwg360. “Yn syth wedi’r Chwyldro Rwsiaidd, fe drodd yr NUM yn gomiwnyddol.”

“Am gyfnod os nad oeddech chi’n y blaid gomiwnyddol, doedd dim modd cael dyrchafiad … Mi oeddwn i’n [gweithio yng] Nglofa’r Tŵr, ac roedd hanner y pwyllgor yn gomiwnyddol a hanner o blaid Llafur. Roedd hyn yn 1967,1968.”

“I ddweud y gwir, ni oedd un o’r ychydig lofeydd yn ne Cymru lle oedd mwyafrif yn Llafur,” ychwanega’r undebwr sy’n nodi mai sosialydd yw ef, nid comiwnydd.

Pyllau cochion

Wrth edrych yn ôl ar ei gyfnod yn gweithio yng Nglofa’r Tŵr ac Abergorki, mae’n cynnig darlun o ddiwrnod arferol.

Ac, mae’r darlun yn rhyw hanner esbonio pam trodd Cymoedd De Cymru yn hafan i syniadau Karl Marx.

“Dyw pobol ddim yn sylweddoli – unwaith yr ydych chi o dan ddaear, does dim cerddoriaeth i lawr fan yna,” meddai. “Dim menywod. Yr unig adloniant sydd gyda chi yw eich bois…

“Byddan nhw’n siarad am broblemau yn y tŷ, a rygbi ac ati. Ond yn ystod y dydd, roedden ni bob tro yn lando lan yn siarad am wleidyddiaeth.

“Roedden ni wastad yn siarad am wleidyddiaeth. A dw i ddim yn credu bod llawer o swyddi tebyg – byddech chi ddim yn mynd i’r ffatri a siarad am wleidyddiaeth.”