Mae ffermwyr moch yn cael cynnig hyfforddiant ar sut i dorri’r anifeiliad yn ddarnau i’w gwerthu yn syth i gwsmeriaid.

Mae’r cyrsiau gan y corff Menter Moch Cymru yn cynnwys sesiynau gwneud selsig, halltu cig, charcuterie ar gyfer dechreuwyr, a chigyddiaeth moch ymarferol.

Ac mae un ffermwr sydd wedi bod ar y cyrsiau yn eu hargymell i amaethwyr eraill.

Manteisiodd David Harries o Tyn y Lon, Penysarn, Ynys Môn ar y cyrsiau yn 2020, a dywedodd eu bod nhw wedi ei alluogi i ychwanegu gwerth at gynnyrch y fferm deuluol a dysgu sgiliau newydd.

“Mae’r cwrs wedi rhoi cymaint o hyder a phrofiad i mi wella ein busnes o werthu ein porc ein hunain,” meddai David Harries.

“Heddiw rwy’n gallu cael carcas llawn o’r lladd-dy a’i gigydda yma fy hun ar y fferm ar gyfer ein hanghenion ein hunain.

“Fe wnaeth y cyrsiau hefyd agor cyfle arall i mi – i allu prosesu ein porc ein hunain ymhellach yn y dyfodol,” ychwanegodd.

“Byddwn yn annog cynhyrchwyr moch i fanteisio ar y cyrsiau sy’n cael eu cynnig. Mae’n gyfle i gael gwybodaeth am yr holl ddarnau gwahanol o borc a hefyd mae’n gyfle i ennill eich arbenigedd eich hun ym myd cigyddiaeth.

“Mwynheais y cwrs yn fawr.”

Mae gan Fenter Coch Cymru gyfres o gyrsiau cigyddiaeth yn Llangefni fis nesaf, ac mae’n bosib cael mwy o wybodaeth ar wefan y fenter.